English icon English
mhorwood Covid 19 Oxford-Astrazeneca Vaccine 040121 33

‘Cefnogwch y Gwasanaeth Iechyd y gaeaf hwn drwy gael eich brechiad atgyfnerthu’ yw neges y Gweinidog Iechyd

‘Support the NHS this winter by getting your booster vaccination’ - Health Minister

Mae'r Gweinidog Iechyd yn annog pobl i gael eu brechiad atgyfnerthu COVID-19 yr hydref hwn i gefnogi'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol cyn y gaeaf.

Erbyn hyn, mae mwy na hanner miliwn o bobl wedi cael eu brechiad atgyfnerthu COVID-19 yng Nghymru, gan gynnwys tri chwarter o breswylwyr cartrefi gofal, mwy na hanner y rheini sy’n 70 i 74 oed a mwy na chwarter y rheini sy’n 65 i 69 oed.

Bydd Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd, yn dweud mewn cynhadledd i'r wasg heddiw:

"Mae ein gweithlu gofal a’r Gwasanaeth Iechyd yn gwneud gwaith anhygoel ond maen nhw wedi blino’n lân – maen nhw wedi gweithio mor galed ac wedi cyflawni popeth rydyn ni wedi gofyn iddyn nhw ei wneud.

"Gallwn ni gefnogi'r Gwasanaeth Iechyd y gaeaf hwn drwy reoli lledaeniad y coronafeirws ac atal rhagor o bobl rhag bod yn ddifrifol wael gyda COVID-19.

"Gallwn ni wneud hyn drwy sicrhau ein bod wedi cael y ddau ddos o'r brechlyn COVID-19 a chael brechiad atgyfnerthu'r hydref hefyd os ydyn ni’n gymwys. Bydd cael brechlyn ffliw y gaeaf hefyd yn helpu.

"Mae’n bwysig hefyd inni ddewis y gwasanaeth cywir ar gyfer ein hanghenion gofal iechyd.

 "Os oes angen gofal arnoch am fân anafiadau ac afiechydon, gall eich fferyllfa leol helpu ac, yn hytrach na mynd yn syth i adran damweiniau ac achosion brys, mae unedau mân anafiadau yn trin amrywiaeth eang o anafiadau.”

Dros gyfnod y gwyliau hanner tymor, cafodd cynnydd ei wneud o ran brechu pobl ifanc 12 i 15 oed – mae ychydig dros 48% ohonynt wedi eu brechu erbyn hyn ac mae pawb yn y grŵp oedran hwn wedi cael cynnig y brechlyn. Bydd unrhyw berson ifanc a oedd wedi methu â mynd i’w apwyntiad oherwydd trefniadau blaenorol neu oherwydd bod ganddynt y coronafeirws yn cael apwyntiad arall. Mae apwyntiadau galw i mewn hefyd ar gael mewn rhai lleoliadau yng Nghymru ar gyfer y grŵp oedran hwn.

Mae byrddau iechyd yng Nghymru yn anfon apwyntiadau i’r rheini sy'n gymwys i gael y brechiad atgyfnerthu yn ôl trefn blaenoriaeth gan ddechrau gyda'r rheini sydd mewn mwyaf o berygl o gael salwch difrifol, yn unol â chyngor y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu.

Bydd pobl yng Nghymru yn cael eu gwahodd gan eu bwrdd iechyd a fydd yn cysylltu â nhw pan ddaw eu tro.

Byddant naill ai'n cael brechlyn Pfizer/BioNTech neu frechlyn Moderna – profwyd bod y ddau frechlyn hwn yn ddiogel iawn ac yn hynod effeithiol.

Yn unol â’r dull hwn, mae niferoedd uchel yn parhau i gael y brechlyn, ac mae’r broses o’i gyflwyno yn mynd rhagddi’n gyflym. Rydym yn annog unrhyw un a fydd yn cael ei wahodd i gael y brechlyn atgyfnerthu i dderbyn y cynnig.