Skip to main content

How we’re continuing to respond to covid-19

28 Hyd 2021

Diogelwch cwsmeriaid a staff yw ein blaenoriaeth uchaf o hyd yn ystod y cyfnod hwn o’r pandemig. Rydyn ni’n ddiolchgar iawn am gefnogaeth y mwyafrif helaeth o deithwyr sydd wedi dilyn y cyfyngiadau tra maen nhw wedi bod ar waith ers mis Mawrth 2020, gan gynnwys gwisgo gorchuddion wyneb, cadw pellter cymdeithasol ac osgoi gwasanaethau prysur lle bo hynny’n bosibl.

Byddwn yn parhau i ofyn i bob teithiwr fod yn deithwyr cyfrifol wrth ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru a’r gororau, ac mae ein neges Teithio’n Saffach yn dal ar waith. Rydyn ni hefyd yn parhau i argymell aros yn lleol lle bo hynny’n bosibl, a mynd ar droed, ar olwynion neu ar feic ar gyfer teithiau byrrach.

Teithio’n Saffach

Yn unol â chanllawiau diweddaraf Llywodraeth Cymru, mae’r gofynion cadw pellter cymdeithasol wrthi’n cael eu hadolygu a’u dileu. Byddwn yn parhau i weld gwasanaethau prysur ar benwythnosau a’r tu allan i’r oriau brig traddodiadol, felly bydd yn dal yn bwysig iawn i gwsmeriaid gynllunio ymlaen llaw a defnyddio ein Gwiriwr Capasiti i ddod o hyd i wasanaethau tawelach.

Rydyn ni’n gofyn i bob cwsmer barhau i deithio’n gyfrifol drwy wisgo gorchudd wyneb ar gyfer eich taith i gyd oni bai eich bod wedi’ch eithrio, peidio â theithio os ydych chi’n teimlo’n sâl, a phrynu tocynnau drwy ddulliau digyswllt lle bo hynny’n bosibl. Rydyn ni hefyd yn parhau i argymell aros yn lleol lle bo hynny’n bosibl, a mynd ar droed, ar olwynion neu ar feic ar gyfer teithiau byrrach.

Rydyn ni’n gwerthfawrogi bod y pandemig wedi effeithio ar bawb mewn ffyrdd gwahanol. Bydd ein cydweithwyr a’n partneriaid, Heddlu Trafnidiaeth Prydain, yn parhau i fod wrth law i gefnogi teithwyr i wneud iddyn nhw deimlo’n ddiogel yn ystod eu taith. Os ydych chi’n poeni am fod mewn man caeedig gyda llawer o bobl eraill, ystyriwch gyrchfannau nad ydyn nhw o bosibl mor boblogaidd neu osgoi teithio yn ystod cyfnodau prysurach os gallwch chi. Pan fyddwch chi wedi penderfynu ar eich cyrchfan, gwnewch yn siŵr eich bod yn cynllunio eich teithiau ymlaen llaw ac yn archebu eich tocynnau ymlaen llaw os gallwch chi.

Gorchuddion wyneb

Mae gwisgo gorchudd wyneb ar drafnidiaeth gyhoeddus yn dal yn gyfraith yng Nghymru, felly gallech gael eich dirwyo neu eich gwahardd rhag teithio os nad ydych chi’n gwisgo gorchudd wyneb, oni bai eich bod wedi’ch eithrio. Mae hefyd yn dal yn ofynnol gwisgo gorchudd wyneb ar wasanaethau Trafnidiaeth Cymru sy’n croesi i Loegr.

Fodd bynnag, rydyn ni’n gofyn i bawb barchu ei gilydd, a chofiwch na fydd pawb yn gallu gwisgo gorchudd wyneb, ac efallai y bydd pobl eraill yn dewis gwneud hynny mewn gorsafoedd a chyfleusterau eraill lle mae hynny wedi dod yn ddewisol.

Gwasanaethau rheilffordd

Rydyn ni’n dal i redeg llai o wasanaethau rheilffyrdd ar hyn o bryd, er bod hyn wedi cynyddu dros y misoedd diwethaf. Mae ein holl drenau’n cael eu defnyddio i ddarparu cymaint o gapasiti â phosibl, ac rydyn ni wedi cyflwyno trenau ychwanegol yn ystod y misoedd diwethaf i gynyddu ein capasiti cyffredinol. Fodd bynnag, mae angen ychydig mwy o amser nag arfer arnom hefyd i gyflawni ein trefniadau glanhau gwell, ac mae nifer ein staff yn dal yn is na’r arfer oherwydd absenoldebau sy’n gysylltiedig â Covid, sy’n golygu bod gennym lai o bobl ar gael i redeg ein gwasanaethau. Mae hyn yn golygu na allwn adfer ein hamserlen lawn eto.

Rydyn ni’n parhau i addasu ein hamserlenni i gefnogi’r rheini sy’n dibynnu ar drafnidiaeth gyhoeddus i deithio yn ôl ac ymlaen i’r gwaith. Fodd bynnag, ar hyn o bryd, nid oes dyddiad pendant ar gyfer adfer ein hamserlen lawn cyn covid.

BTP TfW 2

Glanhau

Mae cerbydau a threnau trafnidiaeth gyhoeddus yn parhau i gael eu glanhau’n drylwyr yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru. Mae ein timau Glanhau yn glanhau ardaloedd sy’n cael eu defnyddio’n helaeth yn rheolaidd, fel byrddau, handlenni, peiriannau tocynnau ac unrhyw le y bydd teithwyr yn eu cyffwrdd yn rheolaidd. Mae hyn yn cynnwys ardaloedd gorsafoedd.

Cyhoeddwyd ymchwil yn ddiweddar i dynnu sylw at ddiogelwch teithio ar y rheilffyrdd. Gallwch ddarllen adroddiad diweddar gan y BBC yma.

Diogelwch

Mae gennym bolisi dim goddefgarwch ar ymddygiad gwrthgymdeithasol, ac rydyn ni’n gofyn i bob teithiwr barchu cyd-gymudwyr a staff trafnidiaeth gyhoeddus bob amser.

Rydyn ni’n parhau i weithio’n agos iawn gyda’r Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig, sydd yno i gynnig cymorth i fynd i’r afael ag unrhyw achosion troseddol ar y rhwydwaith rheilffordd. Maen nhw hefyd yn helpu i roi gwybod i deithwyr am bwysigrwydd dilyn y canllawiau a’r gofynion sydd ar waith.

Gallwch chi roi gwybod am achos ar y rhwydwaith rheilffyrdd drwy roi gwybod i aelod o staff yn ddiogel neu drwy ffonio’r Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig ar 0800 40 50 60 neu drwy anfon neges destun at 61016. 

Os byddwch chi’n cael problemau wrth deithio ar fws, rhowch wybod i'r gyrrwr yn ofalus. Wedyn bydd yn dilyn y protocolau sydd ar waith ac yn gofyn am gymorth dros y radio os oes angen. 

fflecsi

Yn ystod y pandemig, fe wnaethom lansio gwasanaeth peilot o’r enw fflecsi mewn partneriaeth â gweithredwyr bysiau lleol ac awdurdodau lleol. Bwriad hyn yw helpu pobl i wneud teithiau lleol hanfodol drwy ganiatáu iddyn nhw archebu lle ar wasanaeth bws.

Mae fflecsi wedi cael ei ddylunio i gludo teithwyr mor ddiogel â phosibl. Mae gwybod faint o deithwyr rydyn ni’n eu casglu yn golygu y gallwn ni anfon cerbyd o’r maint iawn a chadw pellter corfforol, ac mae’r bws yn newid ei lwybr er mwyn i’r holl deithwyr allu cyrraedd lle mae angen iddyn nhw fynd.

Mae’r gwasanaeth yn cael ei dreialu ar hyn o bryd mewn nifer o rannau o Gymru, gan gynnwys Blaenau Gwent, gogledd Caerdydd, Conwy, Dinbych, Casnewydd, y Rhondda, Sir Benfro a Phrestatyn, gyda chynlluniau i gyflwyno gwasanaeth yn Sir y Fflint yn y dyfodol.

Mae’r gwasanaeth yn rhedeg drwy gydol yr wythnos ac yn caniatáu i chi ddewis pryd rydych chi’n dymuno teithio. Gallai rhai gwasanaethau fflecsi barhau i redeg ochr yn ochr â gwasanaethau bws arferol yn y dyfodol. 

I gael gwybod mwy, llwythwch yr Ap i lawr neu ffoniwch 0300 234 0300.

fflecsi Pembrokeshire coastline