- Cwcis sydd wir eu hangen
Cwcis sydd wir eu hangen
Mae rhai o’n cwcis yn hanfodol ac ni fydd rhannau o’r safle’n gweithio hebddynt. Mae hyn yn cynnwys cofnodi eich dewisiadau cadw cwcis.
23 Tach 2023
Mae Trafnidiaeth Cymru yn annog pobl i arbed arian a mwynhau tymor yr ŵyl drwy gynnig tocynnau hanner pris ar lwybrau TrawsCymru T1, T1C, T2, T3, T3C, T6, T8 a T10 ar ddyddiau Gwener yn y cyfnod cyn y Nadolig, pan gânt eu prynu ar ap TrawsCymru.
Bydd tocynnau diwrnod* a brynwyd ar ap TrawsCymru ar gyfer unrhyw un o'r llwybrau uchod ar 24 Tachwedd, 1, 8, 15 neu 22 Rhagfyr yn cael eu disgowntio’n awtomatig wrth y ddesg dalu a gellir eu defnyddio i neidio ymlaen ac oddi ar y gwasanaeth hwnnw gymaint o weithiau ag y dymunwch mewn dydd. Bydd 1 tocyn diwrnod hanner pris ar gael i gwsmeriaid ar y llwybrau uchod ar bob diwrnod o’r arwerthiant.
Teithiwch ar ein gwasanaeth T1 rhwng Caerfyrddin ac Aberystwyth trwy’r dydd am dim ond £3.50 neu mwynhewch ddiwrnod o siopa Nadolig yn Abertawe neu Aberhonddu gyda’n gwasanaeth T6 am £4 yn unig. Edrychwch ar ein prisiau gwych eraill isod neu cynlluniwch eich diwrnod allan gan ddefnyddio ein teclyn cynllunio taith.
Gellir defnyddio tocynnau unrhyw bryd o fewn blwyddyn i’w prynu, felly manteisiwch ar y cynnig gwych hwn a chynlluniwch eich taith nawr.
Prisiau tocynnau dydd – gostyngiad o 50%
T1
Caerfyrddin – Aberystwyth trwy Llanbedr Pont Steffan a Thregaron
£3.50 oedolion, £2.32 plentyn a fyngherdynteithio
Llanbedr Pont Steffan – Aberystwyth
£2.87 oedolion, £1.90 plentyn a fyngherdynteithio
Llanbedr Pont Steffan – Caerfyrddin
£2.87 oedolion, £1.90 plentyn a fyngherdynteithio
T1C
Caerdydd – Aberystwyth drwy Fae Caerdydd, Pen-y-bont ar Ogwr, Caerfyrddin, Llandysul ac Aberaeron
£6.50 oedolion, £3.65 plentyn a fyngherdynteithio
T2
Aberystwyth – Bangor drwy Fachynlleth, Dolgellau, Porthmadog a Chaernarfon
£3 oedolion, £1.70 plentyn a fyngherdynteithio
T3/T3C
Abermaw – Wrecsam drwy Ddolgellau, Y Bala, Corwen, Berwyn, Llangollen a Rhiwabon
£3 oedolion, £1.70 plentyn a fyngherdynteithio
T6
Abertawe – Aberhonddu drwy Gastell-nedd, Ystradgynlais a Phontsenni
£4 oedolion, £2 plentyn a fyngherdynteithio
T8
Corwen – Caer trwy Rhuthun a’r Wyddgrug
£2.90 oedolion, £1.60 plentyn a fyngherdynteithio
T10
Bangor – Corwen trwy Betws-y-Coed
£2.85 oedolion, £1.90 plentyn a fyngherdynteithio
Nodiadau i olygyddion
*Dim ond yn ddilys ar docynnau diwrnod ap ar lwybrau T1, T1C, T2, T3, T3C, T6, T8 a T10. Rhaid ei brynu ar 24 Tachwedd neu 1, 8, 15, 22 Rhagfyr. 1 tocyn hanner pris i gwsmeriaid ar y diwrnodau uchod. Rhaid ei ddefnyddio o fewn blwyddyn.