English icon English
E1R32GWWEAQ5tgs-2

Tîm newydd i arwain Cymru i ddyfodol mwy disglair

New top team to lead Wales into a brighter future

Bydd newid hinsawdd, swyddi gwyrdd newydd ac adfer o’r pandemig wrth wraidd y Llywodraeth Lafur Cymru newydd, wrth i’r Prif Weinidog Mark Drakeford ddatgelu ei dîm Cabinet newydd.

Bydd y weinyddiaeth newid hinsawdd newydd yn dod â phortffolios yr amgylchedd, ynni, tai, cynllunio a thrafnidiaeth at ei gilydd, dan arweiniad Julie James. Lee Waters fydd y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd.

Menywod sydd wedi’u penodi i ddwy o bob tair swydd yn y Cabinet newydd.

Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford:

“Bydd yr amgylchedd wrth wraidd ein holl benderfyniadau. Nid yw’r argyfwng newid hinsawdd wedi diflannu tra’r ydym wedi bod yn delio â’r pandemig.

“Mae Cymru’n wlad odidog sydd ag asedau naturiol helaeth a fydd yn helpu i sbarduno ein hadferiad a chreu swyddi’r dyfodol.

“Yn fy llywodraeth newydd, bydd gan faes yr amgylchedd nid yn unig sedd wrth fwrdd y Cabinet, bydd yn cael ei ystyried ym mhopeth a wnawn.”   

Ar ôl arwain yr ymateb i’r pandemig dros y 15 mis diwethaf a gwasanaethu fel Gweinidog Iechyd ers pum mlynedd, caiff Vaughan Gething ei benodi’n Weinidog yr Economi. Bydd e’n arwain adferiad economaidd Cymru.

Bydd Dawn Bowden yn ymuno â’r Llywodraeth fel Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon ym mhortffolio’r economi. Hi hefyd fydd y Prif Chwip.

Lesley Griffiths fydd y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd.

Rhoddodd y Prif Weinidog Mark Drakeford deyrnged i Ken Skates sy’n dychwelyd i’r meinciau cefn i ganolbwyntio ar gryfhau Llafur Cymru yn y Gogledd cyn yr etholiadau llywodraeth leol y flwyddyn nesaf ac etholiad nesaf Senedd y Deyrnas Unedig. Bydd ef hefyd yn cryfhau cysylltiadau Llafur rhwng Gogledd Cymru a Gogledd-orllewin Lloegr.

Dywedodd y Prif Weinidog:

“Mae Ken wedi bod yn gaffaeliad mawr yn y Cabinet ac wedi darparu llais ar gyfer y Gogledd. Bydd e’n parhau i godi llais dros y Gogledd a Llafur Cymru ond mewn rôl wahanol. Byddwn ni’n gweld eisiau ei egni a’i angerdd.

“Daw Vaughan yn Weinidog yr Economi ar adeg dyngedfennol – nid argyfwng iechyd y cyhoedd yn unig yw’r pandemig, mae hefyd yn argyfwng economaidd.”    

Eluned Morgan fydd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, gan ganolbwyntio’n benodol ar adferiad y GIG a’r ymateb i’r pandemig.

Lynne Neagle fydd y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant. Lynne yw cyn gadeirydd Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd sydd wedi hyrwyddo iechyd meddwl plant a phobl ifanc. Bydd Julie Morgan yn parhau yn ei rôl fel y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol.

Jeremy Miles fydd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, gan oruchwylio’r broses o gyflwyno cwricwlwm newydd Cymru a’r rhaglen dal i fyny fwyaf erioed mewn ysgolion. Bydd Mick Antoniw yn dychwelyd i’r Cabinet fel y darpar Gwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad.

Jane Hutt fydd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a Hannah Blythyn fydd y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol.

Bydd Rebecca Evans yn cadw swydd y Gweinidog Cyllid ond, gydag etholiadau lleol pwysig ar y gorwel ymhen blwyddyn, mae maes llywodraeth leol wedi’i ychwanegu at ei phortffolio. Bydd hyn yn rhoi cysondeb pwysig i’r Cabinet newydd.

Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford:

“Mae’r Cabinet newydd yn barod i ddechrau arni i arwain Cymru ar y daith tuag at adferiad wedi’r pandemig hir hwn, sydd wedi bwrw cysgod mor fawr ar ein bywydau ni i gyd.

“Bydd heriau o’n blaenau – mae’r pandemig yn argyfwng iechyd y cyhoedd ac yn argyfwng economaidd a fydd yn effeithio ar ein bywydau ymhell i’r dyfodol – ond mae’r tîm hwn yn un dawnus ac ymroddedig sy’n benderfynol o wneud gwahaniaeth cadarnhaol er lles Cymru.

“Byddwn ni’n rhoi pob gewyn ar waith i greu Cymru gryfach, tecach a gwyrddach, lle nad oes neb yn cael ei ddal yn ôl na’i adael ar ôl.”

Y Llywodraeth Lafur Cymru newydd

Mark Drakeford                  Y Prif Weinidog

Mick Antoniw                     Darpar Gwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad

Rebecca Evans                 Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

Vaughan Gething              Gweinidog yr Economi

Dawn Bowden                   Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a’r Prif Chwip

Lesley Griffiths                  Y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd

Jane Hutt                          Y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol

Hannah Blythyn                 Y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol

Julie James                       Y Gweinidog Newid Hinsawdd

Lee Waters                        Y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd

Jeremy Miles                     Gweinidog y Gymraeg ac Addysg

Eluned Morgan                  Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Julie Morgan                      Y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol

Lynne Neagle                    Y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant