English icon English

Gofyn am farn ar ganllawiau’r Cwricwlwm newydd

Views sought on new Curriculum guidance

Mae Llywodraeth Cymru wedi agor ymgynghoriad ar ganllawiau ychwanegol ar gyfer Cwricwlwm newydd Cymru.

Mae'r ymgynghoriad wyth wythnos yn cynnwys canllawiau drafft pellach a chod ar gyfer addysgu Addysg Perthnasoedd a Rhywioldeb a Chrefydd, Gwerthoedd a Moeseg.

Datblygwyd y Cod drafft newydd a'r canllawiau statudol ar gyfer Addysg Perthnasoedd a Rhywioldeb (APRh) gyda phartneriaid gan gynnwys athrawon, arbenigwyr, undebau a sefydliadau ffydd. Mae'r Cod drafft yn nodi'r elfennau gorfodol i'w haddysgu a'i nod yw sicrhau tryloywder a chysondeb o ran sut caiff APRh ei addysgu mewn ysgolion. 

Bydd Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg (CGM) yn ofyniad statudol hefyd i bob dysgwr yn y cwricwlwm newydd. Cynlluniwyd y canllawiau drafft gan ymarferwyr addysg ac arbenigwyr addysg grefyddol, i gynorthwyo athrawon i ddatblygu cynnwys CGM ar gyfer Maes Dysgu a Phrofiad y Dyniaethau.

Ceir ymgynghoriad hefyd ar y Cod ‘Yr Hyn Sy'n Bwysig’ diwygiedig, sy'n nodi'r 27 datganiad ar draws y chwe maes dysgu a phrofiad y mae'n rhaid i ysgolion seilio eu cwricwlwm arnynt.

Daeth Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 yn gyfraith ar ôl cael Cydsyniad Brenhinol fis diwethaf.

Dywedodd Jeremy Miles, y Gweinidog dros Addysg a'r Gymraeg:

"Mae Covid wedi dangos, yn fwy nag erioed, pam mae arnom angen cwricwlwm newydd - gan roi lles wrth galon yr hyn rydym ei eisiau ar gyfer ein dysgwyr a'u galluogi i addasu ac ymateb i fyd sy'n newid yn barhaus.

"Diolch i bawb sydd wedi helpu ni i ddatblygu'r canllawiau drafft.

"Rydym yn croesawu adborth gan athrawon, rhieni, dysgwyr a phawb sy'n angerddol am addysg yng Nghymru. Bydd mireinio'r darnau allweddol hyn o ganllawiau yn allweddol i'r ffordd y caiff gwersi eu cyflwyno yn y dyfodol."