Skip to main content

Improvement work taking place over the bank holiday weekend

27 Mai 2021

Mae teithwyr ar y rheilffyrdd yn Ne Cymru yn cael eu hannog i gynllunio ymlaen llaw oherwydd bydd gwaith gwella hanfodol yn cael ei gynnal ar y rhwydwaith dros benwythnos gŵyl banc mis Mai.

Mae gwaith yn cael ei wneud i ymestyn y platfform yng ngorsaf Ffynnon Taf fel rhan o brosiect Metro De Cymru.

Ni fydd trenau yn rhedeg i’r ddau gyfeiriad rhwng Radur a Phontypridd o ddydd Gwener 29 Mai i ddydd Llun 31 Mai. Bydd gwasanaeth bws yn cael ei ddarparu yn lle’r trenau.

Dylai teithwyr fynd i www.trc.cymru i gael yr wybodaeth ddiweddaraf cyn teithio ac fe hoffem eu hatgoffa bod rhaid iddynt wisgo masgiau wyneb ar drafnidiaeth gyhoeddus, oni bai eu bod wedi’u heithrio.

Bydd Metro De Cymru yn gwella cysylltedd ledled De Cymru yn sylweddol ac yn sicrhau mynediad at swyddi, hamdden a chyfleoedd eraill i bobl Cymru drwy uno llwybrau teithio i drenau, bysiau a theithio llesol. 

Mae prosiect Metro De Cymru wedi ei gyllido’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth  Cymru.

Llwytho i Lawr