English icon English
Vaughan Gething  (L)

"Mae diwydiant dur cryf, cynaliadwy a charbon isel yn rhan hanfodol o’n hadferiad gwyrdd” – Vaughan Gething

"A strong, sustainable and low-carbon steel industry will be vital to our green recovery" – Vaughan Gething

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo’n llwyr i sicrhau bod gan ddiwydiant dur Cymru ddyfodol diogel a chynaliadwy fel rhan o’r trawsnewid  i economi wyrddach a dyfodol carbon isel, meddai Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, heddiw.

Ar gyfer ei ymweliad swyddogol cyntaf fel Gweinidog yr Economi, ymunodd Vaughan Gething heddiw ag ail gyfarfod Cyngor Dur y DU. Fforwm newydd ei ailsefydlu yw’r Cyngor lle gall y llywodraeth, y diwydiant ac undebau llafur weithio gyda’i gilydd i wireddu’u hamcan cytûn o greu cynllun tymor hir cyraeddadwy ar gyfer helpu’r sector i drawsnewid ar gyfer dyfodol cystadleuol, cynaliadwy a charbon isel.

Mae nifer o heriau’n dal i wynebu’r sector dur, gan gynnwys yr angen i leihau ei allyriadau carbon, prisiau trydan uchel y DU a phroblemau masnachu.

 Yn ôl UK Steel, mae diwydiant dur y DU yn cyflogi 33,700 o bobl yn ogystal â chynnal 42,000 o swyddi eraill yn y gadwyn gyflenwi.

Gwnaeth sector Diwydiant a Busnes Cymru allyrru 14.0 miliwn tunnell o Garbon Deuocsid a’i gyfatebol (MTCO2e) yn 2018. Hynny yw, 36% o holl allyriadau nwyon tŷ gwydr Cymru yn 2018.  O fewn y sector Diwydiant a Busnes, diwydiant haearn a dur Cymru oedd yn gyfrifol am 43% (6.01 MTCO2e) o holl allyriadau’r sector yn 2018.

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething:

“Mae gan ddiwydiant dur Cymru hanes hir a lle balch yn nhirwedd ddiwydiannol y wlad.  Mae’n dal i fod yn hanfodol bwysig i’n heconomi, a bydd yn rhan o adferiad yr economi.  Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod gan ddur Cymru ddyfodol cryf a chynaliadwy.

“Wrth i ni gamu allan o’r argyfwng Covid, ein heriau mawr nesaf yw adferiad economaidd Cymru, ac argyfwng yr hinsawdd.  Bydda’ i’n rhoi fy sylw nawr ar helpu cwmnïau dur yng Nghymru i drawsnewid i ddyfodol carbon isel.  Ond bydd angen partneriaeth gref arnom â Llywodraeth y DU, o gofio’r sbardunau economaidd sydd ganddi sy’n allweddol i ddadgarboneiddio’r diwydiant.

“Mae gen i neges glir i gyfarfod Cyngor Dur y DU heddiw; rhaid i ni i gyd weithio gyda’n gilydd mewn partneriaeth – llywodraethau Cymru a’r DU, y diwydiant dur a’r undebau – i sicrhau bod y trawsnewid hwn yn digwydd er mwyn inni allu adeiladu Cymru sy’n decach, yn wyrddach ac yn fwy llewyrchus.”