English icon English

Yn dilyn cyhoeddiad Palas Buckingham heddiw am farwolaeth Ei Uchelder Brenhinol Dug Caeredin, dyma deyrnged gan Brif Weinidog Cymru, Mark Drakeford

Following today’s announcement from Buckingham Palace of the death of His Royal Highness The Duke of Edinburgh, the First Minister of Wales, Mark Drakeford pays tribute

Mae Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, wedi mynegi ei dristwch o glywed am farwolaeth Ei Uchelder Brenhinol Dug Caeredin ac wedi cydymdeimlo â’i Mawrhydi y Frenhines Elizabeth II a’r teulu Brenhinol ar ran Llywodraeth Cymru.

Dywedodd:

“Trist yw clywed am farwolaeth Ei Uchelder Brenhinol Dug Caeredin.  Gydol oes lawn a hynod nodedig, bu’n ddiflino ac yn hael ei wasanaeth ffyddlon i’r goron.

Ar y diwrnod trist hwn, estynnwn ein cydymdeimlad diffuant i’w Mawrhydi y Frenhines Elizabeth II, ei blant a’u teuluoedd hwythau.

Dyma golled i’r holl sefydliadau y rhoddodd y Dug ei wasanaeth a’i gefnogaeth iddynt, yn Noddwr ac yn Llywydd, dros gyfnod o ddegawdau.”