English icon English

“Bydd Gwarant i Bobl Ifanc yn helpu i sicrhau nad oes cenhedlaeth goll yng Nghymru” – Vaughan Gething

“Young Person’s Guarantee will help ensure there’s no lost generation in Wales” – Vaughan Gething

Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu rhoi cyfle i bawb dan 25 oed gael gwaith, addysg, hyfforddiant, neu hunangyflogaeth drwy ei Gwarant newydd i Bobl Ifanc, i helpu i sicrhau nad oes cenhedlaeth goll yng Nghymru yn dilyn y pandemig Covid, meddai Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, heddiw.

Mae’r Gweinidog heddiw yn datgelu manylion sut y bydd Llywodraeth Cymru yn datblygu Gwarant i Bobl Ifanc sy’n darparu ar gyfer pobl ifanc yng Nghymru.

Mae’r Gweinidog yn galw ar fusnesau a sefydliadau sector cyhoeddus i ystyried sut y gallant chwarae eu rhan wrth gefnogi’r Warant i Bobl Ifanc.

Bydd y Gweinidogion hefyd yn edrych ar ffyrdd o helpu entrepreneuriaid ifanc i greu eu busnesau eu hunain. Bydd hyn yn cynnwys gweithio gyda’r gymuned fusnes i edrych ar gyfleoedd cyflogadwyedd a chymorth i entrepreneuriaid ifanc.

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething:

“Mae Llywodraeth Cymru yn benderfynol o sicrhau na fydd cenhedlaeth goll yng Nghymru o ganlyniad i’r pandemig. Dyna pam mae ein Rhaglen Lywodraethu yn ein hymrwymo i ddarparu ein Gwarant i Bobl Ifanc – rhaglen uchelgeisiol a fydd yn ceisio rhoi cyfle i bawb dan 25 oed yng Nghymru gael gwaith, addysg, hyfforddiant, neu hunangyflogaeth.

“Mae'r Warant i Bobl Ifanc yn rhan bwysig o’n hymdrechion i helpu pobl ifanc i gael y dechrau gorau posibl yn y byd gwaith. Rydym am roi i bobl ifanc y cymorth sydd ei angen arnynt i gael dyfodol mwy disglair pan fyddant yn gadael yr ysgol, y coleg, y brifysgol neu hyd yn oed pan fyddant yn wynebu colli eu swyddi. 

“Mae angen i ni sicrhau bod gan bobl ifanc y sgiliau a'r profiad sydd eu hangen arnynt ar gyfer swyddi heddiw ac yn y dyfodol. Mae hon yn elfen allweddol o'n strategaeth i atal diweithdra ymysg pobl ifanc ac i sicrhau nad yw pobl ifanc yn cael eu dal yn ôl na'u gadael ar ôl.”

Cymru’n Gweithio fydd y porth ar gyfer y Warant, gan adeiladu ar ei fodel ar gyfer darparu canllawiau gyrfa a chyfeirio at gymorth, model sydd eisoes yn gryf a llwyddiannus. Byddant hefyd yn treialu gwasanaeth Paru Swyddi newydd, er mwyn helpu pobl ifanc i gael gwaith a helpu cyflogwyr i lenwi swyddi gwag.

Bydd y Warant i Bobl ifanc yn cael ei datblygu i ddiwallu anghenion pobl ifanc, gan gynnwys y rhai sydd mewn perygl o ddiweithdra hirdymor. Ni fydd yn gwahaniaethu mewn perthynas â ffactorau economaidd-gymdeithasol, mewn perthynas â hyrwyddo a defnyddio’r Gymraeg, nac ar sail nodweddion gwarchodedig.

Hefyd, bydd y deialog a’r cydweithrediad rhwng Llywodraeth Cymru, darparwyr addysg, y sector hyfforddiant, cyflogwyr ac awdurdodau cyhoeddus yn cael eu cryfhau drwy ehangu ein gwaith o amgylch y Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol. Bydd darparwyr gwaith a sgiliau cenedlaethol a rhanbarthol o bob cwr o Gymru yn cael eu gwahodd i gysylltu â Cymru’n Gweithio fel y gall prosiectau ffurfio rhan o’r cynnig. 

Ychwanegodd y Gweinidog:

“Mae ein pobl ifanc yn allweddol ar gyfer llwyddiant Cymru yn y dyfodol. Mae eu doniau, eu sgiliau a’u creadigrwydd yn hanfodol er mwyn sicrhau llwyddiant economaidd ein gwlad. Fel cenedl, rydym yn wynebu heriau anferth - ond rwy’n benderfynol y gwnawn bopeth a allwn fel llywodraeth i helpu i sicrhau'r manteision economaidd hirdymor y mae ein pobl ifanc yn eu haeddu.”