English icon English
The Parochial Church Council of Llandyfodwg & Cwmogwr Parish-2

£1.2m ar gyfer prosiectau cymunedol lleol

£1.2m for local community projects across South Wales

Mae 17 o brosiectau cymunedol wedi derbyn cyfran o dros £1.2m o gyllid gan Lywodraeth Cymru.

Mae'r Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol yn ariannu amwynderau a ddefnyddir yn helaeth i wella eu cynaliadwyedd. Mae’r amwynderau hynny’n darparu cyfleoedd i bobl leol eu defnyddio fel rhan o'u bywydau bob dydd.

Mae'r grantiau diweddaraf (hyd at £250,000) wedi’u dyfarnu i’r canlynol:

  • Cyngor Plwyf Eglwysig Llandyfodwg a Chwm Ogwr, Pen-y-bont ar Ogwr - £153,000 i ddarparu canolfan gymunedol sy'n cynnwys cyfleusterau modern.
  • Llyfrgell Gymunedol Cymer Afan, Castell-nedd Port Talbot - £163,000 i adnewyddu'r llyfrgell gymunedol, sy'n cynnwys man penodol i blant.
  • Ymddiriedolaeth Eglwys Gymunedol Bethel, Casnewydd - £249,000 i ehangu capasiti'r adeilad i ddarparu ar gyfer mwy o brosiectau cymunedol. Cafodd yr adeilad ei losgi'n ulw yn y gorffennol.
  • YMCA Pontypridd, Rhondda Cynon Taf - £250,000 i ailddatblygu'r YMCA. Bydd yr arian hwn yn cael ei ddefnyddio'n benodol ar gyfer y feithrinfa a'r ardaloedd cymunedol.
  • RSPCA Llys Nini, Abertawe - £195,000 i adeiladu 'Yr Ysgubor', sy'n cynnwys caffi â man chwarae i blant, ystafell gyfarfod/ystafell ddosbarth, siop elusen a man penodol ar gyfer rhoddion.

Mae’r grantiau diweddaraf llai (hyd at £25,000) wedi’u dyfarnu i’r canlynol:

  • Theatr Beaufort, Blaenau Gwent - £7,000 ar gyfer system goleuadau fodern sy'n arbed ynni.
  • Clwb Chwaraeon Cymunedol Blaina, Blaenau Gwent - £20,000 i gwblhau cam cyntaf gwaith adnewyddu'r adeilad.
  • Friends of Six Bells Park, Blaenau Gwent - £10,000 i roi wyneb newydd ar eu cyrtiau tenis.
  • Clwb Chwaraeon a Chymdeithasol Treowen Stars, Caerffili - £25,000 i adnewyddu tŷ'r clwb i'w ddefnyddio fel canolfan gymunedol.
  • Cyfeillion Parc Eco, Caerffili - £10,000 i brynu cynhwysydd (amlwyth) mawr metel wedi'i addasu i'w ddefnyddio fel swyddfa / ystafell ysgol / ffreutur.
  • Neuadd Bentref Newydd Llanarthne, Sir Gaerfyrddin - £25,000 i gwblhau toiledau i'r anabl, cyfleusterau newid babanod a chyfleusterau cawod.
  • Cyngor Eglwys Capel Dewi, Ceredigion - £6,500 i wella'r system wresogi ac adnewyddu'r toiled mewn adeilad alanol.
  • Basecamp Cooperative Cas-gwent, Sir Fynwy - £9,600 i ddarparu lle diogel i bobl ifanc yn y gymuned gasglu a chymryd rhan mewn gweithgareddau.
  • Grŵp Gweithredu Cymunedol Parc Gelligaled, Rhondda Cynon Taf - £25,000 i adeiladu man chwarae amlddefnydd.
  • Cymdeithas Lles Garnswllt, Abertawe - £22,500 i adnewyddu eu neuadd, gan gynnwys ystafelloedd ymolchi a chyfleusterau newid babanod.
  • Eglwys Sain Ffagan Aberdâr, Rhondda Cynon Taf - £20,000 i atgyweirio eu hadeilad oherwydd difrod dŵr.
  • Clwb Hwylio Merthyr Tudful, Merthyr Tudful - £25,000 i wella eu cyfleusterau er mwyn cynnwys ystafell hyfforddi, cegin a mannau newid.

Dywedodd Jane Hutt, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol:

"Mae'n wych gweld yr amrywiaeth eang o brosiectau a sefydliadau o bob cwr o Gymru sydd o fudd mawr i'w cymunedau lleol diolch i'r cyllid hwn.

"Nawr yn fwy nag erioed, ar ôl yr 20 mis diwethaf, mae ein cymunedau a'r cyfleusterau gwych ynddynt yn ganolfannau ar gyfer dwyn pobl ynghyd er mwyn ailgodi Cymru sy'n gryfach ac yn decach i bawb.”

Mae YMCA Pontypridd, yn Rhondda Cynon Taf, wedi derbyn £250,000 tuag at ailddatblygu'r YMCA.

Meddai Jên Angharad, Prif Swyddog Gweithredol Cymuned Artis:

"Mae adeilad YMCA Pontypridd wedi bod yn gwasanaethu pobl Pontypridd ers 111 o flynyddoedd. Mae wedi bod yn lle sy'n dod â'r gymuned at ei gilydd erioed. Ac yn sgil y cyfle hwn i adfer yr adeilad, rydyn ni wrth ein boddau ein bod yn gallu adfywio'r adeilad unwaith eto fel canolfan ar gyfer diwylliant, creadigrwydd a'r celfyddydau ar Stryd Fawr Pontypridd.

Bydd cyllid y Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol yn ein galluogi i gwblhau'r gwaith o ailddatblygu'r adeilad a gwireddu gweledigaeth YMCA Pontypridd, Cymuned Artis a'r nifer fawr o bobl sydd wedi bod yn ymwneud â rhannu syniadau ar gyfer ailwampio'r adeilad, yn ogystal â'n prif bartneriaid a chyllidwyr; sef Cyngor Celfyddydau Cymru, Cyngor Rhondda Cynon Taf, Llywodraeth Cymru, Sefydliad Moondance a Sefydliad Garfield Weston.

Ar ôl ei gwblhau, bydd yr adeilad yn gartref i Neuadd Shelley a fydd yn gallu darparu ar gyfer 150 o bobl, ac yn cynnwys llawr dawnsio sbring, theatr stiwdio, ystafell gelf, caffi, lle manwerthu ac ystafelloedd i'w llogi ar gyfer cyfarfodydd, cynadleddau, cyflwyniadau, partïon ac ati – ac fe fydd yn cael ei rheoli gan Gymuned Artis.”

Mae Cyngor Plwyf Eglwysig Llandyfodwg a Chwm Ogwr, ym Mhen-y-bont ar Ogwr, wedi derbyn dros £150,000 i greu cyfleuster cymunedol ar ôl i'r pentrefwyr golli eu hysgol gynradd, tafarn a siop leol yn ddiweddar.

Dywedodd Gill Morgan, Cydlynydd Cyllid Cyngor yr Eglwys:

"Ers blynyddoedd lawer rydyn ni wedi trefnu digwyddiadau cymunedol i godi arian at elusennau, ond roedd y diffyg cyfleustodau angenrheidiol yn golygu nad oedden ni wedi gallu defnyddio'r adeilad at ddibenion ehangach y gymuned. Diolch i'r cyllid hwn, gallwn ni ailddiffinio ac ailddychmygu ein rôl yn y gymuned leol drwy ddarparu gwasanaethau lleol hanfodol, a thrwy fod yn bwynt cyswllt sy'n rhoi'r eglwys yng nghanol bywyd lleol unwaith eto.

"Mae'r Eglwys yn adeilad hanesyddol o ddiddordeb pensaernïol sydd â chysylltiadau treftadaeth cryf. Bydd cyllid y Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol yn diogelu dyfodol yr adeilad – a fydd yn ganolbwynt ar gyfer balchder y pentrefwyr am orffennol hanesyddol yr adeilad, yn ogystal â bod yn ganolfan ar gyfer adfywio'r gymuned.”

Mae modd gwneud cais am gyllid y Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol drwy gydol y flwyddyn. Gall sefydliadau gael rhagor o wybodaeth am y rhaglen drwy chwilio am y Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol drwy llyw.cymru.