English icon English
Blas Cymru Taste Wales-2

Cymru i arddangos ei bwyd a diod ardderchog i’r byd

Wales to showcase its egg-cellent food & drink to the World

Mae llai na phythefnos i fynd tan fod digwyddiad bwyd a diod rhyngwladol mwyaf Cymru, BlasCymru / TasteWales, yn dychwelyd.

Dros ddau ddiwrnod, bydd cyfle gwych gan fusnesau ledled Cymru i arddangos eu cynhyrchion i brynwyr ac arbenigwyr y diwydiant o bedwar ban byd, a fydd yn helpu i agor marchnadoedd newydd a meithrin cysylltiadau masnach.

Mae sioeau yn y gorffennol wedi arwain at gytundebau busnes a gwerthiannau sylweddol newydd ar gyfer cynhyrchwyr Cymru.

Wedi'i drefnu gan Bwyd a Diod Cymru, bydd Is-adran Fwyd Llywodraeth Cymru, y Ganolfan Gynadledda Ryngwladol (ICC Cymru) yng Ngwesty'r Celtic Manor yng Nghasnewydd yn cynnal y digwyddiad ar 27 a 28 Hydref 2021.

Bydd un o ffermwyr a chyflwynydd teledu mwyaf adnabyddus y DU, Adam Henson, yn arwain y gynhadledd, a bydd 'sut mae Cymru'n mynd i'r afael â'r her cynaliadwyedd' a 'gwneud gweithgynhyrchu bwyd yn fwy cynaliadwy' ymhlith rhai o themâu allweddol y digwyddiad eleni.

Bydd Gweinidog Materion Gwledig Llywodraeth Cymru, Lesley Griffiths, yn agor y gynhadledd, a dywedodd: "Rwy'n falch iawn bod BlasCymru/Taste Wales yn dychwelyd eleni ar ôl cyfnod hynod o anodd a heriol i bob un ohonom.

"Rwy'n hynod falch o gadernid ein sector bwyd a diod a'i ymateb i'r pandemig.

"Mae'r digwyddiad deuddydd hwn yn bwysig yng nghalendr y diwydiant ac mae'n rhoi llwyfan i ddangos i'r byd pa mor dda yw bwyd a diod Cymru.

"Erbyn hyn mae llai na phythefnos tan yr achlysur gwych hwn ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr at weld pawb yn ICC Cymru."

Os hoffech ragor o wybodaeth am BlasCymru/TasteWales 2021, ewch i https://www.tastewales.com/cy/