English icon English
voting

Agor cronfa i gefnogi pobl anabl sy’n sefyll mewn etholiad

Fund open to support disabled people seeking election

Fel rhan o gronfa beilot gan Lywodraeth Cymru, gellir talu am ddehonglwyr iaith arwyddion, tacsis neu offer ar gyfer pobl anabl sy’n sefyll mewn etholiad.

Mae’r Gronfa Mynediad i Swydd Etholedig – sy’n cael ei rheoli gan Anabledd Cymru – nawr ar agor i gefnogi unigolion a all fod angen cymorth ychwanegol i sefyll yn etholiadau llywodraeth leol y flwyddyn nesaf.

Gyda 1,254 o gynghorwyr yn cael eu hethol i 22 o brif gynghorau ar draws Cymru, mae’r gronfa’n ceisio gwella amrywiaeth a mynd i’r afael â’r ffaith bod pobl anabl wedi’u tangynrychioli ar bob lefel ym mywyd cyhoeddus ar hyn o bryd.

Yn ogystal â rhoi cymorth i ymgeiswyr y cyngor, mae’r cynllun peilot hefyd ar gael i’r rheini sy’n sefyll mewn etholiadau cyngor tref a chymuned yn etholiadau llywodraeth leol 2022 – sy’n cynnwys 735 o gynghorau tref a chymuned, gyda mwy nag 8,000 o gynghorwyr.

Drwy ehangu’r gronfa, bydd mwy o gyfleoedd i bobl anabl gyflawni eu nod o gymryd rhan mewn democratiaeth leol i gefnogi eu cymunedau.

Bydd y gronfa yn talu am gostau ychwanegol, fel costau offer, hyfforddiant, teithio a gweithwyr cymorth cyfathrebu fel dehonglwyr Iaith Arwyddion Prydain a dehonglwyr eraill.

Dywedodd Damian Bridgeman, sydd â pharlys yr ymennydd ac sydd wedi sefyll mewn etholiad cyn i’r gronfa gael ei sefydlu:

“Rwy’n angerddol am wneud gwahaniaeth i gymdeithas a dangos i bobl Cymru ein bod ni angen amrywiaeth o bobl i’n cynrychioli. Heb y gwahanol leisiau hyn, ni fyddwn ni’n gallu cynrychioli’r bobl yn deg.

“Fe fyddwn i wedi rhoi’r arian tuag at gymhorthydd personol. Fe fyddwn wedi’i ddefnyddio i gynnal mwy o sesiynau wyneb yn wyneb, a fyddai wedi teimlo ychydig yn haws na’r dull traddodiadol o guro drysau. Fe fyddwn i wedi gallu rheoli’r amgylcheddau ar gyfer ymwneud â’r etholwyr, a dileu unrhyw rwystrau gan fy ngalluogi i gyflawni’r hyn yr oeddwn angen ei gyflawni.”

Dywedodd Rebecca Evans, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol:

“Mae’n bleser gennyf gynnig y cyllid hwn i unrhyw berson anabl sy’n bwriadu cymryd rhan mewn bywyd cyhoeddus ac sydd angen cymorth i wneud hynny. Rydym eisiau galluogi i gymaint o bobl â phosibl gymryd rhan yn ein hetholiadau nesaf.”

Dywedodd Jane Hutt, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol:

“Mae angen inni wneud mwy i wella amrywiaeth ymhlith ein swyddogion etholedig os ydyn ni o ddifrif am greu Cymru deg a chyfiawn, sy’n rhydd rhag gwahaniaethu ac anghydraddoldeb.

“Bydd y cyllid hwn yn helpu i sicrhau nad yw pobl anabl yn wynebu rhwystrau wrth gymryd rhan mewn etholiadau yng Nghymru drwy dalu am yr addasiadau rhesymol y maent eu hangen.”

I wneud cais am y cyllid ac i gael rhagor o wybodaeth ewch i:

https://www.disabilitywales.org/projects/access-to-elected-office-fund-wales/?lang=cy