Skip to main content

Transport for Wales asks passengers to respect staff and follow advice

29 Ebr 2021

Mae Trafnidiaeth Cymru yn gofyn i deithwyr barchu ei staff a dilyn y cyngor teithio diweddaraf i sicrhau teithiau diogel a dymunol i bawb sy’n teithio’r penwythnos hwn.

Disgwylir y bydd rhwydwaith Cymru a’r Gororau yn brysur yn dilyn ailagor tafarndai, caffis a bwytai yng Nghymru ar gyfer lletygarwch yn yr awyr agored.

Mae nifer y teithwyr wedi codi i dros 60% o’r lefelau cyn COVID mewn rhai o orsafoedd TrC dros yr wythnosau diwethaf, ac mae hyn wedi arwain at gynnydd mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Dywedodd Joshua Hopkins, sef rheolwr cadernid gweithredol TrC: “Yn anffodus, mae lleiafrif bach o bobl yn dal i ddewis rhoi eu hunain, teithwyr eraill a’n staff mewn perygl drwy ymddygiad gwrthgymdeithasol ar ein gwasanaethau ac mewn gorsafoedd.

“Bydd gennym bresenoldeb cryf o staff TrC, staff diogelwch a Heddlu Trafnidiaeth Prydain ar draws y rhwydwaith i sicrhau ei fod yn parhau i fod yn amgylchedd diogel i bobl sy’n dymuno teithio.

“Mae systemau ciwio ar waith a mesurau eraill i reoli torfeydd ac mae’n bwysig bod pobl yn parchu ac yn gwrando ar ein staff bob amser.

“Mae gan ein staff yr hawl i wrthod teithio os yw pobl yn bod yn ymosodol neu os ydyn nhw’n rhy feddw i deithio.

“Rydyn ni’n annog pawb i ddilyn ein cyngor Teithio’n Saffach, gwirio amserlenni, cynllunio ymlaen llaw, cadw pellter cymdeithasol, gwisgo masg (oni bai eich bod wedi’ch eithrio) a defnyddio ein Gwiriwr Capasiti.”

Mae’r Gwiriwr Capasiti yn helpu ein teithwyr i weld pa drenau sy’n aml yn llawn a pha rai sydd â digon o seddi ar gael, er mwyn i bobl allu penderfynu ar yr amser gorau ar gyfer eu taith.

Dywedodd Richard Powell, sef Arolygydd Heddlu Trafnidiaeth Prydain: “Ein prif flaenoriaeth yw cadw teithwyr a staff y rheilffyrdd yn ddiogel. Rydyn ni’n parhau i batrolio’r rhwydwaith, gan wneud yn siŵr bod y rheini sy’n defnyddio’r rheilffordd yn gallu gwneud hynny’n ddiogel.

“Bydd swyddogion hefyd yn atgoffa teithwyr o bwysigrwydd gwisgo gorchudd wyneb ar drenau ac mewn gorsafoedd, oni bai eu bod wedi’u heithrio. Os oes angen i chi gysylltu â ni, anfonwch neges destun at 61016 neu ffonio 0800 40 50 40.”