English icon English

Cyhoeddi cynllun i sicrhau bywyd o ansawdd da i bob anifail yng Nghymru

Plan to achieve good quality of life for all animals in Wales published

Heddiw, bydd y Gweinidog Materion Gwledig Lesley Griffiths yn cyhoeddi cynllun pum mlynedd sy'n amlinellu camau tuag at gyflawni'r uchelgais o sicrhau bywyd o ansawdd da i bob anifail yng Nghymru.

Mae Ein Cynllun Lles Anifeiliaid i Gymru yn adeiladu ar yr hyn a gyflawnwyd eisoes ers datganoli pwerau lles anifeiliaid yn 2006. 

Mae'n amlinellu sut y bydd Llywodraeth Cymru yn bwrw ymlaen â'i hymrwymiadau o ran lles anifeiliaid yn ei Rhaglen Lywodraethu, a mesurau eraill i wella lles anifeiliaid ymhellach. 

Mae'r cynllun hefyd yn cynnwys ystod eang o waith polisi lles anifeiliaid parhaus, gan gynnwys canllawiau statudol ar gyfer rheoliadau sy'n bodoli eisoes, trwyddedu arddangosfeydd anifeiliaid, lles anifeiliaid wrth eu cludo, a Chodau Ymarfer. Yn olaf, mae'n disgrifio sut y bydd Llywodraeth Cymru yn cydweithio â llywodraethau eraill y DU i hyrwyddo'r agenda lles anifeiliaid, er enghraifft drwy'r Bil Lles Anifeiliaid (Anifeiliaid a Gedwir) sydd ar y gweill.

Dyma'r ymrwymiadau yn y Rhaglen Lywodraethu sy’n cael eu nodi yn y cynllun:

  • Datblygu model cenedlaethol ar gyfer rheoleiddio lles anifeiliaid, gan gyflwyno cofrestr ar gyfer sefydliadau lles anifeiliaid, bridwyr masnachol anifeiliaid anwes neu anifeiliaid ar gyfer saethu, ac arddangosfeydd anifeiliaid;

 

  • Gwella’r cymwysterau i arolygwyr lles anifeiliaid i godi eu statws proffesiynol;
  • Gwneud teledu cylch cyfyng yn ofynnol ym mhob lladd-dy;
  • Cyfyngu ar ddefnyddio cewyll ar gyfer anifeiliaid a ffermir.

I nodi'r cyhoeddiad, bydd y Gweinidog yn ymweld â Fferm Gymunedol Greenmeadow ger Cwmbrân.

Dywedodd y Gweinidog Materion Gwledig Lesley Griffiths: “Rwy'n falch iawn o'r hyn sydd eisoes wedi'i gyflawni yng Nghymru o ran lles anifeiliaid.  Ond mae mwy i'w wneud.  Ein huchelgais hirdymor yw i bob anifail yng Nghymru gael bywyd o ansawdd da.  Mae'r cynllun heddiw yn amlinellu camau tuag at gyflawni'r uchelgais hwnnw.

 “Byddwn yn gweithio gyda'r holl bartneriaid i fwrw ymlaen â'n hymrwymiadau.  Mae hyn yn cynnwys hybu diogelwch anifeiliaid anwes ymhellach drwy edrych ar gofrestr ar gyfer sefydliadau lles anifeiliaid, gwella'r proffesiwn gwerthfawr sy’n arolygu lles anifeiliaid drwy wella’r cymwysterau, ac edrych ar sut y gallwn leihau'r defnydd o gewyll ar gyfer anifeiliaid a ffermir.

“Rwyf hefyd yn falch o gadarnhau y byddwn yn ei gwneud yn ofynnol i bob lladd-dy yng Nghymru gael teledu cylch cyfyng – tra bod y mwyafrif llethol eisoes yn ei ddefnyddio byddwn yn sicrhau bod hyn yn wir i bawb.

“Mae sicrhau bywyd o ansawdd da i bob anifail yn uchelgeisiol, ond dyna y mae'n rhaid i ni anelu tuag ato.”

Dywedodd Prif Swyddog Milfeddygol Cymru, Christianne Glossop: “Yn amlach na pheidio, mae anifeiliaid sy’n cael gofal da yn anifeiliaid iach a bodlon.  Atal clefydau ac anafiadau yn y lle cyntaf yw'r dewis gorau bob amser.  Mae cael safonau lles anifeiliaid uchel yn sicrhau bod eu hanghenion yn cael eu diwallu, p'un a ydynt yn anifeiliaid anwes neu'n dda byw a ffermir.

“Mae'r cynllun rydym yn ei gyhoeddi heddiw yn adeiladu ar yr hyn sydd eisoes wedi'i gyflawni ym maes lles anifeiliaid, gan sicrhau ein bod yn parhau i wella wrth i ni weithio tuag at yr uchelgais o fywyd o ansawdd da i bob anifail a gedwir yng Nghymru.”

Bydd gweithio mewn partneriaeth yn allweddol i lwyddiant y cynllun. Mae elfen allweddol yn ymwneud â gorfodi deddfwriaeth bresennol ac yn y dyfodol. I gefnogi hyn, mae Prosiect Gorfodi Awdurdodau Lleol, sy’n cydweithio â Safonau Masnach Cymru, yn ei ail flwyddyn ar hyn o bryd.

Mae Arweinydd Strategol a Rheolwr Safonau Masnach ac Iechyd Anifeiliaid Cyngor Sir Fynwy, Gareth Walters, wedi croesawu'r cynllun.  Dywedodd:

“Yn ddiweddar, mae prosiect Gorfodi Awdurdodau Lleol wedi goruchwylio’r gwaith o benodi 8 Swyddog Trwyddedu Anifeiliaid newydd. Byddant yn cynnig cymorth hanfodol sy'n ofynnol gan wasanaethau iechyd anifeiliaid Awdurdodau Lleol drwy ddarparu adnodd a rennir ledled Cymru fel pwynt arbenigedd cydnabyddedig. Bydd y swyddogion newydd yn galluogi swyddogion iechyd anifeiliaid presennol i ganolbwyntio ar waith iechyd a lles anifeiliaid ehangach.

“Gall lansio’r system wybodaeth ar-lein sydd ar y gweill ddatblygu'n un pwynt cyfeirio ar gyfer ceisiadau am drwyddedau i gefnogi ymrwymiad ‘Model Cenedlaethol’ Llywodraeth Cymru. Yn ogystal, bydd datblygu cymhwyster trwyddedu anifeiliaid yn ategu'r cymhwyster proffesiynol Iechyd a Lles Anifeiliaid a ddarperir gan y Sefydliad Safonau Masnach Siartredig a lansiwyd yn gynharach eleni. Bydd y cymwysterau hyn yn darparu'r sylfaen sydd ei hangen ar swyddogion presennol a swyddogion yn y dyfodol i sicrhau gwybodaeth a dealltwriaeth, ochr yn ochr â mynediad at hyfforddiant arbenigol lle bo angen