- Cwcis sydd wir eu hangen
Cwcis sydd wir eu hangen
Mae rhai o’n cwcis yn hanfodol ac ni fydd rhannau o’r safle’n gweithio hebddynt. Mae hyn yn cynnwys cofnodi eich dewisiadau cadw cwcis.
22 Hyd 2021
Ar hyn o bryd rydym yn recriwtio ar gyfer carfan newydd o raddedigion i ymuno â chynllun Trafnidiaeth Cymru i Raddedigion ym mis Medi 2022.
Rydym yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd cyffrous ledled y busnes, yn ogystal â'r cyfle i ennill cymhwyster proffesiynol a chymryd rhan mewn rhaglen ddysgu a chymorth fewnol.
Yn ddiweddar, buom yn siarad ag Abbie Tarrant ac Ali Shah, sydd wedi ymuno â Trafnidiaeth Cymru yn ddiweddar fel dau o'r graddedigion cyntaf i ddechrau'r cynllun, gan ofyn iddyn nhw sut maen nhw'n ymgartrefu a pham y gwnaethon nhw ddewis ddod aton ni. Mae Ali wedi ymuno â'n tîm Cyllid, tra bod Abbie wedi ymuno â'r tîm Diogelwch a Chynaliadwyedd fel Dadansoddwr Risg. Hefyd, buom yn siarad â Sian Holt, ein Partner Busnes Adnoddau Dynol, sy'n goruchwylio'r cynllun i raddedigion, gan gynnwys darparu cymorth a chefnogaeth i'n graddedigion newydd.
Beth wnaeth eich denu i weithio i Trafnidiaeth Cymru?
AT: Yr hyn a'm denodd yn fwy na dim i Trafnidiaeth Cymru oedd y diwylliant, a’r cyfle i weithio ar brosiectau a fyddai'n gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fusnesau, cymunedau a phobl Cymru.
AS: Bod yn rhan o sefydliad sy'n cael effaith gadarnhaol hirdymor yng Nghymru. Roedd gwerthoedd craidd Trafnidiaeth Cymru sef cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn cyd-fynd â'm gwerthoedd personol. Hefyd, roeddwn i'n awyddus i ennill profiad o weithio i sefydliad cyffrous sy'n tyfu yn y sector cyhoeddus.
Pa agweddau ar gynllun Trafnidiaeth Cymru i raddedigion a oedd yn apelio fwyaf atoch chi?
AS: Roeddwn i'n hoffi'r ffaith bod y cynllun yn cynnwys rhaglen dysgu a chymorth gwbl integredig i helpu i ddatblygu fy sgiliau proffesiynol a phersonol. Hefyd, mae'r cynllun yn seiliedig ar batrwm cylch, sy'n rhoi cyfle i mi gael blas ar rolau gwahanol. Yn ogystal, mae'r cynllun i raddedigion yn caniatáu i mi weithio tuag at gyflawni fy nghymhwyster cyfrifyddu proffesiynol.
AT: Mae Trafnidiaeth Cymru yn cynnig cynllun cystadleuol gyda chyflog a buddion gwych, ac wrth wneud cais, doedd dim cynllun cystal â hwn yng Nghymru yn fy marn i. Y peth mwyaf trawiadol i mi am y cynllun oedd y ffaith ei fod yn canolbwyntio ar ddatblygu graddedigion i fod yn arweinwyr y dyfodol, ochr yn ochr ag ennill profiad a dysgu agweddau technegol ar y rôl. Bydd gweithdai a gweminarau'n cael eu cynnal yn ymwneud â phynciau fel arweinyddiaeth, rheoli prosiectau a chydnerthedd.
Ar ôl cwblhau'r cynllun, rwy'n teimlo y byddaf wedi datblygu fy hun yn dechnegol ac wedi meithrin y sgiliau trosglwyddadwy sydd eu hangen i ddatblygu fy hun yn broffesiynol. Hefyd, bydd Trafnidiaeth Cymru yn darparu cymorth i mi astudio ymhellach er mwyn ennill achrediad proffesiynol mewn maes perthnasol. Rwyf wrth fy modd yn cael y cyfle i ddilyn cymhwyster o'm dewis. Ar hyn o bryd rwy'n pwyso a mesur fy opsiynau ac yn ystyried pa gymhwyster a fydd yn addas i mi a'm dyheadau gyrfa hirdymor.
Beth yw eich argraffiadau cyntaf ers dechrau gweithio yma?
AT: Mae fy nghydweithwyr yn fy nhîm ac yn y sefydliad ehangach yn brofiadol ac yn wybodus iawn, ac maen nhw'n dod o gefndiroedd amrywiol. Mae pawb yn groesawgar iawn ac yn hapus bob amser i helpu ac egluro pethau pan rwy'n gofyn iddyn nhw. Rwy'n gwybod y byddaf yn mwynhau fy amser yn Trafnidiaeth Cymru ac yn dysgu llawer yma.
AS: Mae fy argraffiadau cyntaf wedi bod yn gadarnhaol iawn. Mae pawb yn Trafnidiaeth Cymru wedi bod yn groesawgar a chefnogol iawn.
Beth ydych chi'n edrych ymlaen ato fwyaf yn eich rôl newydd?
AS: Mae'r sefydliad yn llawn bwrlwm ac mae llawer o gyfleoedd ar gael i ddysgu a datblygu. Rwy'n edrych ymlaen at fod yn rhan o dwf Trafnidiaeth Cymru.
AT: Yn gyntaf, rwy'n teimlo'n llawn cyffro am y gwaith heriol y byddaf yn ei wneud. Fel rhywun sydd â chefndir ym maes mathemateg, rwy'n mwynhau datrys problemau a gweithio ar heriau anodd sy'n fy ymestyn ar lefel bersonol. Yn ail, rwy'n edrych ymlaen at y cyfleoedd i gysylltu â chydweithwyr ym meysydd gwahanol y busnes ac mewn sefydliadau partner. Trwy wrando ar brofiadau, barn a syniadau pobl eraill, rwy'n credu bod modd dysgu llawer, ac rwyf wrth fy modd yn cael y cyfle i ryngweithio ag amrywiaeth eang o bobl.
Beth ydych chi'n gobeithio ei gyflawni yn ystod y 30, 60 a 90 diwrnod cyntaf yn eich rôl?
AT: O fewn y mis cyntaf, rwy'n gobeithio deall mwy am sut mae'r sefydliad a'r diwydiant rheilffyrdd yn gyffredinol yn gweithredu. Hefyd, rwy'n gobeithio dechrau meithrin perthynas ystyrlon gyda chydweithwyr ledled y busnes ac o fewn fy nhîm.
Ar ôl deufis, gobeithio y byddaf yn gweithio ar brosiectau a thasgau ystyrlon a fydd yn cael effaith wirioneddol ar helpu'r busnes i gyflawni ei nodau, gan ymestyn fy hun yn broffesiynol hefyd.
Erbyn diwedd mis tri, rwy'n gobeithio y byddaf yn ddigon hyderus a gwybodus i arwain rhai tasgau a dechrau ysbrydoli arloesedd a newid.
AS: Yn ystod y 30 diwrnod cyntaf, rwy'n gobeithio datblygu perthynas waith gadarn gyda'm cydweithwyr, a deall y sefydliad yn well trwy fynychu'r holl gyfarfodydd staff a sesiynau Dysgu dros Ginio.
Yn ystod y 60 diwrnod cyntaf, rwy'n gobeithio derbyn cyfrifoldeb am brosesau diwedd y mis a helpu i ddatblygu dulliau newydd o weithio. Byddaf yn parhau i weithio ar gysylltiadau â chydweithwyr ledled Trafnidiaeth Cymru, a dechrau astudio ar gyfer fy nghymhwyster proffesiynol.
Yn y 90 diwrnod cyntaf, rwy'n gobeithio cyfrannu mwy at waith Gweithwyr Proffesiynol Ifanc y Rheilffyrdd a'r pwyllgor Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant, a chwblhau fy hyfforddiant cymorth cyntaf iechyd meddwl.
Pam mae Trafnidiaeth Cymru wedi dewis lansio cynllun i raddedigion?
SH: Mae Trafnidiaeth Cymru wedi lansio Cynllun i Raddedigion er mwyn datblygu talent y dyfodol. Rydym am ddenu unigolion ifanc a thalentog a’u cadw yng Nghymru ac rydym yn credu bod ein cynllun yn ddelfrydol i ddatblygu graddedigion i fod yn arweinwyr ein busnes yn y dyfodol.
Beth yw nodau ac amcanion y cynllun i raddedigion?
SH: Paratoi ein graddedigion i fod yn arweinwyr ein busnes yn y dyfodol. Mae ein cynllun yn addysgol ac yn ymarferol.
Pa fath o rolau sy'n cael eu cynnig gan Trafnidiaeth Cymru ar gyfer graddedigion ym mis Medi 2022?
SH: Mae gennym nifer o ffrydiau gwahanol, gan gynnwys Cyllid, Adnoddau Dynol, Cyfathrebu ac Ymgysylltu, Gweithrediadau Trafnidiaeth, Caffael a'r Gadwyn Gyflenwi, Profiad Cwsmeriaid, a Rheoli Prosiectau a Pheirianneg.
Pa fath o bobl y mae Trafnidiaeth Cymru yn gobeithio eu denu i'r cynllun i raddedigion?
SH: Rydym yn chwilio am ystod amrywiol a deinamig o bobl! Mae ein proses recriwtio wedi'i llunio i ganolbwyntio ar yr unigolyn sy'n gwneud cais, yn hytrach na'r radd. Mae'n bwysig iawn i ni ein bod yn dod o hyd i bobl sy'n rhannu ein credoau â'n diwylliant. Rydym am weld yr unigolyn gwirioneddol gydol y broses.
Pam y dylai graddedigion ddewis Trafnidiaeth Cymru?
SH: Mae llawer o bethau cyffrous yn digwydd yn y busnes a bydd ein graddedigion yn cael cyfle i fod yn rhan o'r holl fwrlwm. Yn fwy na hynny, mae ein cynllun yn seiliedig ar batrwm cylch sy'n rhoi’r cyfle i unigolion gael blas ar feysydd eraill fel ein partneriaid cyflenwi, a chael profiad o fusnesau yn y sector cyhoeddus a'r sector preifat, sy'n nodwedd wirioneddol wahanol.
Rydym yn cymryd gofal mawr o'n gweithwyr cyflogedig ac yn cynnig pecyn cystadleuol iawn i'n graddedigion. I gael mwy o wybodaeth am y cynllun, a chlywed barn ein graddedigion presennol, ewch i'n gwefan bwrpasol ar gyfer y cynllun i raddedigion: https://www.trcgyrfaoeddcynnar.cymru/