- Cwcis sydd wir eu hangen
Cwcis sydd wir eu hangen
Mae rhai o’n cwcis yn hanfodol ac ni fydd rhannau o’r safle’n gweithio hebddynt. Mae hyn yn cynnwys cofnodi eich dewisiadau cadw cwcis.
08 Tach 2021
Heddiw mae Trafnidiaeth Cymru (dydd Llun 8 Tachwedd) wedi lansio cymuned ar-lein newydd i roi cyfle i'r cyhoedd helpu i gyfrannu at drawsnewid teithio yng Nghymru.
Bydd 'Sgwrs' (sy'n golygu 'chat' yn Saesneg) yn caniatáu i TrC gasglu barn a syniadau ar gyfer dyfodol teithio ar drenau a bysiau a theithio llesol fel beicio a cherdded.
Bydd aelodau'r gymuned yn cymryd rhan mewn arolygon, trafodaethau ar-lein, a fforymau trafod ar-lein wedi'u cymedroli ar amrywiaeth o bynciau sy'n gysylltiedig â thrafnidiaeth i'n helpu i wella ein gwasanaethau.
Dywedodd Geraint Stanley, Rheolwr Prosiect Profiad Cwsmer TrC: “Rydyn ni eisiau trawsnewid trafnidiaeth er budd pobl Cymru, felly mae'n hanfodol ein bod ni'n casglu barn cymaint o bobl â phosib i lunio ein gwaith.
“Ein nod yw gwneud Sgwrs yn rhan o gymuned ar-lein sy'n ymgysylltu'n fawr ac sy'n cynrychioli poblogaeth amrywiol Cymru a'r cwsmeriaid rydyn ni'n eu gwasanaethu.
“Hoffem yn fawr i bobl gymryd rhan ac yn gyfnewid am hyn bydd gan gyfranogwyr fynediad at wobrau, cynnwys unigryw a'r cyfle i ennill cystadlaethau misol neu wobrau am gymryd rhan mewn gweithgareddau."
Mae cofrestru i gymryd rhan yn Sgwrs bellach ar agor ar wefan Trafnidiaeth Cymru a ail-lansiwyd yn ddiweddar yma https://trc.cymru/sgwrs-panel-cwsmeriaid.
Defnyddir Sgwrs at ddibenion ymchwil a chymuned y we yn unig ac ni chysylltir â chyfranogwyr ar unrhyw adeg am unrhyw resymau gwerthu neu hyrwyddo.