English icon English
PO 200521 Miles 25-2

£2m i dreialu diwygio'r diwrnod ysgol yng Nghymru

Changes to school day to be trialled in Wales

Mae Jeremy Miles, y Gweinidog Addysg wedi cyhoeddi y bydd ysgolion yn cymryd rhan mewn cynllun i dreialu sesiynau ychwanegol i’w cynnal yn ystod y diwrnod ysgol yn ddiweddarach eleni. A bydd hyd at £2m o gyllid ar gael i gefnogi'r cynllun hwnnw.

Bydd yr ysgolion dan sylw yn cael eu hariannu i ddarparu pum awr ychwanegol o weithgareddau bob wythnos ar gyfer grwpiau o ddysgwyr – gyda sesiynau fel celf, cerddoriaeth a chwaraeon, yn ogystal â sesiynau academaidd craidd

Bydd y cynllun treialu yn adlewyrchu maniffesto Llywodraeth Cymru ac ymrwymiad y rhaglen lywodraethu i ystyried diwygio'r diwrnod a'r flwyddyn ysgol. Bydd y cynllun yn canolbwyntio ar gefnogi’r disgyblion a’r ysgolion dan anfantaisa hynny sydd wedi’u heffeithio’n arbennig yn ystod y pandemig. Mae'r cynlluniau'n defnyddio modelau a chynigion rhyngwladol a wnaed gan y Sefydliad Polisi Addysg

Bydd penaethiaid yn penderfynu ar sut a beth sy'n cael ei gyflwyno ym mhob ysgol yn ystod y cyfnod treialu, sydd i fod i ddechrau yn nhymor y gwanwyn, ac yn para am hyd at 10 wythnos. Bydd anghenion lleol yn cael eu hystyried. A bydd gofynion y cymorth ariannol a ddarperir ar gyfer y cynllun treialu’n caniatáu i ysgolion drefnu bod y sesiynau ychwanegol yn cael eu cynnal drwy gontract allanol os bydd angen, neu gallant addasu gweithgareddau sy'n bodoli eisoes, megis clybiau ar ôl ysgol.

Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag awdurdodau lleol ledled y wlad i benderfynu ar yr ysgolion cynradd ac uwchradd a fydd yn cymryd rhan.

Dywedodd Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg:

"Rwy'n benderfynol ein bod ni'n edrych ar strwythur y diwrnod a'r flwyddyn ysgol er mwyn sicrhau eu bod er budd gorau llesiant y dysgwyr a’r staff, yn lleihau anghydraddoldebau addysgol, ac yn sicrhau'r canlyniadau gorau i bob dysgwr.

“Rydyn ni’n gwybod y gall cefnogi dysgwyr i elwa ar ystod estynedig o weithgareddau, gan gynnwys y celfyddydau a chwaraeon yn ogystal â gweithgareddau cymdeithasol a rhaglenni academaidd, fod yn dda ar gyfer cyrhaeddiad, lles a chydberthynas ehangach dysgwyr.

“Rwy'n ariannu'r ysgolion a fydd yn cymryd rhan yn y cynllun treialu er mwyn iddyn nhw ddarparu gweithgareddau cyffrous ar gyfer y diwrnod ysgol. Rydyn ni am i’r gweithgareddau hynny eu helpu i ddatblygu sgiliau personol a meithrin gwydnwch, a fydd hefyd yn effeithio ar gyrhaeddiad academaidd.

"Cyfnod treialu fydd hwn, felly byddwn ni’n gweithio'n agos gydag ysgolion ac awdurdodau lleol i werthuso'r effaith ar ddysgwyr a materion eraill sy'n gysylltiedig â diwygio'r diwrnod ysgol. Rwy'n falch ein bod ni'n gweithio gydag awdurdodau lleol i benderfynu ar yr ysgolion a fydd yn cymryd rhan. Byddwn ni'n cyhoeddi rhagor o fanylion maes o law.”