English icon English
Gresford Community Library- Wrexham-2

£568,000 ar gyfer prosiectau cymunedol lleol yng ngogledd Cymru

£568,000 awarded to local community projects in North Wales

Mae saith o brosiectau cymunedol yng Ngogledd Cymru wedi derbyn cyfran o dros £568,000 o gyllid gan Lywodraeth Cymru.

Mae'r Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol yn ariannu amwynderau a ddefnyddir yn helaeth i wella eu cynaliadwyedd. Mae’r amwynderau hynny’n darparu cyfleoedd i bobl leol eu defnyddio fel rhan o'u bywydau bob dydd.

Mae'r grantiau diweddaraf (hyd at £250,000) wedi’u dyfarnu i’r canlynol:

  • Canolfan Glanhwfa Cyf, Ynys Môn - £250,000 i adnewyddu’r Capel a chreu canolfan gymunedol.
  • Sefydliad Enbarr, Sir y Fflint - £237,000 i atgyfodi Adeilad John Summers (safle hen waith dur Shotton) at ddibenion busnes i alluogi'r gymuned leol i fanteisio ar gyfleoedd i gael gwaith.

Mae’r grantiau diweddaraf llai (hyd at £25,000) wedi’u dyfarnu i’r canlynol:

  • Sied Dynion Prestatyn, Sir Ddinbych - £10,000 i brynu Canolfan John Moore sydd ar brydles ar hyn o bryd.
  • Canolfan Felin Fach, Gwynedd - £12,000 i adnewyddu a disodli eu cegin.
  • Grŵp Gweithredu Maes y Pant, Wrecsam - £10,000 i greu man chwarae newydd i blant yn y coetir cymunedol.
  • Llyfrgell Gymunedol Gresffordd, Wrecsam - £24,740 i osod offer gwresogi ac inswleiddio newydd i wneud y safle'n fwy effeithlon o ran ynni.
  • Darlledu Cymunedol Wrecsam, Wrecsam - £25,000 i greu dau le stiwdio ar gyfer sioeau radio sy'n cael eu darlledu'n fyw a rhai a gaiff eu recordio ymlaen llaw.

Dywedodd Jane Hutt, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol:

"Mae'n wych gweld yr amrywiaeth eang o brosiectau a sefydliadau o bob cwr o Gymru sydd o fudd mawr i'w cymunedau lleol diolch i'r cyllid hwn.

"Nawr yn fwy nag erioed, ar ôl yr 20 mis diwethaf, mae ein cymunedau a'r cyfleusterau gwych ynddynt yn ganolfannau ar gyfer dwyn pobl ynghyd er mwyn ailgodi Cymru sy'n gryfach ac yn decach i bawb.”

Dyfarnwyd £237,000 i Sefydliad Enbarr i adnewyddu Tŵr Cloc eiconig John Summers yng Nglannau Dyfrdwy, er mwyn datblygu man cymunedol i bawb.

Dywedodd y Cyfarwyddwr Vicki Roskams:

"Er gwaethaf yr heriau eithriadol y mae Enbarr a'r gymuned wedi'u hwynebu yn ystod y 18 mis diwethaf, ysbryd cymunedol a gwydnwch pobl Cymru sydd wedi dod i'r amlwg.

"Gyda'r cyllid hanfodol hwn rydyn ni'n gobeithio adnewyddu llawr isaf Tŵr Cloc eiconig Gradd II John Summers i greu canolfan sgiliau cymunedol a threftadaeth i gefnogi twf, sgiliau ac entrepreneuriaeth leol, yn ogystal â datblygu canolfan iechyd a lles.

"Heb y grant hwn y mae mawr ei angen arnom gan Lywodraeth Cymru, byddai ein blynyddoedd o waith cynllunio wedi cael ei ohirio am gyfnod hirach.”

Mae Llyfrgell Gymunedol Gresffordd, sy'n gwasanaethu grŵp o bentrefi ger Wrecsam, wedi derbyn bron £25,000 i wneud ei safle'n fwy effeithlon o ran ynni.

Dywedodd Jan Jones, y Cyfarwyddwr a'r Ymddiriedolwr:

“Mae Llyfrgell Gymunedol Gresffordd yn elusen fach sy'n cael ei rheoli'n gyfan gwbl gan wirfoddolwyr. Rydyn ni'n darparu'r holl wasanaethau llyfrgellol nodweddiadol ac, os yw pobl eisiau rhywbeth nad oes gennym, gallwn ni ofyn am lyfrau ac ati o bob rhan o'r rhanbarth. Mae'r bobl leol yn dweud ein bod ni – drwy ein llyfrau a’n jig-sos – wedi eu helpu i ddal i fynd a goddef cyfyngiadau COVID.

"Rydyn ni wrth ein boddau ac yn ddiolchgar iawn i Raglen Cyfleusterau Cymunedol Llywodraeth Cymru am y gefnogaeth hon. Gallwn ni gael gwared ar ein boeler nwy hynafol nawr, a newid i rywbeth sy'n wyrddach ac yn fwy effeithlon. Am y tro cyntaf gallwn ni edrych ymlaen at aeaf cynhesach, heb orfod poeni am filiau nwy na allwn ni eu fforddio ac allyriadau carbon uchel!”

Mae modd gwneud cais am gyllid y Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol drwy gydol y flwyddyn. Gall sefydliadau gael rhagor o wybodaeth am y rhaglen drwy chwilio am y Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol drwy llyw.cymru.