English icon English

“Stiward cenedlaethol” i Gymru i gyllido, rheoleiddio a chefnogi addysg ôl-16

Wales to have new “national steward” to fund, regulate and support all post-16 education

Mae Llywodraeth Cymru wedi amlinellu ei gweledigaeth i ddiwygio addysg ôl-16 mewn ffordd radical, gan ddeddfu ar naw diben strategol cenedlaethol ar gyfer y system addysg ôl-orfodol am y tro cyntaf erioed.

Mae rhai o’r trefniadau ar gyfer addysg drydyddol yng Nghymru wedi bod ar waith ers 30 mlynedd, cyn dyddiau’r cynnydd mawr yn niferoedd myfyrwyr, datganoli a newidiadau enfawr ym maes technoleg.

I sicrhau bod dysgwyr yn cael cefnogaeth sector cydlynol, sy’n canolbwyntio ar ehangu mynediad a chynyddu cyfleoedd, mae Llywodraeth Cymru am sefydlu Comisiwn newydd ar gyfer Addysg Drydyddol ac Ymchwil. Am y tro cyntaf yn hanes Cymru, byddai holl elfennau addysg ôl-16 – gan gynnwys colegau, prifysgolion, addysg oedolion, prentisiaethau a’r chweched dosbarth – yn dod o dan un corff.

Byddai’r Comisiwn yn monitro, yn cofrestru ac yn rheoleiddio darparwyr, ac yn amlinellu’r safonau a ddisgwylir o fewn y sector – gan gynnwys darpariaeth cyfrwng Cymraeg.

Yn ogystal â chynnig sefydlu’r Comisiwn newydd, mae’r Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) – a gyflwynir yn y Senedd heddiw – yn sefydlu naw dyletswydd strategol genedlaethol. Mae’r dyletswyddau cyfreithiol hyn yn adlewyrchu gweledigaeth hirdymor y Llywodraeth ar gyfer y sector, a byddant yn llywio gwaith y Comisiwn i’r dyfodol. Y naw dyletswydd strategol yw:

  • Hyrwyddo dysgu gydol oes;
  • Hyrwyddo cyfle cyfartal;
  • Annog pobl i gymryd rhan mewn addysg drydyddol;
  • Hyrwyddo gwelliant parhaus mewn addysg drydyddol ac ymchwil;
  • Hyrwyddo cydweithio a chydlyniad mewn addysg drydyddol ac ymchwil;
  • Cyfrannu at economi gynaliadwy ac arloesol;
  • Hyrwyddo addysg drydyddol drwy gyfrwng y Gymraeg;
  • Hyrwyddo cenhadaeth ddinesig;
  • Hyrwyddo rhagolygon byd-eang.

Fel rhan o’r camau diwygio hyn, caiff Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru ei ddiddymu.

Dywedodd Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg:

"Nid yw cefnogi ein sector addysg ôl-16 i wynebu sialensiau’r dyfodol erioed wedi bod yn bwysicach.

“Mae rhan helaeth o’r ffordd rydyn ni’n cefnogi ac yn trefnu addysg ôl-16 yn mynd yn ôl degawdau. Rhaid i ni fynd i'r afael ar y cyfle i newid, er mwyn i ni allu rhoi pŵer i ein darparwyr addysg, er mwyn iddynt allu fod yn rhan o sector amrywiol, hyblyg, cydweithredol sy’n cyflawni dros ddysgwyr trwy gydol oes, yn ogystal â chyflogwyr a chymunedau.

“Mae'r Bil hwn yn rhoi'r cyfle i ni wneud hynny. Drwy sefydlu’r Comisiwn, mae’r bil hwn yn rhoi stiward cenedlaethol newydd i Gymru ym maes addysg drydyddol ac ymchwil, ac yn rhoi’r lle canolog i fuddiannau dysgwyr.

“Bydd yn edrych ar y system gyfan, gan gefnogi dysgwyr drwy gydol eu bywydau i gael yr wybodaeth a’r sgiliau i lwyddo. Bydd yn helpu i sicrhau sefydliadau annibynnol ac amrywiol sy’n cyfrannu’n sylweddol at les a ffyniant cenedlaethol.

“Am y tro cyntaf yn neddfwriaeth Cymru, rydyn ni’n nodi’n glir yr hyn rydyn ni’n ei gredu, yr hyn rydyn ni eisiau ei weld a’r hyn sydd ei angen arnom mewn sector addysg ac ymchwil ôl-16 sy’n llwyddo ac yn ffynnu.  

“Mae naw dyletswydd strategol genedlaethol y Comisiwn yn mynegi ein hamcanion ac yn darparu’r fframwaith strategol hirdymor ar gyfer yr hyn y mae angen i’r sector gwerthfawr ac amrywiol hwn ei gyflawni – wrth i ni adfer, adnewyddu a diwygio."

DIWEDD