English icon English
pexels-cdc-3992933-2

Y Prif Swyddogion Meddygol yn cytuno i ostwng Lefel Rhybudd COVID-19 yn y DU

UK CMOs agree to lower UK COVID-19 Alert Level

Yn dilyn cyngor gan y Gydganolfan Bioddiogelwch ac ar sail y data diweddaraf, mae Prif Swyddogion Meddygol y Deyrnas Unedig a Chyfarwyddwr Meddygol Cenedlaethol NHS England yn cytuno y dylai lefel rhybudd y DU symud o lefel 4 i lefel 3.

Diolch i ymdrechion y cyhoedd yn y DU o ran cadw pellter cymdeithasol a'r effaith rydym yn dechrau ei gweld yn sgil y rhaglen frechu, mae nifer yr achosion, nifer y marwolaethau a phwysau COVID ar ysbytai wedi gostwng yn gyson. Fodd bynnag, mae COVID yn dal i gylchredeg ac mae pobl yn dal ac yn lledaenu'r feirws bob dydd, felly mae angen i bob un ohonom barhau i fod yn wyliadwrus. Mae hwn yn dal yn bandemig mawr drwy’r byd.  

Mae'n bwysig iawn ein bod i gyd yn parhau i ddilyn y canllawiau'n ofalus a bod pawb yn cael y ddau ddos o'r brechlyn pan gânt eu cynnig.

Prif Swyddog Meddygol Cymru, Dr Frank Atherton

Prif Swyddog Meddygol Lloegr, yr Athro Chris Whitty

Prif Swyddog Meddygol Gogledd Iwerddon, Dr Michael McBride

Prif Swyddog Meddygol yr Alban, Dr Gregor Smith

Cyfarwyddwr Meddygol Cenedlaethol NHS England, yr Athro Stephen Powis