- Cwcis sydd wir eu hangen
Cwcis sydd wir eu hangen
Mae rhai o’n cwcis yn hanfodol ac ni fydd rhannau o’r safle’n gweithio hebddynt. Mae hyn yn cynnwys cofnodi eich dewisiadau cadw cwcis.
28 Hyd 2021
Mae cefnogwyr rygbi sy'n mynd i Gaerdydd i wylio gemau rhyngwladol Cymru yr hydref hwn yn cael eu hatgoffa bod yn rhaid iddyn nhw wisgo gorchudd wyneb ar drafnidiaeth gyhoeddus.
Mae disgwyl torf o 74,500 yn Stadiwm y Principality ddydd Sadwrn ar gyfer gêm agoriadol Cymru yn y gyfres yn erbyn Seland Newydd - y tro cyntaf i'r holl docynnau gael eu gwerthu ers twrnamaint y Chwe Gwlad yn 2020.
Gyda disgwyl y bydd llawer mwy o filoedd o bobl yn dod i brifddinas Cymru i wylio'r ornest mewn bariau a lleoliadau eraill, mae Trafnidiaeth Cymru a Heddlu Trafnidiaeth Prydain yn pwysleisio pwysigrwydd dilyn rheolau Covid Llywodraeth Cymru.
Dywedodd Leyton Powell, Cyfarwyddwr Diogelwch a Chynaliadwyedd Trafnidiaeth Cymru: “Bydd ein staff rheoli torf a diogelwch yn gweithio’n agos gyda BTP ar ddiwrnod y gêm i atgoffa cefnogwyr rygbi ei bod yn dal yn ofyniad cyfreithiol i wisgo gorchudd wyneb ar drafnidiaeth gyhoeddus.
“Gall unrhyw un sy’n gwrthod gwisgo gorchudd wyneb heb reswm dilys gael ei atal rhag teithio neu gellir gofyn iddyn nhw adael y gwasanaeth.
“Rydyn ni eisiau i bob teithiwr gael taith ddiogel a hwylus yn ôl ac ymlaen i’r gêm. Rydyn ni wedi bod mewn cysylltiad â chlybiau rygbi i helpu i drosglwyddo’r neges y dylai gorchuddion wyneb fod yn rhan hanfodol o git pob cefnogwr rygbi yr hydref hwn.
“Dylai unrhyw un sy’n anghofio teithio gyda gorchudd wyneb siarad â staff TrC am gymorth.”
Dywedodd Arolygydd BTP Richard Powell: “Rydyn ni'n gweithio'n agos gyda'n partneriaid trwy gydol y twrnamaint i helpu'r miloedd sy'n defnyddio'r rheilffordd i deithio yn ôl ac ymlaen i'r digwyddiadau yn ddiogel.
“Bydd gennym fwy o bresenoldeb mewn lleoliadau allweddol, a bydd swyddogion yn atgoffa teithwyr o’r gofyniad i wisgo gorchudd wyneb ar drafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru, oni bai eu bod wedi’i heithrio.
“Yn yr un modd â phob digwyddiad mawr, mae'n bwysig iawn i bawb sy'n defnyddio'r rheilffordd gadw'n effro, bod yn wyliadwrus, a riportio unrhyw weithgaredd amheus i staff yr orsaf, swyddog BTP, neu anfon neges destun at 61016 gyda rhywfaint o fanylion."
Mae nifer o fesurau eraill ar waith i gadw teithwyr yn ddiogel gan gynnwys glanweithydd dwylo mewn gorsafoedd, gwell cyfundrefnau glanhau ar drenau a gorsafoedd a systemau ciwio i reoli llif pobl i mewn i orsafoedd ac ar drenau.
Bydd TrC yn rhedeg amserlen lawn gyda chapasiti ychwanegol ar ein trenau prysuraf a bydd yr holl gerbydau sydd ar gael mewn gwasanaeth, ond ni fydd cadw pellter cymdeithasol yn bosibl ar wasanaethau fydd yn cael eu cynnal ar ddiwrnod y gemau. Mae TrC yn annog cwsmeriaid i ystyried hyn wrth ddewis p'un ai i deithio ai peidio.
Cynghorir unrhyw un sy'n teithio o orllewin neu ddwyrain Cymru i Gaerdydd ar hyd y brif reilffordd i ddefnyddio gwasanaethau rhyng-ddinas sydd â mwy o gapasiti mwy lle bo hynny'n bosibl ac anogir y rhai sy'n teithio pellteroedd byrrach i gerdded, beicio neu ddefnyddio gwasanaethau bysiau lleol.
Ychwanegodd Bill Kelly, Cyfarwyddwr Llwybr Network Rail ar gyfer Cymru a'r Gororau: “Mae ein timau wedi bod yn gweithio’n agos gyda Thrafnidiaeth Cymru wrth i ni baratoi i groesawu miloedd o gefnogwyr a gwylwyr rygbi i Gaerdydd.
“Hoffem atgoffa pob teithiwr fod gwisgo gorchudd wyneb yn ofyniad cyfreithiol wrth deithio ar drafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru.”