English icon English

Sioe Deithiol Ranbarthol COP26 Gogledd Cymru yn amlygu potensial y rhanbarth

North Wales COP26 Regional Roadshow highlights region’s potential

Mae'r sioe deithiol ranbarthol gyntaf i gael el chynnal yng Nghymru i wneud y mwyaf o fomentwm COP26 yn cael ei chynnal yng Ngogledd Cymru heddiw (dydd Iau 4 Tachwedd), gan ganolbwyntio ar botensial y rhanbarth ar gyfer ynni adnewyddadwy a gwyrdd

Rhoddodd Lesley Griffiths, Gweinidog Gogledd Cymru, neges ar gyfer y digwyddiad sy'n anelu at gynnwys y rhanbarth mewn sgwrs am themâu'r COP.

Mae'r pedair sioe deithiol yn rhan o raglen ehangach o sioeau teithiol sy'n cael eu cynnal ledled y DU sy'n dangos sut y gall Llywodraethau Datganoledig weithio gyda Llywodraeth y DU i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd.

Ar gyfer Gogledd Cymru, y ffocws yw trosglwyddo ynni gyda panel wedi'i gasglu yn M-sparc ar Ynys Môn i drafod sut y gellir cynhyrchu, storio a dosbarthu ynni adnewyddadwy ledled Cymru yn y dyfodol.

Cyn y digwyddiad, dywedodd Lesley Griffiths: "Rwy'n falch iawn bod y sgwrs am drosglwyddo ynni yn cael ei chynnal yng Ngogledd Cymru.  Rydym mewn sefyllfa dda i ddangos i'r byd sut y gall trosglwyddo i gynhyrchu ynni carbon isel sbarduno manteision i gymunedau.

          "Gyda phŵer gwynt, gan gynnwys prosiect gwynt cyntaf y DU oddi ar y môr, cynlluniau ar gyfer hydrogen a photensial mawr ar gyfer y môr, nid oes amheuaeth y gall y rhanbarth fod yn chwaraewr allweddol wrth gynhyrchu ynni adnewyddadwy.  Mae gan ynni niwclear hefyd y potensial i wneud cyfraniad at ddileu'r allyriadau carbon o'n system ynni cyn 2050.

          "Yn y sioe deithiol bydd cyfranogwyr yn cael cyfle i drafod sut y gallwn sicrhau manteision ehangach i Gymru o'r cyfnod pontio – drwy swyddi lleol mewn technolegau glân; cyfleoedd o ran marchnadoedd newydd i'n busnesau; adeiladu ar ein rhagoriaeth mewn ymchwil, datblygu ac arloesi; a chyflwyno datblygiadau sy'n eiddo i gymunedau lleol.

 "Yr argyfwng hinsawdd yw'r her fwyaf sy'n ein hwynebu ac rwy'n falch bod rhanbarthau Cymru yn gallu chwarae rhan yn y digwyddiadau pwysig sydd ar y gweill ar hyn o bryd. Rwy'n edrych ymlaen at barhau â'r trafodaethau pwysig hyn, gan archwilio'r camau y mae angen inni eu cymryd, a chlywed am rywfaint o'r gwaith anhygoel sydd eisoes ar y gweill tuag at gyflymu'r newid byd-eang i ynni glân."

Dywedodd y Cynghorydd Brian Jones, aelod Arweiniol Gwastraff, Trafnidiaeth a'r Amgylchedd Cyngor Sir Ddinbych: "Rydym yn falch o fod wedi helpu i drefnu'r digwyddiad hwn a fydd yn tynnu sylw at botensial y rhanbarth ar gyfer ynni adnewyddadwy ac atebion gwyrdd.

"Fel Cyngor, rydym yn gwbl ymwybodol o'r her, ar ôl datgan Argyfwng Newid hinsawdd ac Ecolegol yn 2019. Drwy hyn rydym wedi ymrwymo i fod yn gyngor Carbon Sero-Net ac Ecoleg gadarnhaol erbyn 2030, gan leihau'r allyriadau o'n cadwyni cyflenwi 35 y cant a newid ein cyfansoddiad fel bod gwasanaethau'n ystyried effaith newid yn yr hinsawdd yn eu proses o wneud penderfyniadau.

"Credwn drwy ddigwyddiadau fel y rhain lle mae arfer da yn cael ei ddathlu a'i rannu, ac arloesi'n cael ei drafod, y gallwn gydlynu camau tuag at ein nod cyffredin o fynd i'r afael â'r her hon."

  Mae'r pedair sioe deithiol yn canolbwyntio ar bedair thema allweddol Ynni; Natur; Addasu, Colli a Difrod; a Thrafnidiaeth Lân.