English icon English

Pob ysgol a choleg newydd yng Nghymru i fod yn garbon sero-net

All new schools and colleges in Wales to be net zero carbon

Heddiw, mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles, wedi cyhoeddi y bydd gofyn i bob adeilad ysgol a choleg newydd, pob gwaith adnewyddu mawr a phrosiectau estyn fodloni targedau Carbon Sero-Net o Ionawr 1 2022.

Bydd yn ofynnol i adeiladau weithredu ar sail egwyddor Carbon Sero-Net, sy’n golygu eu bod yn creu allyriadau carbon sero neu negyddol o ran ynni.

Hefyd bydd angen i’r genhedlaeth gyntaf o ysgolion a cholegau o dan y rheolau newydd sicrhau gostyngiad o 20% yn lefel y carbon a gaiff ei allyrru gan y deunyddiau adeiladu a’r broses adeiladu, a bydd gostyngiadau pellach yn ofynnol yn y dyfodol, yn unol â chynlluniau ehangach Llywodraeth Cymru o ran symud i gyfeiriad carbon sero-net.

Yn ogystal, bydd cynlluniau uchelgeisiol ar gyfer yr adeiladau arfaethedig newydd o ran bioamrywiaeth, teithio llesol a chyfleusterau gwefru cerbydau trydan.

Bydd y cyhoeddiad yn helpu Llywodraeth Cymru i gyflawni ei hymrwymiad i fod yn garbon sero-net erbyn 2050.

Ymwelodd Jeremy Miles â safle ysgol gynradd newydd Llancarfan ym Mro Morgannwg. Disgwylir iddi gael ei chwblhau ddechrau 2022, a hon fydd ysgol carbon sero-net gyntaf Cymru, â’i chyfleusterau ei hun i gynhyrchu ynni a storio batris ar y safle.

Dywedodd Jeremy Miles:

“Fe ddylen ni i gyd fod yn holi ein hunain pa gamau y gallwn ni eu cymryd i ddad-wneud y niwed sy’n deillio o newid hinsawdd. Yn Llancarfan, rydyn ni eisoes yn darparu’r ysgol carbon sero-net gyntaf. Mae sicrhau bod adeiladau’r dyfodol yn gwneud cyfraniad positif yn gam pwysig y gallwn ni ei gymryd.

“Yn greiddiol i’n cwricwlwm newydd mae ein nod i gefnogi dysgwyr i fod yn ddinasyddion egwyddorol, gwybodus sydd wedi ymrwymo i gynaliadwyedd y blaned. Mae’n hanfodol ein bod yn gosod esiampl i bobl ifanc os ydyn ni i wireddu’r uchelgais hwn.”

Dywedodd y Cyng Lis Burnett, Dirprwy Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg ac Aelod Addysg ac Adfywio’r Cabinet:

“Rydyn ni’n eithriadol o falch o fod yn agor ysgol sero-net gyntaf Cymru yma yn y Fro.

“Mae newid hinsawdd yn her enfawr ledled y byd, ac yn un y mae’n rhaid inni i gyd weithredu i fynd i’r afael â hi. Ers datgan argyfwng hinsawdd yn 2019, rydyn ni wedi sefydlu Prosiect Sero, ein cynllun i’r Cyngor fod yn garbon-niwtral erbyn 2030. Mae’r adeilad hwn yn gam pwysig tuag at wireddu ein gweledigaeth.

“Mae wedi’i gynllunio nid dim ond i leihau ein hallbwn carbon, ond i gynnig amgylchedd dysgu o’r radd flaenaf lle gall cenedlaethau’r dyfodol ddysgu sut i leihau eu hallbwn hwythau.”

Bydd y gofyniad Carbon Sero-Net newydd yn rhan o raglen arloesol Llywodraeth Cymru ar gyfer Ysgolion a Cholegau’r 21ain Ganrif. O Ionawr 1 2022, yr enw ar y rhaglen fydd Cymunedau Dysgu Cynaliadwy. Gan weithio mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, colegau, Colegau Cymru a chyfarwyddwyr esgobaethol, cefnogwyd 180 o brosiectau hyd yma i greu ysgolion a cholegau newydd neu i’w gwella.