English icon English
43620 TTP COVID PASS STATIC 2 1100x628 3W

Cymru’n cyflwyno Pàs Covid ar gyfer digwyddiadau a chlybiau nos

Wales introduces Covid Pass for events and nightclubs

Rhaid i bobl yng Nghymru ddangos Pàs Covid neu eu statws Covid i fynd i glybiau nos a digwyddiadau mawr o heddiw ymlaen (7am ddydd Llun 11 Hydref 2021).

Mae cyflwyno’r Pàs Covid yn adeiladu ar y mesurau sydd ar waith i helpu i ddiogelu Cymru a’i chadw ar agor yn ystod y pandemig.

Mae achosion o’r coronafeirws yn uchel o hyd ledled Cymru, yn enwedig ymysg oedolion iau.

Mae’r gyfraith yn newid heddiw i’w gwneud yn ofynnol i oedolion dros 18 oed ddangos Pàs Covid y GIG neu brawf Covid negatif i fynd i leoliadau penodol:

  • Clybiau nos a lleoliadau tebyg;
  • Digwyddiadau dan do heb seddi ar gyfer mwy na 500 o bobl;
  • Digwyddiadau awyr agored heb seddi ar gyfer mwy na 4,000 o bobl;
  • Unrhyw leoliad neu ddigwyddiad sy’n cynnwys mwy na 10,000 o bobl.

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething:

“Mae ein rhaglen frechu ragorol yn parhau i fynd o nerth i nerth ond nid yw’r pandemig drosodd. Mae achosion yn uchel o hyd ledled Cymru ac, yn anffodus, mae teuluoedd ym mhob rhan o’r wlad yn colli anwyliaid i’r feirws ofnadwy hwn.

“Y cyngor clir a gawsom gan ein cynghorwyr gwyddonol yw bod angen inni gymryd camau cynnar nawr.

“Un yn unig mewn cyfres o fesurau yw’r Pàs Covid i helpu i atal pobl rhag lledaenu a dal y coronafeirws ac i helpu i gadw’r economi ar agor. Does neb ohonom am weld rhagor o gyfyngiadau caeth na busnesau’n gorfod cau eu drysau unwaith eto.

“Mae dangos Pàs Covid eisoes yn rhan o’n hymdrech ar y cyd i gadw busnesau ar agor, gyda rhai digwyddiadau mawr, fel gŵyl lwyddiannus y Dyn Gwyrdd, yn ei ddefnyddio.

“Gyda’n gilydd, os byddwn ni i gyd yn parhau i ddilyn y canllawiau clir sy’n ail natur i bawb erbyn hyn, byddwn ni’n gwneud popeth y gallwn ni i Ddiogelu Cymru.”

Gall pobl sydd wedi'u brechu'n llawn yng Nghymru eisoes lawrlwytho Pàs COVID y GIG i ddangos a rhannu eu statws brechu yn ddiogel. Mae hefyd yn caniatáu i bobl ddangos eu bod wedi cael canlyniad prawf llif unffordd negatif o fewn y 48 awr ddiwethaf.

Dim ond pobl sy’n mynychu’r lleoliadau a’r digwyddiadau hyn fydd angen dangos eu statws Covid. Caiff staff sy’n gweithio neu’n gwirfoddoli ynddynt eu hannog i gymryd profion llif unffordd ddwywaith yr wythnos i wneud yn siŵr nad oes ganddynt y feirws.

Mae’n ofynnol yn ôl y gyfraith i weithleoedd gynnal asesiadau risg Covid, a rhoi mesurau rhesymol ar waith i sicrhau diogelwch staff.

Cafodd pasys Covid eu defnyddio’n llwyddiannus mewn llawer o leoliadau a digwyddiadau yng Nghymru drwy gydol yr haf.

Cadarnhaodd y Prif Weinidog yr wythnos diwethaf y bydd Cymru’n aros ar lefel rhybudd sero am y tair wythnos nesaf. Mae cynlluniau wedi’u paratoi i ymateb i aeaf heriol i ddod gyda’r coronafeirws a’r ffliw tymhorol yn cylchredeg.

Mae Gweinidogion yn parhau i annog pawb i gymryd camau i leihau lledaeniad y feirws drwy barhau i weithio gartref pan fo hynny’n bosibl, sicrhau’ch bod yn manteisio ar y cynnig o frechlyn Covid, cadw’ch pellter oddi wrth eraill, ynysu a chymryd prawf PCR os oes gennych symptomau, a gwisgo gorchudd wyneb mewn mannau cyhoeddus dan do ac ar drafnidiaeth gyhoeddus.

Bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio’r trefniadau gorfodi presennol i fonitro cydymffurfiaeth. Golyga hyn y bydd angen i fusnesau a digwyddiadau sicrhau bod eu trefniadau arfaethedig i gydymffurfio â rheoliadau’r Pàs Covid yn cael eu cynnwys yn eu hasesiadau risg, a’u bod yn rhoi mesurau rhesymol ar waith i gydymffurfio â’r gofynion.

Bydd cosbau am beidio â chydymffurfio yn cynnwys:

  • hysbysiad gwella eiddo neu hysbysiad cau eiddo;
  • hysbysiad cosb benodedig a dirwy o hyd at £10,000 i fusnesau.

Yn ogystal, mae hi bellach yn drosedd i berson ddarparu tystiolaeth ffug neu gamarweiniol o’i statws brechu neu ei statws profi pan fo angen y dystiolaeth honno fel rhan o’r gofyniad i ddangos Pàs Covid.

Mae rhagor o wybodaeth a chanllawiau ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru