Skip to main content

Transport for Wales launches Biodiversity Action Plan

10 Meh 2021

Mae Trafnidiaeth Cymru wedi gosod targed o beidio â cholli bioamrywiaeth net yn ei weithrediadau erbyn 2024 fel rhan o Gynllun Gweithredu Bioamrywiaeth newydd uchelgeisiol a lansiwyd heddiw.

Gan ddefnyddio metrig bioamrywiaeth Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig fel canllaw, mae TrC yn anelu at sicrhau nad oes colled net o ran bioamrywiaeth yn sgil ei waith a, lle bo’n bosibl, sicrhau enillion net o ran bioamrywiaeth.

Mae’r Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth yn nodi’r egwyddorion y bydd Trafnidiaeth Cymru yn eu mabwysiadu i sicrhau bod y sefydliad yn gwarchod, yn gwella ac yn hyrwyddo bywyd gwyllt, bioamrywiaeth a’n hecosystemau drwy gydol ei waith.

Dywedodd James Price, Prif Weithredwr Trafnidiaeth Cymru: “Rwy’n falch iawn o allu rhannu Cynllun Gweithredu Trafnidiaeth Cymru ar Fioamrywiaeth.

“Rydym wedi ymrwymo’n llwyr i gyflawni ein dyletswyddau o ran gwarchod, gwella a hyrwyddo ein bioamrywiaeth a’n hecosystemau drwy gydol ein gweithrediadau. Rydym eisiau cael ein gweld fel arweinydd ac fel enghraifft o drafnidiaeth gynaliadwy, gan hyrwyddo Cymru fel un sy’n arwain y ffordd o ran rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy a fydd yn galluogi’r cyhoedd a chenedlaethau’r dyfodol i fwynhau harddwch Cymru.

“Bydd y cynllun uchelgeisiol hwn yn helpu i sicrhau ein bod ni yn y sefyllfa gryfaf bosibl i gyflawni’r weledigaeth hon ar gyfer ein hamgylchedd naturiol."

Dywedodd Ecolegydd TrC, Laura Jones: “Mae gan ein rhwydweithiau trafnidiaeth yng Nghymru a’r Gororau rôl hanfodol i’w chwarae o ran diogelu a gwella ein hamgylchedd naturiol.

“Mae’r Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth hwn yn rhan allweddol o’n hamcanion cynaliadwyedd ehangach yn Trafnidiaeth Cymru; ein hymrwymiad ni yw atal rhywogaethau rhag dirywio, dirywiad mewn cynefinoedd a gwarchod ein bioamrywiaeth a’n hecosystemau drwy gydol ein gweithrediadau.

“Ein dyhead ar hyn o bryd – a phob amser – yw y gall trafnidiaeth gynaliadwy gyfrannu’n gadarnhaol at ddiogelu a gwella ein bywyd gwyllt.”

Y pum egwyddor sy’n rhan o’r cynllun gweithredu yw: dim colled net o ran bioamrywiaeth, cyfathrebu a thryloywder gyda’r cyhoedd a rhanddeiliaid ynghylch yr hyn mae TrC yn ei wneud a pham, prif ffrydio arferion gorau drwy gydol ein gweithrediadau, cydweithio ac ymgysylltu â sefydliadau bywyd gwyllt, rhanddeiliaid a chymunedau lleol, ac ymrwymiad i nodi a gweithredu mentrau bioamrywiaeth lle bynnag y bo modd.

Mae’r prosiectau sydd eisoes ar y gweill yn cynnwys adnewyddu cynefinoedd ar sail 2:1 yn Llan-wern, ger Casnewydd, lle mae llinell reilffordd newydd yn cael ei hadeiladu fel rhan o gynllun i gynyddu capasiti gwasanaethau pan fydd digwyddiadau mawr yn cael eu cynnal yn ne Cymru. Cafodd dros 6 ha o goetir llydanddail lliniaru ei greu ynghyd â 150 o flychau pathewod.

Yn ddiweddar, cafodd TrC £100,000 gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol a chynllun Mannau Lleol ar gyfer Byd Natur Llywodraeth Cymru i wella bioamrywiaeth leol mewn gorsafoedd trenau ac o’u cwmpas.

Bydd y sefydliad yn cyflwyno nodweddion gwyrdd mewn 22 o orsafoedd ac mewn pum ardal gymunedol ger gorsafoedd mewn ardaloedd lle ceir llawer o ddadfeilio a lle mae gwaith gwella mawr yn cael ei wneud ar y rhwydwaith. Bydd y nodweddion yn cynnwys waliau gwyrdd, toeau gwyrdd, potiau planhigion, basgedi crog, coed brodorol a chafnau dŵr. Bydd tai adar, blychau ystlumod, gwestai chwilod, tai i ddraenogod a thai buchod coch cwta hefyd yn cael eu cyflwyno lle bo’n briodol i roi hwb i fioamrywiaeth leol.

Llwytho i Lawr