English icon English
Eluned Morgan (P)#6

Y Gweinidog Iechyd yn addo £170m ychwanegol y flwyddyn i ‘drawsnewid’ gwasanaethau gofal wedi’i gynllunio

Health Minister pledges £170m extra a year for ‘transformation’ of how planned care services are delivered

Yn yr Uwchgynhadledd gyntaf ar Ofal wedi’i Gynllunio, mae’r Gweinidog Iechyd Eluned Morgan wedi cyhoeddi y bydd dros £170m ychwanegol y flwyddyn yn cael ei fuddsoddi mewn gofal wedi’i gynllunio ar draws GIG Cymru.

Mae’r Gweinidog yn gobeithio y bydd yr alwad am newid a’r arian ychwanegol yn ‘creu system gofal wedi’i gynllunio sy’n fwy o faint, yn well ac yn fwy effeithiol nag yr ydym wedi’i weld o’r blaen’.

Unrhyw driniaeth nad yw’n digwydd fel argyfwng yw gofal wedi’i gynllunio ac mae fel arfer yn golygu apwyntiad wedi’i drefnu ymlaen llaw. Mae’r mwyafrif o gleifion yn cael eu hatgyfeirio gan eu meddyg teulu at ofal wedi’i gynllunio.

Bydd yr arian yn mynd yn bennaf tuag at wasanaethau endoscopi, cataractau, orthopedeg a diagnostig a delweddu, ond bydd hefyd yn cael ei wario ar wasanaethau canser a strôc.

Daw’r arian ar ben y £25m ychwanegol y flwyddyn ar gyfer adrannau achosion brys a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf.

Mae byrddau iechyd yn cael eu hannog i ddatblygu cynlluniau ynglŷn â sut y gallan nhw drawsnewid eu ffordd o ddarparu gwasanaethau a gwneud y defnydd gorau o’r arian a fydd ar gael. Bydd yn cael ei rannu’n gyfartal rhwng pob bwrdd iechyd yn ôl poblogaeth.

Wrth siarad yn yr Uwchgynhadledd ar Ofal wedi’i Gynllunio heddiw (4 Tachwedd), a drefnwyd gan y Gweinidog Iechyd ar ôl cyfarfod â Choleg Brenhinol y Llawfeddygon, Lloegr, dywedodd y Gweinidog hefyd y bydd £1 miliwn yn mynd tuag at greu Cronfa Arloesi Gofal wedi’i Gynllunio.

Bydd y gronfa ar agor i geisiadau o 30 Tachwedd ymlaen. Mae wedi’i seilio ar egwyddorion rhaglen Exemplar Comisiwn Bevan, a’i nod fydd cefnogi arloesedd a rhoi cymorth i fabwysiadu’r egwyddorion hyn ledled Cymru, gan wneud y gorau o’r momentwm, y brwdfrydedd a’r cyfle am newid sydd ar gael.

Diolch i fuddsoddiad o £248m gan Lywodraeth Cymru mewn cyllid adfer yn sgil Covid, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr eisoes wedi gwneud datblygiadau pellach yn ei ffordd o ddarparu gwasanaethau orthopedeg. Mae wedi arloesi drwy gyflwyno cyfarfodydd dilynol o bell gyda chleifion, ymgyngoriadau grŵp dros fideo, rhai triniaethau ar gyfer cymalau newydd heb aros dros nos a sgrinio rhagsefydlu ar gyfer cleifion cyn llawdriniaeth sy’n helpu i leihau’r amser adfer.

Er y gall y rhain ymddangos yn gamau bychain o arloesi, y gobaith yw bod potensial i’w rhoi ar waith ar draws pob bwrdd iechyd a bod modd dysgu ohonynt mewn llawer o wahanol leoliadau.

Bydd Prif Weithredwr newydd GIG Cymru, Judith Paget, hefyd yn mynd i’r uwchgynhadledd lle bydd yn amlinellu’r pum nod a fydd yn trawsnewid gofal wedi’i gynllunio, sef:

  • Atgyfeirio’n effeithiol at ofal eilaidd
  • Mynediad at gyngor a chanllawiau arbenigol ar gyfer gofal sylfaenol a pharafeddygon
  • Trin yn briodol drwy sicrhau bod pob llwybr gofal yn addas i’r diben
  • Cyfathrebu dilynol i annog unigolion i reoli eu cyflyrau eu hunain
  • Mesur yr hyn sy’n bwysig wrth edrych ar restrau aros.

Dywedodd: “Rydyn ni wedi darparu buddsoddiad o £248m i helpu i adfer gofal wedi’i gynllunio yn gynt yn ystod y flwyddyn ariannol hon. Rydyn ni’n cynnig £170m ychwanegol y flwyddyn i fyrddau iechyd i’w galluogi i drawsnewid yn radical ac yn sylfaenol y ffordd o ddarparu gofal wedi’i gynllunio. Bydd hyn yn sicrhau bod y rhaglen gofal wedi’i gynllunio yn addas i’r diben ac yn darparu’r hyn sydd ei angen.

“Mae angen inni drawsnewid ein ffordd o ddarparu gwasanaethau. Mae llawer o ddatblygiadau a ffyrdd newydd o weithio wedi’u rhoi ar waith yn ystod y pandemig, ond mae’n bwysig adeiladu ar y rhain a manteisio ar y cyfle i greu gwasanaethau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol modern ar gyfer y dyfodol.”

Dywedodd y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan: “Mae’r pandemig wedi effeithio’n sylweddol ar ofal wedi’i gynllunio, gan greu ôl-groniad enfawr o gleifion sy’n aros am driniaethau wedi’u cynllunio. Yn ogystal, rydyn ni’n ofni bod yna lawer o gleifion nad ydyn nhw eto wedi mynd at wasanaethau gofal sylfaenol gyda’u salwch.

“Mae angen edrych ar y ffordd o ddarparu gofal yn y system gyfan a thrwy fuddsoddi £248 miliwn yn yr adferiad Covid, £170 miliwn mewn gofal wedi’i gynllunio a £42 miliwn mewn gofal cymdeithasol, ein nod yw rhoi’r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru mewn sefyllfa gryfach ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

“Rydyn ni’n galw ar fyrddau iechyd i drawsnewid y ffordd o ddarparu gofal wedi’i gynllunio. Rydyn ni am wneud mwy na dim ond adfer o’r pandemig; rydyn ni am greu system gofal wedi’i gynllunio sy’n fwy o faint, yn well ac yn fwy effeithiol nag yr ydym wedi’i weld o’r blaen.”

Nodiadau i olygyddion

Activity levels, based on treatment by operations and outpatient appointments, have been increasing in NHS Wales in recent months, with elective activity in September 2021 around 77% of what it was in September 2019 but 150% of the level of activity in September 2020.

Breakdown of health board funding from the £170m for planned and emergency care

Health Board (formula share – based on population)

Aneurin Bevan: 32

Betsi Cadwaladr: 38.4

Cardiff and Vale 22.6

Cwm Taf 26.1

Hywel Dda 21.7

Powys 7.5

Swansea Bay 21.6

Total: 170m