Skip to main content

"Inspirational" Haverfordwest station retailer celebrates 60 years' service

11 Hyd 2021

Mae manwerthwr gorsaf sydd wedi bod yn rhedeg ciosg am 60 mlynedd wedi cael ei ddisgrifio a'i ganmol gan Trafnidiaeth Cymru fel “aelod ysbrydoledig o deulu’r rheilffordd”.

Dechreuodd Jimmy Summons, sy'n rhedeg y ciosg papur newydd yng ngorsaf Hwlffordd yn Sir Benfro, ei yrfa yn y dyddiau pan roedd y trenau stêm yn ei hanterth ac yn gwibio heibio i gwrdd â'r fferi yn Abergwaun pan oedd ond yn 16 oed ym 1961.

Dros y blynyddoedd, mae wedi gweld Richard Burton, y Tywysog Siarl a'i Huchelder Brenhinol y Frenhines Elizabeth 2 yn yr orsaf ac mae wedi gwerthu nwyddau i’r Arglwydd Snowdon a'r actor Jerome Flynn, un o sêr y gyfres ddrama Soldier Soldier.

A dim ond mis i fynd cyn ei ben-blwydd yn 77oed, dywed Jimmy nad oes ganddo unrhyw gynlluniau i ymddeol.

“Mae fy nghath yn fy neffro am 4:45 bob bore ac rydw i'n mynd i lawr i wneud te a pharatoi'r papurau,” meddai Jimmy, sydd wedi byw yn y dref ar hyd ei oes.

“Byddaf yn danfon papurau i'm cwsmeriaid o amgylch y dref cyn dod i lawr i'r orsaf i gwrdd â'r trên cynnar.

“Rydw i wrth fy modd oherwydd dydych chi byth yn gwybod pwy all ddod i mewn i’r ciosg neu i ble maen nhw’n mynd, ond rydw i'n ceisio eu trin i gyd yr un fath.”

Gadawodd yr ysgol yn 15 oed ac yna, bu Jimmy yn gweithio gyda'i frawd cyn ymgymryd â'r ciosg gyda chaniatâd John Menzies i werthu papurau newydd, llyfrau a thybaco yn yr un flwyddyn y cafodd yr Arlywydd John F Kennedy ei urddo yn UDA.

Roedd dyddiau y trên stêm yn prysur ddod i ben a bwyell Beeching ar fin disgyn ar reilffyrdd ledled Cymru.  Roed y tîm oedd yn rheoli parseli a chyflogau yn llawer iawn mwy bryd hynny.

“Fe gawson ni gyfnodau gwych dros y blynyddoedd,” meddai Jimmy.

“Byddaf bob amser yn cofio fy ffrindiau da Dai Havard a Jimmy Morgan.  Arferai staff y rheilffordd edrych ar fy ôl pan oeddwn yn ifanc ac yn dechrau allan ac rwyf bob amser wedi cael modd i fyw yn bod yn rhan o bethau yma.  Rydyn ni wedi cael llawer o sbort dros y blynyddoedd er y bu ychydig o eiliadau cofiadwy iawn hefyd.

“Unwaith, flynyddoedd lawer yn ôl, cwympodd troli parseli ar y lein a bu’n rhaid i mi neidio i lawr gyda gweddill y bechgyn a helpu i’w godi cyn bod y trên yn cyrraedd*.  Dro arall roedd yn rhaid i mi rybuddio'r gard fod lori wedi taro'r bont reilffordd yn nes i fyny'r trac.

“Daeth Richard Burton i'r ciosg pan oedd yn ffilmio Under Milk Wood yn Abergwaun ac yn dal trên yn ôl i Lundain, er yn anffodus, welsom ni ddim Elizabeth Taylor.

“Dros y blynyddoedd, mae aelodau o’r teulu brenhinol wedi galw yma ac rydw i'n cofio codi llaw ar y Tywysog Siarl a chwifiodd yn ôl arna i.  Bryd hynny, roedden nhw ar y ffordd i ddigwyddiad yng Nghastell Picton.”

*Mae TrC yn pwysleisio na ddylech chi fyth fynd ar y trac i adfer unrhyw eitemau a ollyngwyd.

Mae Jimmy wedi bod yn briod â'i wraig annwyl Lorraine, 74 oed, ers blynyddoedd lawer ac mae hi hefyd yn dal i weithio, mewn cartref preswyl.  Mae rhai o’r preswylwyr y mae hi’n gofalu amdanynt yn iau na hi!

Rhoddodd y gorau i werthu sigaréts sawl blwyddyn yn ôl ac mae wedi gweld dirywiad yn y farchnad lyfrau dros y blynyddoedd hefyd.

“Ymddengys nad oes cymaint o bobl yn hoffi darllen ar eu taith mwyach, sy’n eithaf trist.  Mae'n ymddangos eu bod i gyd ar eu ffonau symudol neu iPads.  Ond mae'n braf bod llawer o fy nghwsmeriaid hŷn wedi dechrau codi allan eto ar ôl Covid ac mae mwy o fynd ar y papurau newydd bellach hefyd.

Dywedodd James Nicholas, Rheolwr Gorsaf Trafnidiaeth Cymru: “Mae Jimmy wir yn rhan o’r adeiladwaith yma yn Hwlffordd ac mae gan ein holl gwsmeriaid a chydweithwyr feddwl y byd ohono.

“Mae'r ffaith ei fod yn codi mor gynnar bob dydd ac yn dal i weithio mor galed i ddarparu gwasanaeth mor wych i'n cwsmeriaid hyd yn oed ar ôl 60 mlynedd yn anhygoel.  Mae’n aelod gwirioneddol ysbrydoledig o deulu'r rheilffordd.  Diolch am yr holl waith caled Jimmy.  Dyma ddymuno’n dda iawn i chi am flynyddoedd lawer eto yn Hwlffordd.”