English icon English
tafwyl-2

Digwyddiadau Prawf Peilot Cymru

Wales pilot test events get underway

Wrth i gyfyngiadau'r Coronafeirws barhau i lacio yng Nghymru, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi rhestr arfaethedig o ddigwyddiadau prawf peilot i'w cynnal dros yr wythnosau nesaf.

Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda phartneriaid ar gyflwyno digwyddiadau prawf peilot er mwyn datblygu prosesau a chanllawiau a fydd yn caniatáu i ddigwyddiadau ddychwelyd yn  ddiogel yng Nghymru. Bydd rheoli rhaglen digwyddiadau prawf ddiogel a llwyddiannus gobeithio yn caniatáu i gynulliadau mwy yn ôl i stadia, theatrau a lleoliadau eraill yng Nghymru yn hwyrach eleni.

Mae Eid yn y Castell a Tafwyl yng Nghaerdydd wedi'u cadarnhau ar gyfer yr wythnos hon tra bod trafodaethau gyda pherchnogion digwyddiadau eraill yn parhau: Mae'r rhestr arfaethedig o naw digwyddiad prawf peilot fel a ganlyn:

  • Eid-al-Fitr

12-14 Mai (cytunir ar ddyddiad y noson cyn y digwyddiad) | Caerdydd | 300-500 yn bresennol               

  • Gŵyl Tafwyl

15 Mai | Caerdydd| 500 yn bresennol

  • Gêm Cynghrair Dau Clwb Pêl-droed Casnewydd

18 Mai/Rodney Parade

  • Digwyddiad busnes ICCW

20 Mai | Casnewydd | Gwahodd 100 dan do

  • Gêm y Bencampwriaeth Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe

22 Mai | Stadiwm Liberty

  • Theatr Brycheiniog

3-4 Mehefin | Theatr Brycheiniog Aberhonddu, Powys | 250 yn bresennol

  • Morgannwg v Swydd Gaerhirfryn

3-6 Mehefin | Gerddi Sophia, Caerdydd | 750-1000 o wylwyr     

  • Cymru v Albania

5 Mehefin | Stadiwm Dinas Caerdydd | 4000 o wylwyr  

  • Triathlon Abergwaun 

11eg a 12fed Mehefin | Abergwaun/Tŷ Ddewi | Cyfranogwyr cofrestredig yn unig

Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford: "Mae wedi bod yn 18 mis hir ac anodd i'r diwydiant digwyddiadau yng Nghymru – i berchnogion digwyddiadau, y rhai sy'n dibynnu ar y sector am y gwaith - ac i'r rhai sy'n hiraethu am weld digwyddiadau byw yn dychwelyd i Gymru. Wrth i ni edrych ar godi'r cyfyngiadau coronafeirws yng Nghymru, rydym wedi gweithio'n agos gyda threfnwyr digwyddiadau i sefydlu rhestr o ddigwyddiadau prawf peilot sy'n cynnwys amrywiaeth o wahanol leoliadau a mathau o ddigwyddiadau.  Mae'r gwaith hwn yn dod â ni gam yn nes at ddychwelyd i ddigwyddiadau yng Nghymru, hoffwn ddiolch i berchnogion y digwyddiadau a'r Awdurdodau a byrddau iechyd Lleol am eu hymrwymiad i weithio gyda ni a dymuno'n dda iddynt dros yr haf."

"Mae'r digwyddiadau hyn yn wahanol iawn o ran natur a lleoliad ond mae mynediad i fynychwyr – boed yn gyfranogwyr neu'n wylwyr – yn cael ei reoli'n llym gan y trefnwyr a'i gytuno ymlaen llaw.

"Rydyn ni'n gofyn i bobl ddathlu Eid yn wahanol eto eleni. Rwy'n gobeithio'n fawr y bydd dathliadau yn y castell yn cael eu mwynhau gan y rhai sydd â thocynnau. Os nad oes gennych docyn, dathlwch yn ddiogel gyda'ch cartref agos neu o fewn swigod cymorth."

Dewiswyd y digwyddiadau mewn trafodaeth gyda bwrdd prosiect Llywodraeth Cymru ar gyfer y rhaglen digwyddiadau prawf a pherchnogion digwyddiadau.  Bydd protocol profi ac asesiad risg yn cael ei deilwra ar gyfer pob digwyddiad.