English icon English
Jane Hutt profile photo Nov 2019-2

“Gwirfoddolwyr yw’r glud sy’n dal ein cymunedau ni gyda’i gilydd”

“Volunteers are the glue which hold our communities together”

Mae £1.4m o gyllid wedi cael ei ddyfarnu i 12 prosiect sydd wrth galon cymunedau ledled Cymru, gan nodi Wythnos Gwirfoddolwyr 2021 hefyd.

Mae'r Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol yn ariannu prosiectau hyd at uchafswm o £250,000, neu hyd at £25,000 ar gyfer grantiau llai. Mae'n helpu cyfleusterau cymunedol sy'n cael eu defnyddio'n dda i wella eu cynaliadwyedd hirdymor, gan roi cyfleoedd i bobl leol wella eu bywydau o ddydd i ddydd.

Y prosiectau diweddaraf sy'n derbyn hyd at £250,000 o gyllid yw:

  • Cymdeithas Islamaidd Ddiwylliannol Cymru, Abertawe, ar gyfer adnewyddu adeilad i greu ystafelloedd dosbarth newydd
  • Cymdeithas Gymunedol y Mwmbwls, Abertawe, ar gyfer hwb cymunedol a chaffi newydd. Byddant hefyd yn adnewyddu ac yn rhoi pwrpas newydd i'r Pafiliwn presennol gyda thoiledau cyhoeddus hygyrch
  • Neuadd Bentref Aberporth a'r Maes Hamdden, Ceredigion, i ailadeiladu un eiddo a moderneiddio eiddo arall
  • Cwmni'r Frân, Gwynedd, i adnewyddu adeilad i fod yn ganolfan greadigol
  • Y Ganolfan ar gyfer Entrepreneuriaeth Affricanaidd, Abertawe, i brynu adeilad i’w droi'n hwb menter gymunedol

Y rhai sy’n derbyn £25,000 yw:

  • Canolfan Gymunedol Aberbeeg, Blaenau Gwent, i newid ei system wresogi am system ynni adnewyddadwy, economaidd a chynaliadwy
  • Canolfan Gymunedol Brynna, RhCT, i roi wyneb newydd ar y maes parcio presennol a’i ymestyn i'w wneud yn hygyrch i ddefnyddwyr anabl
  • Clwb Rygbi Brynmawr, Blaenau Gwent, i adnewyddu'r pafiliwn rygbi
  • Neuadd Gymunedol Bwlchgroes, Sir Benfro, i ehangu ei chyfleusterau awyr agored i'w defnyddio gan y gymuned i helpu gyda lles meddyliol a chorfforol
  • Eglwys yr Holl Seintiau Y Drenewydd, Powys, ar gyfer estyniad newydd i'r eglwys i ddarparu toiledau hygyrch, cegin a gwell mynediad i'r prif adeilad i greu hwb cymunedol
  • Ardal Genhadaeth Valle Crucis, Sir Ddinbych, ar gyfer toiledau hygyrch, cegin newydd, drysau mynediad thermol ac uwchraddio’r system wresogi i alluogi'r ganolfan i fod yn fwy effeithlon o ran ynni
  • Ffrindiau Gardd Natur Cricieth, Gwynedd, ar gyfer sied fel pafiliwn ar eu rhandir i ddarparu lle i weithio ar brosiectau ac ardal ar gyfer addysgu a throsglwyddo sgiliau.

Dywedodd Simon Tse, Cadeirydd Cymdeithas Gymunedol y Mwmbwls:

"Rydyn ni wrth ein bodd bod ein cais am grant i Raglen Cyfleusterau Cymunedol Llywodraeth Cymru wedi bod yn llwyddiannus. 

"Mynegodd ein tîm ddiddordeb cychwynnol yn y rhaglen grantiau ym mis Mehefin 2020 ac wedyn fe'i hanogwyd i gyflwyno cais manwl, a gwnaethom hynny fis Tachwedd diwethaf. Ym mhob cam, rydyn ni wedi gweithio gyda grwpiau chwaraeon a chymunedol, ysgolion lleol a'r cyhoedd yn ehangach i sicrhau bod yr hyn rydyn ni’n ceisio'i gyflawni yn diwallu eu hanghenion a'u dyheadau.

"Roedd y panel dyfarnu’n cydnabod yn glir y manteision a ddaw yn sgil y datblygiad a sut bydd ein cynlluniau'n diogelu ac yn gwella'r rôl werthfawr mae Parc Underhill yn ei chwarae i bobl leol ac ymwelwyr, gan ei wneud yn adnodd ardderchog i'r gymuned gyfan."   

Dywedodd Jane Hutt, y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol:

"Mae gwirfoddolwyr a'r prosiectau maen nhw'n eu cefnogi wastad wedi bod yn rhan annatod o'n cymunedau lleol ni ledled Cymru. Fel mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi dangos, gwirfoddolwyr yw'r glud sy'n dal ein cymunedau ni gyda'i gilydd.

"Nid yw'r agwedd wirfoddoli anhygoel hon erioed wedi bod yn amlycach nag yn ystod y 12 mis diwethaf, lle rydyn ni wedi gweld pobl o bob oedran a chefndir yn ymateb i'r heriau enfawr mae Covid-19 wedi'u cyflwyno.

"Mae’r Wythnos Gwirfoddolwyr eleni a'n hymrwymiad diweddaraf i ariannu 12 prosiect cymunedol gwych ledled Cymru yn hynod amserol a nodedig ac nid yw erioed wedi teimlo'n fwy priodol i fanteisio ar y cyfle i ddweud 'diolch yn fawr' wrth bob unigolyn a sefydliad sydd wedi rhoi o'u hamser i helpu."