English icon English

Cronfa newydd gwerth £1 miliwn i gefnogi busnesau lleol mewn cymunedau ledled Cymru

New £1 million fund to back local businesses in communities across Wales

Mae Gweinidog yr Economi Vaughan Gething wedi cyhoeddi y bydd Llywodraeth Cymru yn lansio cronfa newydd i gefnogi busnesau lleol sy'n cynnig y nwyddau a'r gwasanaethau sy'n cefnogi llesiant pawb yng Nghymru.

Bydd y Gronfa Cefnogi Cwmnïau Lleol yn cefnogi busnesau mewn rhannau o'n heconomi bob dydd leol, a elwir hefyd yn Economi Sylfaenol, i ddarparu mwy o'r nwyddau a'r gwasanaethau sy'n ofynnol gan y sector cyhoeddus, gan helpu i greu mwy o swyddi a swyddi gwell yn nes at adref.

Mae'r Economi Sylfaenol yn cynnwys busnesau sy'n eiddo i bobl leol, wedi'u gwreiddio mewn cymunedau lleol ac yn darparu gwaith teg, sy'n cwmpasu sectorau fel gwasanaethau gofal ac iechyd, bwyd, tai, ynni, twristiaeth, adeiladu a manwerthu.

Mae amcangyfrifon yn awgrymu bod pedair o bob deg swydd, a £1 ym mhob £3 a wariwn, yn perthyn i'r categori hwn. Mae cynlluniau adfer Covid Llywodraeth Cymru yn dilyn COVID yn ymrwymo Gweinidogion i atgyfnerthu’r economi sylfaenol drwy gynyddu gwariant lleol a chyflawni prosiectau i gefnogi swyddi a busnesau mewn cymunedau ledled Cymru.

Mae'r gronfa newydd gwerth £1m yn cael ei defnyddio i helpu â’r canlynol:

  • Mynd i'r afael â'r argyfwng recriwtio presennol ym maes gofal cymdeithasol, gyda rhaglen genedlaethol a fydd yn canolbwyntio ar leihau costau recriwtio ac yn cynnig cyfleoedd dychwelyd i'r gwaith i'r rhai sydd bellaf i ffwrdd o gyflogaeth a'r rhai sy'n wynebu newidiadau annisgwyl mewn bywyd, megis diswyddo.
  • Cynyddu faint o fwyd o Gymru sy'n cael ei weini ar blatiau cyhoeddus. Gwneir hyn drwy gynorthwyo cynhyrchwyr a chyflenwyr bwyd lleol i ennill achrediadau sydd eu hangen i gael mynediad at gadwyni cyflenwi'r sector cyhoeddus.
  • Cyflwyno cynlluniau i gefnogi busnesau lleol i ennill contractau i gyflawni'r rhaglen ôl-osod orau a lleihau ôl troed carbon tai.

Bydd y Gronfa Cwmnïau Lleol Cefnogi gwerth £1 miliwn yn adeiladu ar lwyddiant Cronfa Her yr Economi Sylfaenol Llywodraeth Cymru.

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething:

"Bydd y Gronfa Cefnogi Cwmnïau Lleol rwy'n ei chyhoeddi heddiw yn cefnogi busnesau mewn rhannau o'n heconomi bob dydd leol i ddarparu mwy o'r nwyddau a'r gwasanaethau sydd eu hangen ar y sector cyhoeddus, gan helpu i greu mwy o swyddi a swyddi gwell yn nes at adref.

"Ein heconomi bob dydd leol yw'r piler sy'n diogelu ein cymunedau. Mae'r cyfraniad y mae'n ei wneud at les pobl ledled Cymru yn hollbwysig. Daeth hyn yn fwy amlwg nag erioed o'r blaen yn ystod pandemig y coronafeirws.

"Mae meithrin yr economi bob dydd yn flaenoriaeth drawslywodraethol ac yn agwedd allweddol ar ein Cenhadaeth i Gryfhau ac Ailadeiladu’r Economi. Rydym am greu lleoedd llewyrchus ledled Cymru, lleoedd lle y gall pobl ifanc wireddu eu huchelgeisiau a chyrraedd eu potensial, mannau lle y gall unrhyw un lansio a datblygu busnes ffyniannus.

"Bydd cryfhau ein heconomi bob dydd leol yn gwella ac yn cyfoethogi cyfleoedd cyflogaeth, gan ein galluogi i ganolbwyntio ar gadw doniau Cymru yng Nghymru a diogelu economïau ein cymunedau."