English icon English
Eluned Morgan Headshot-2

£100m i roi hwb i adferiad y GIG a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru ar ôl y pandemig

£100m to kick-start NHS and Social Care recovery from pandemic in Wales

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Eluned Morgan wedi amlinellu cynlluniau ar gyfer buddsoddiad gwerth £100m i roi hwb i’r gwaith o adfer y system ofal ar ôl pandemig COVID-19.

Bydd yr arian ar gyfer offer, staff a thechnoleg newydd yn ogystal â ffyrdd newydd o weithio yn helpu byrddau iechyd i wella gwasanaethau ar draws gofal sylfaenol, gofal cymunedol a gofal ysbyty, drwy gynyddu capasiti a lleihau amseroedd aros wrth iddynt ddechrau ailgydio mewn gofal nad yw’n frys yn dilyn y pandemig.

Dywedodd y Gweinidog: “Mae’n mynd i gymryd amser i adfer ein gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, a bydd hefyd angen buddsoddiad a ffordd newydd o ddarparu gofal.

Mae ymrwymiad anhygoel gweithwyr y GIG a gofal cymdeithasol wedi ein helpu drwy’r pandemig hwn, a gallwn bellach ddechrau meddwl am y dyfodol. Rwy’n benderfynol ein bod nawr yn darparu’r cymorth sydd ei angen arnyn nhw i helpu’r gwasanaeth i adfer.

Does dim amheuaeth bod y dasg sydd o’n blaenau yn un fawr, ond mae hefyd yn bwysig cydnabod bod gennym nawr gyfle gwirioneddol i drawsnewid y ffordd y caiff y gwasanaethau iechyd a gofal eu darparu. Rhaid i ni fanteisio ar y cyfle hwn i greu system iechyd a gofal sy’n addas ar gyfer y dyfodol. Yn sgil y pandemig, gwelwyd technoleg newydd a ffyrdd newydd o weithio’n cael eu mabwysiadu’n gynnar ac yn gyflym, a hoffwn weld byrddau iechyd yn adeiladu ar y gwaith da hwn.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo £1bn yn ychwanegol i gefnogi ein cynllun adfer. Heddiw, rwy’n nodi sut y caiff y £100m cychwynnol ei ddyrannu i’n GIG i ddechrau ar y gwaith hwn.”

Caiff y £100m cychwynnol ei ddyrannu fel a ganlyn:

  • Caerdydd a’r Fro £13m i gynyddu’r capasiti ar gyfer amrywiaeth o therapïau a gwasanaethau diagnosteg, gan gynnwys recriwtio staff a dwy theatr symudol newydd.
  • Powys £2.5m i drawsnewid gwasanaethau cleifion a chynyddu’r capasiti ar gyfer amrywiaeth o wasanaethau.
  • Cwm Taf Morgannwg £16m i recriwtio a buddsoddi mewn capasiti llawdriniaethau a gwasanaethau diagnosteg.
  • Hywel Dda £13m i gynyddu capasiti ar gyfer gofal wedi’i drefnu, gan gynnwys ail ddylunio ysbytai, buddsoddi mewn gwasanaethau diagnosteg ac offthalmoleg.
  • Aneurin Bevan £17m ar gyfer prosiectau i gynyddu capasiti ym maes gofal wedi’i drefnu, gwasanaethau diagnosteg, therapïau ac iechyd meddwl.
  • Bae Abertawe £16m i gynyddu capasiti mewn ystod eang o feysydd, gan gynnwys theatrau, recriwtio ac offthalmoleg.
  • Betsi Cadwaladr £20m i gynnydd capasiti mewn gofal wedi’i drefnu, gwasanaethau canser, gwasanaethau deintyddol, diagnosteg ac endosgopi.
  • Felindre £2.5m i gynyddu capasiti ar gyfer radiotherapi.

Nodiadau i olygyddion

Mae cynllun adfer Llywodraeth Cymru, Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru – COVID-19: Edrych tua’r Dyfodol, yn edrych ar yr agweddau allweddol canlynol o’r broses adfer:

  • lleihau anghydraddoldebau iechyd er mwyn sicrhau Cymru fwy teg
  • datblygu system gofal sylfaenol a chymunedol sy’n fwy ymatebol
  • creu gwasanaethau iechyd meddwl cefnogol
  • gwasanaethau ysbyty mwy effeithiol ac effeithlon
  • cydweithio gwell rhwng iechyd a gwasanaethau cymdeithasol
  • cefnogi ac adeiladu gweithlu gwydn
  • darparu cefnogaeth ddigidol hygyrch

Gallwch weld copi llawn yma: Gwella iechyd a gofal cymdeithasol (COVID-19: edrych tua’r dyfodol) | LLYW.CYMRU