English icon English
FM Presser Camera 2

Llacio cyfyngiadau Covid-19 yng Nghymru yn gynt

Covid-19 restriction relaxations in Wales brought forward

Mae’r Prif Weinidog wedi cyhoeddi heddiw y bydd Llywodraeth Cymru yn cyflymu elfennau o'i rhaglen i lacio’r cyfyngiadau Covid-19, wrth i’r gostyngiad mewn heintiadau newydd barhau ledled Cymru.

Bydd pobl yn gallu creu aelwyd estynedig, ymweld â'r gampfa neu gymryd rhan mewn gweithgareddau awyr agored wedi'u trefnu wythnos ynghynt na'r disgwyl, wrth i’r sefyllfa o ran iechyd y cyhoedd – a’r cyfraddau brechu – barhau i wella.

Yr wythnos diwethaf, amlinellodd y Prif Weinidog amserlen fanwl ar gyfer symud Cymru'n bendant i lefel rhybudd 3. Ond bellach bydd rhai o'r mesurau hyn yn cael eu cyflwyno'n gynt na'r disgwyl gan fod yr achosion wedi gostwng yn sylweddol, o 37 achos ym mhob 100,000 o bobl i lai na 21 ym mhob 100,000 yr wythnos hon.

Mae'r pwysau ar ysbytai yn dal i leihau hefyd. Mae achosion wedi’i cadarnhau mewn cleifion sydd mewn gwelyau ysbyty yn parhau i ostwng. 89 yw’r nifer erbyn hyn, sef 26% yn is na dydd Iau diwethaf. Dyma'r ffigurau isaf ers 22 Medi 2020.

Bydd y dyddiad agor ar gyfer gweithgareddau awyr agored wedi'u trefnu a derbyniadau priodas yn yr awyr agored yn digwydd yn gynt, sef ddydd Llun 26 Ebrill yn lle 3 Mai.

Yn ogystal, o ddydd Llun 3 Mai, sef wythnos yn gynt na’r hyn a nodwyd yn wreiddiol, bydd campfeydd, canolfannau hamdden a chyfleusterau ffitrwydd yn cael ailagor ar gyfer hyfforddiant unigol neu un-i-un. Bydd hawl unwaith eto hefyd i ffurfio aelwyd estynedig, a fydd yn galluogi dwy aelwyd i gwrdd a chael cyswllt o dan do.

Dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford:

"Mae’r sefyllfa o ran iechyd y cyhoedd yng Nghymru yn parhau i wella, diolch i bopeth rydych chi'n ei wneud i'n helpu i reoli'r feirws ofnadwy hwn. Mae achosion o'r feirws yn gostwng ac mae ein rhaglen frechu anhygoel yn dal i fynd o nerth i nerth.

“Yr wythnos diwethaf, fe wnaethom amlinellu ein rhaglen i agor yr economi a llacio’r cyfyngiadau rydym wedi bod yn byw gyda nhw cyhyd, fel rhan o’n dull gofalus a graddol sydd â’r nod o gadw pawb yn ddiogel. Yr wythnos hon, oherwydd y gwelliannau rydym yn parhau i'w gweld, rydym yn gallu rhoi rhai o’n cynlluniau ar waith yn gynt.  

“Fyddai hyn ddim yn bosibl heb yr ymdrech y mae pawb yn ei gwneud i ddiogelu eu hunain a’r rhai sy’n annwyl iddynt.”

O ddydd Llun 12 Ebrill, bydd y camau llacio canlynol yn cael eu rhoi ar waith:

  • Bydd plant yn dychwelyd i’r ysgol yn llawn ar gyfer addysg wyneb yn wyneb, bydd pob dysgwr ôl-16 yn dychwelyd i ganolfannau addysg bellach a hyfforddiant, a bydd campysau prifysgolion yn gallu agor ar gyfer cyfuniad o ddysgu wyneb yn wyneb/ar-lein i bob myfyriwr;
  • Bydd gweddill y siopau yn ailagor, gan gwblhau’r broses raddol o ailagor busnesau sy’n gwerthu nwyddau nad ydynt yn hanfodol;
  • Bydd gweddill y gwasanaethau cysylltiad agos yn ailagor, gan gynnwys gwasanaethau symudol;
  • Bydd y cyfyngiadau ar deithio i mewn ac allan o Gymru yn cael eu codi. Fodd bynnag, mae’r cyfyngiadau ar deithio i wledydd y tu allan i'r Ardal Deithio Gyffredin heb esgus rhesymol yn parhau. Mae’r Ardal Deithio Gyffredin yn golygu’r Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw a Gweriniaeth Iwerddon;
  • Bydd hawl i fynd i weld lleoliadau priodas, drwy apwyntiad;
  • Bydd y cyfyngiadau ar ganfasio gwleidyddol yn cael eu codi, ond bydd gofyn i ganfaswyr wneud hynny mewn modd diogel.

Bydd rhagor o lacio ar y cyfyngiadau yn ystod yr wythnosau nesaf, cyhyd ag y bo’r sefyllfa o ran iechyd y cyhoedd yn parhau'n ffafriol. Bydd hyn yn cael ei gadarnhau yn yr adolygiad teirwythnosol nesaf o’r rheoliadau coronafeirws ar 22 Ebrill.

Ddydd Llun 26 Ebrill:         

  • Byddai atyniadau awyr agored, gan gynnwys ffeiriau a pharciau thema, yn cael ailagor;
  • Bydd lletygarwch awyr agored yn cael ailddechrau, gan gynnwys mewn caffis, tafarndai a bwytai. Bydd lletygarwch o dan do yn parhau i fod ar gau, heblaw ar gyfer bwyd i’w gludo oddi yno;
  • Gellir cynnal gweithgareddau awyr agored wedi'u trefnu ar gyfer hyd at 30 o bobl (y dyddiad gwreiddiol oedd dydd Llun 3 Mai);
  • Gellir cynnal derbyniadau priodasau yn yr awyr agored, ond byddant hefyd wedi’u cyfyngu i 30 o bobl (y dyddiad gwreiddiol oedd dydd Llun 3 Mai).

Ddydd Llun 3 Mai (ddydd Llun 10 Mai yn wreiddiol):

  • Caiff campfeydd, canolfannau hamdden a chyfleusterau ffitrwydd ailagor. Bydd hyn yn cynnwys hyfforddiant unigol neu un-i-un ond nid dosbarthiadau ymarfer corff;
  • Bydd modd ffurfio aelwydydd estynedig unwaith eto, a fydd yn galluogi dwy aelwyd i gwrdd a chael cyswllt o dan do.

Fel y nodwyd yn y Cynllun Rheoli’r Coronafeirws diwygiedig, mae nifer fach o gynlluniau peilot ar gyfer digwyddiadau awyr agored i rhwng 200 a 1,000 o bobl yn cael eu cynllunio hefyd.