English icon English

Hwb ariannol sylweddol i gefnogi cymorth wedi’i bersonoli i ddysgwyr

Major funding boost to support personalised learner support

Bydd Llywodraeth Cymru yn darparu £33m i gefnogi dysgwyr mewn colegau a dysgwyr yn y chweched dosbarth ledled Cymru, fel rhan o'r £150m mae Llywodraeth Cymru wedi’i ymrwymo i’r ymateb addysg i COVID-19.

Bydd y cyllid yn cael ei rannu rhwng darparwyr addysg ôl-16, gyda £24.25m ar gyfer colegau addysg bellach ac £8.75m ar gyfer addysg chweched dosbarth mewn ysgolion.

Bydd yr arian yn cefnogi amser addysgu ychwanegol, mewn ystafelloedd dosbarth a chymorth un-i-un, y gellir ei deilwra i anghenion dysgwyr amser llawn ac unigol sydd rhwng 16 ac 19 oed ac sy'n dechrau eu cyrsiau UG, Safon Uwch neu gyrsiau galwedigaethol, naill ai yn y chweched dosbarth mewn ysgol neu mewn coleg addysg bellach.

Dywedodd Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ag Addysg:

"O ran addysg, mae'r pandemig wedi effeithio'n fawr ar ddysgwyr a ddechreuodd eu haddysg ôl-16 yn y flwyddyn academaidd hon.

"Er bod staff a myfyrwyr wedi gallu addasu’n rhagorol i ddysgu cyfunol, ni all fyth gymryd lle addysg wyneb yn wyneb mewn ystafell ddosbarth neu ystafell ddarlithio gyda gweithiwr addysgu proffesiynol. Roedd dysgu ar-lein yn brofiad heriol iawn i rai myfyrwyr ac rwy'n ymwybodol o effaith y pandemig ar ddysgwyr o'r cefndiroedd mwyaf difreintiedig yn enwedig.

"Mae'n hanfodol ein bod yn buddsoddi nawr i gefnogi'r myfyrwyr hynny, fel y gallant deimlo bod ganddynt yr amser a'r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt i ailgysylltu â'u haddysg." 

Dywedodd Iestyn Davies, Prif Weithredwr Colegau Cymru, y corff sy'n gweithio gyda’r 13 o golegau Addysg Bellach yng Nghymru:

"Mae cymorth Llywodraeth Cymru wedi bod yn allweddol i gefnogi dysgwyr mewn colegau ac ysgolion. Bydd y cyllid sylweddol hwn, y mae gwir ei angen, yn helpu colegau ac addysg chweched dosbarth mewn ysgolion i gynnig cymorth sydd wedi'i deilwra i bobl ifanc wrth iddynt ddechrau addysg ôl-orfodol.

"Heb unrhyw amheuaeth mae COVID 19 wedi effeithio ar ddysgwyr wrth iddyn nhw drosglwyddo o addysg orfodol ac ymlaen i gam nesaf eu taith addysg. Fodd bynnag, mae ymrwymiad y llywodraeth i ddysgu a lles yn golygu y bydd y dysgwyr hyn yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt i gymryd eu camau nesaf. Mae'n dyst i ymrwymiad y Gweinidog a'r weinyddiaeth i ddarparu'r cymorth sydd ei angen."