Skip to main content

Report published into Swansea Bay and West Wales Metro development

29 Hyd 2021

Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae astudiaethau wedi cael eu cynnal i ddatblygu cynigion rheilffyrdd ar gyfer Metro Bae Abertawe a Gorllewin Cymru.

Y mis hwn, cyflwynwyd adroddiad yr ail gam (a luniwyd gan ddefnyddio’r fethodoleg Arweiniad ar Arfarnu Trafnidiaeth Cymru a bennwyd gan Lywodraethau Cymru a’r DU ar gyfer datblygu ac arfarnu cynigion trafnidiaeth) i’r awdurdodau lleol a chyrff cyhoeddus eraill sy’n ymwneud â chomisiynu’r adroddiad.

Mae crynodeb o’r astudiaeth, ynghyd â’r prif adroddiad, ar gael nawr.

Mae rhagor o ddogfennau technegol a dadansoddol ar gael sy’n ategu canfyddiadau’r astudiaeth a gellir eu darparu ar gais i aelodau o’r cyhoedd sy’n dymuno gweld manylion y dogfennau ategol sydd y tu ôl i’r adroddiad a’i ganfyddiadau.

Comisiynwyd yr astudiaeth ar y cyd gan Trafnidiaeth Cymru â Chynghorau Sir Gaerfyrddin, Castell-nedd Port Talbot, Sir Benfro ac Abertawe. 

Nod cynigion Metro Bae Abertawe a Gorllewin Cymru yw ei gwneud yn haws i deithio – ar drafnidiaeth gyhoeddus, ar feic neu ar droed. Y nod yw datblygu system drafnidiaeth gyhoeddus integredig a fydd yn cynnwys amrywiaeth o ddulliau fel rheilffyrdd trwm, tram-trên, rheilffyrdd ysgafn a bysiau, y gellir cyrraedd atynt drwy gerdded a beicio.

Mae’r opsiynau s’n cael eu hystyried yn cynnwys cynyddu amlder gwasanaethau strategol pellter hir; cynyddu gwasanaethau lleol o Orllewin Cymru i Gaerfyrddin ac Abertawe; gorsafoedd newydd a gwelliannau i orsafoedd presennol; a datblygu rhwydwaith ranbarthol integredig Metro Bae Abertawe a Gorllewin Cymru.

Mae’r adroddiad yn casglu ymchwil a data ynghyd ac yn cynnig opsiynau ar gyfer dadansoddiad pellach a mwy manwl. Yn ogystal â’r ymatebion a gasglwyd o’r ymgynghoriad cyhoeddus deuddeg wythnos, cynhaliwyd trafodaethau gydag ystod eang o randdeiliaid, ynghyd ag asesiad o ymarferoldeb technegol cyflwyno’r opsiynau. Mae’r opsiynau sydd ar y rhestr fer yn cael eu mesur yn erbyn amcanion a chostau’r prosiect yn ogystal â’r effeithiau cymdeithasol, diwylliannol, amgylcheddol ac economaidd.

Mae’r broses hon yn adlewyrchu gofynion yr Arweiniad ar Arfarnu Trafnidiaeth Cymru sydd, yn ei dro, yn cyflwyno dull strwythuredig a chadarn o ddadansoddi ac asesu problemau, opsiynau ac, yn y pen draw, datblygu atebion.

Mae’r adroddiad yn argymell bod unrhyw waith pellach yn cael ei rannu’n elfennau y gellir eu cyflawni a fydd yn symud ymlaen ar eu cyflymder eu hunain. Bydd angen datblygu a dadansoddi pellach ar unrhyw gynigion tymor hwy fel eu bod yn barod i’w cyflawni yn y dyfodol. Mae’r pecyn cychwynnol yn cael ei ddisgrifio’n fanwl yn yr adroddiad ac mae’n cynnwys gwelliannau i seilwaith y rheilffyrdd, amlder y gwasanaeth a datblygiad rhwydwaith Metro Ardal Bae Abertawe.

Dywedodd Ben George, Rheolwr Rhaglen Datblygu Strategol Trafnidiaeth Cymru: “Rydym ni’n falch o fod wedi datblygu cyfres o gynigion a fydd yn gwella’n sylweddol y cyfleoedd ar gyfer teithio ar y rheilffyrdd yn Ne Orllewin Cymru a thu hwnt. Rydym ni’n edrych ymlaen at weithio’n agos gyda’r Awdurdodau Lleol a Bargen Ddinesig Bae Abertawe wrth i ni ddechrau datblygu’r gwelliannau hyn dros y blynyddoedd nesaf.”