- Cwcis sydd wir eu hangen
Cwcis sydd wir eu hangen
Mae rhai o’n cwcis yn hanfodol ac ni fydd rhannau o’r safle’n gweithio hebddynt. Mae hyn yn cynnwys cofnodi eich dewisiadau cadw cwcis.
13 Hyd 2021
Mae Trafnidiaeth Cymru a Network Rail yn defnyddio'r dechnoleg ddiweddaraf yr hydref hwn i baratoi ar gyfer y nifer cynyddol o stormydd a thywydd gwael a achosir gan y newid yn yr hinsawdd.
Yn draddodiadol, mae'r hydref yn gyfnod heriol iawn i'r diwydiant rheilffyrdd ac yn 2020 fe achosodd stormydd Ellen, Francis ac Alex broblemau mawr gan gynnwys y diwrnod gwlypaf a gofnodwyd er 1891.
Gall stormydd gael effaith ddifrifol ar wasanaethau teithwyr rheilffyrdd a thrafnidiaeth ffordd amgen, felly mae TrC a NR wedi bod yn gweithio ar y cyd i baratoi ar gyfer yr heriau a lleihau'r risg i wasanaethau.
Dywedodd Lee Waters AS, y Dirprwy Weinidog dros Newid Hinsawdd: “Mae Newid Hinsawdd yn cael effaith wirioneddol iawn ar y tywydd fel rydyn ni wedi’i weld gyda stormydd heb eu tebyg o’r blaen yr ychydig flynyddoedd diwethaf, felly rwy’n falch bod TrC, ar y cyd a Network Rail, yn cymryd y mesurau hyn, gan ddefnyddio’r dechnoleg fwyaf diweddar, i ymdrin ag effaith tywydd garw ar ein rhwydwaith reilffyrdd wrth inni baratoi ar gyfer misoedd yr hydref.”
Dyma rai o'r camau sy’n cael eu cymryd:
- Nodi safleoedd risg uchel gan ddefnyddio lluniau Adolygiad Gwybodaeth Fideo Awtomatig (AIVR) ar du blaen trenau a chreu cynlluniau dad-lystyfiant cadarn ar gyfer pob ardal.
- Sefydlu desg reoli bwrpasol ar gyfer yr hydref gan ddyblu’r adnodd oedd ar gael yn hydref 2020 a mwy o dimau ymateb rheng flaen yn gweithio bob dydd i nodi ac ymateb yn gyflym i broblemau.
- Defnyddio trenau triniaeth i gael gwared ar lystyfiant oddi ar draciau a gosod gel mewn safleoedd lle gall llystyfiant achosi lefelau isel o ffrithiant olwynion. Eleni, byddwn yn defnyddio 57 o Beiriannau gosod gel.
- Cynlluniau wrth gefn i liniaru unrhyw darfu ar y gwasanaethau pe bai gostyngiad mewn argaeledd cerbydau trên.
- Tynnu 'Pacers' dosbarth 142 a 143 o wasanaeth, sef y cerbydau mwyaf agored yn fflyd TrC i faterion yn ymwneud ag adlyniad.
Dywedodd Cyfarwyddwr Cynllunio a Pherfformiad Trafnidiaeth Cymru, Colin Lea: “Mae tymor yr hydref yn cyflwyno heriau sylweddol i’r diwydiant rheilffyrdd, ac rydym yn gweithio’n galed trwy gydol y flwyddyn yn paratoi.
“Gan weithio o fewn canllawiau COVID ac yn agos gyda chydweithwyr cynnal a chadw Network Rail a chledrau'r cymoedd, rydym wedi clirio llystyfiant ar ochr y llinell, wedi trefnu rhedeg trenau triniaeth ar hyd y rheilffordd ac wedi cael gwared ar yr hen drenau 'Pacer', sef y trenau oedd y mwyaf agored i niwed o ran materion yn ymwneud ag adlyniad yr adeg hon o'r flwyddyn.
“Bydd ein staff yn parhau i weithio bob awr dros gyfnod yr hydref, a thu hwnt, mewn rhai amgylcheddau profi gwirioneddol i gadw ein cwsmeriaid i symud, a rhoi diogelwch wrth wraidd popeth a wnawn.”
Dywedodd Bill Kelly, cyfarwyddwr llwybrau Network Rail Cymru a’r Gororau: “Mae paratoi ar gyfer yr Hydref wrth wraidd ein partneriaeth gyda Thrafnidiaeth Cymru.
“Rydym yn awyddus i gydweithio trwy gydol y flwyddyn, yn rheoli llystyfiant mewn ardaloedd sy’n risg uchel a defnyddio technoleg arloesol i drin y traciau. Eleni, rydym wedi dyblu maint y Tîm fydd gennym yn rheoli’r Hydref er mwyn gwella ein gallu i ymateb i ddigwyddiadau.
“A newid yn yr hinsawdd yn gynyddol effeithio ar ein rhwydwaith drafnidiaeth, o Ddyffryn Conwy i Fôr Hafren, rydym yn buddsoddi mewn cynlluniau ledled Cymru a’r Gororau i adeiladu rheilffordd fwy cydnerth.”