Skip to main content

National Walking Month: how to explore Wales’ abandoned railways

29 Mai 2021

Er mwyn dathlu Mis Cerdded Cenedlaethol, dyma rai o’r hen reilffyrdd gorau y gallwch chi gerdded ar eu hyd yng Nghymru, wedi’u dewis gan ein cyfranwyr gwadd.

Yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg, adeiladwyd rhwydwaith eang o reilffyrdd ledled Cymru er mwyn cludo pobl a nwyddau o le i le, yn y dyddiau cyn cerbyd modur. Erbyn canol yr ugeinfed ganrif, roedd llawer o’r rheilffyrdd hyn wedi gweld gostyngiad sylweddol yn y galw ac oherwydd hynny, roedd y rheilffyrdd yn cael eu cau. Cafodd y traciau eu rhwygo, y gorsafoedd eu dymchwel ac fe gafodd y tir ei ddefnyddio o’r newydd.

Fodd bynnag, gallwch deithio ar hyd nifer o’r hen reilffyrdd ledled y wlad ar droed neu ar feic. Heddiw, mae'r hen reilffyrdd yn rhan bwysig o’n rhwydwaith eang o lwybrau teithio llesol, gan eu bod yn darparu ffyrdd cynaliadwy o archwilio cefn gwlad Cymru neu o fynd o A i B.

Paul a Rebecca Whitewick, crewyr cynnwys fideo – Aberystwyth i Gaerfyrddin

Rydyn ni’n treulio cryn dipyn o’n hamser yn cerdded o amgylch y DU yn ymweld â hen reilffyrdd a chamlesi. Os edrychwch chi ar unrhyw hen fap, fe welwch fod cryn dipyn o reilffyrdd segur yng Nghymru.

Rydyn ni’n credu’n gryf bod moderneiddio llawer o’r hen seilwaith hwn er mwyn galluogi i’r gymuned ei ddefnyddio yn cael effaith enfawr, nid yn unig ar y ffordd y mae pobl yn defnyddio’u hamgylchedd lleol, ond mae hefyd yn gallu dod yn ased hirdymor i’r ardal. Mae’r rheilffyrdd hyn, a gafodd eu creu gan ein hynafiaid, yn rhan o’n tirwedd ac yn gallu helpu cymunedau i ailgysylltu heddiw mewn ffordd werdd, gan greu mannau agored, llwybrau cerdded a llwybrau beicio.  

Un o’n hoff lwybrau hyd yma yw’r rheilffordd rhwng Manceinion ac Aberdaugleddau. Er ei henw a’i dyhead gwreiddiol, roedd y rheilffordd yn cysylltu Caerfyrddin ag Aberystwyth. Mae modd olrhain llawer o’r llwybr heddiw gan ddefnyddio llwybr 81 ac 82 y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol.

Dechreuodd ein taith yn y pen gogleddol ger Llanilar, lle mae cyfle gwych i feicio rhwng yr hen blatfformau. Mae’r daith yn parhau i’r de-ddwyrain tuag at Ystrad Fflur. Yma, roedd y rheilffordd i fod i fynd tua’r gogledd i gysylltu â Rheilffordd Canolbarth Cymru yn Llangurig, gan gysylltu Caerfyrddin, Llanbedr Pont Steffan a Llanidloes. Yn ôl y sôn, dechreuwyd adeiladu twnnel rhwng Llanidloes ac Ystrad Fflur, ac mae wedi’i farcio ar hen fapiau gyda’r geiriau “Chwarel” ar y naill ben. Mae hyn yn ddirgelwch i ni ei ddatrys rhyw ddiwrnod arall.

Wrth droi i’r de-orllewin yn Ystrad Fflur, rydych yn ymuno â llwybr 82 y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol. Mae’r rheilffordd yn mynd ar hyd y dyffryn ac Afon Teifi am gryn filltiroedd cyn i chi gyrraedd rhai o’r hen orsafoedd ym mhen deheuol y rheilffordd. 

Gallwch ddilyn anturiaethau Paul a Rebecca ar eu sianel YouTube yma. Cadwch olwg am fideos newydd am hen reilffyrdd Cymru sydd i ddod yn fuan iawn…

Glyn Evans, Ymgynghorydd Teithio Llesol TrC – Prestatyn i Ddyserth

Mae’r llwybr rhwng Prestatyn a Dyserth yn drysor cudd sy’n rhedeg drwy ganol Prestatyn ac mae’n dringo’n raddol i’r de drwy Gallt Melyd ac ymlaen i Ddyserth. Mae’r llwybr cyfan yn cael ei reoli fel gwarchodfa natur llinellog ac mae’n cysylltu nifer o safleoedd bywyd gwyllt lleol eraill yng nghornel Gogledd Ddwyrain Cymru.

Mae’r llwybr hwn sy’n 2 filltir a hanner yn dilyn hen reilffordd a gafodd ei hadeiladu i ddechrau i wasanaethu’r mwyngloddiau a’r chwareli yn y bryniau cyfagos, gan fod plwm, sinc, arian a chalchfaen yn cael eu cloddio o’r ardal am ganrifoedd. Am gyfnod byr, pan oedd y rheilffordd yn brysur, roedd hefyd yn cludo teithwyr, gydag un ar bymtheg o drenau teithwyr yn ei defnyddio. Daeth hyn i ben yn 1930 oherwydd cystadleuaeth gan wasanaethau bysiau, ac ar ôl cael ei defnyddio am 104 o flynyddoedd, fe adawodd y trên cludo nwyddau olaf Chwarel Dyserth yn 1973 ac fe gafodd y rheilffordd ei chau.

Ewch tua’r de o orsaf rheilffordd Prestatyn a chroesi’r brif ffordd ger yr orsaf bysiau, a chyn bo hir fe fyddwch chi ar yr hen reilffordd wrth i chi fynd heibio rhai o ardaloedd preswyl y dref. Mae’r llwybr yn addas ar gyfer pramiau a chadeiriau olwyn ac mae’n lle delfrydol i fynd â’ch ci am dro. Yna, mae’r llwybr yn mynd heibio’r cwrs golff ac os edrychwch i’r dde, fe welwch Ddyffryn Clwyd, arfordir Gogledd Cymru a mynyddoedd Eryri yn y cefndir.

Yng Ngallt Melyd, mae’r llwybr yn mynd heibio Y Shed, sef hen sied nwyddau ar y rheilffordd sydd bellach yn ganolfan gymunedol gyda chaffi, ac mae’n esgus gwych i stopio am goffi a chacen!

Dilynwch y llwybr i’r pen i gael y golygfeydd gorau, ac yna gallwch ailymuno â’r ffordd i fynd i mewn i bentref bach tlws Dyserth. Gallwch fynd yn ôl i Brestatyn ar hyd yr un llwybr, neu gallwch ddilyn llwybr cylchol ar hyd Ffordd Rhaeadr sy’n mynd heibio Rhaeadr Dyserth a siop hufen iâ wych! Dilynwch yr A547 am ychydig ac yna ewch yn ôl at y rheilffordd drwy Allt y Graig ac yn ôl i lawr at y môr.

Dyserth crane
Diserth (Cerddwyr Rheilffyrdd ‘Railway Ramblers’)

Cerddwyr Rheilffyrdd ‘Railway Ramblers’ – Blaenafon i Bont-y-pŵl

Roedd y llwybr hwn yn arfer bod yn rhan o’r rheilffordd unionyrchol o Frynmawr i Gasnewydd. Agorwyd Tramffordd Gul Blaenafon, a oedd yn mesur 3’ 4”, yn 1795. Roedd yn mynd o’r gamlas ym Mhontnewynydd i Waith Haearn Blaenafon gyda chysylltiadau i waith haearn a phyllau glo yn Abersychan, y Farteg a Chwm Ffrwd hefyd. Yn 1854, agorodd Cwmni Rheilffordd a Chamlesi Sir Fynwy gysylltiad safonol yn bennaf er mwyn cludo nwyddau.

Fel rhan o lwybr 46 y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol, rydych yn dilyn y rheilffordd trac dwbl o Safle Treftadaeth y Byd ym Mlaenafon 650 troedfedd i lawr at Bont-y-pŵl, gan ddechrau ochr yn ochr â Rheilffordd Treftadaeth Pont-y-pŵl a Blaenafon. Ble mae trac y llinell fwyn i Byllau Glo Bryn y Farteg yn dringo i’r dde, trowch i’r chwith a gallwch weld olion llinellau cyfagos a chysylltiadau ar hyd y llwybr gyda rhywfaint o seilwaith trawiadol.

Mae’n hawdd dod o hyd i safle’r orsaf yn y Farteg, er nad oes unrhyw adeiladau ar ôl. Fodd bynnag, yn Abersychan a Thalywain, mae’r orsaf deithwyr a’r sied nwyddau wedi goroesi. Ym Mhentrepiod, mae troad enfawr yn y rheilffordd gyda thraphontydd anhygoel yn croesi hen ganghennau mwynau Cwmnantddu a Chwmffrwdoer.

Wrth fynd i lawr am Bont-y-pŵl, mae’r hen reilffordd wedi’i golli wrth ddatblygu ffyrdd, ond gallwch barhau ar hyd y llwybr beiciau sy’n rhedeg ochr yn ochr â chylchfan ger gorsaf Crane Street Pont-y-pŵl. O fan hyn, gallwch fynd i gyfeiriad y safle bysiau yng nghanol y dref i barhau i deithio.

Mae Railway Ramblers yn glwb cenedlaethol sy’n trefnu teithiau cerdded ac yn annog diddordeb mewn rheilffyrdd segur ledled y DU. Mae croeso i unrhyw un sy’n mwynhau cerdded ar hyd llwybrau mewn grŵp cyfeillgar gydag arweinwyr teithiau gwybodus ymuno – mae rhagor o wybodaeth ar gael yma.

Abersychan goods shed

Abersychan (Cerddwyr Rheilffyrdd ‘Railway Ramblers’)

Louis Mertens, Swyddog Ymgysylltu â’r Gymuned TrC – Bermo i Ddolgellau

Nid yw’n anodd dychmygu mai’r rheilffordd rhwng Bermo a Dolgellau oedd un o’r rhai mwyaf prydferth yng Nghymru ar un adeg. Mae’r llwybr sy’n croesi’r draphont bren hiraf yng Nghymru ac yn dilyn aber Afon Mawddach i’r dwyrain i dref hudolus Dolgellau yn berffaith ar gyfer mynd am dro neu feicio oddi wrth brysurdeb lan y môr Bermo.

Mae’r llwybr yn wastad ar y cyfan – yn sicr ni fyddech yn sylwi ar raddiant y llwybr. Er bod y daith yn 9.4 milltir o Fermo i Ddolgellau, gallwch feicio yno ac yn ôl mewn llai na 2 awr a hanner. Graean yw’r rhan fwyaf o’r llwybr, ond mae rhai rhannau’n gallu bod yn fwdlyd mewn tywydd gwael. Gall y rheini sy’n dymuno gwneud diwrnod ohoni gael seibiant yng Ngwesty George III, cyn-gyflenwr llongau yn dyddio o 1650, sydd wedi’i leoli ar lannau’r aber tua thri chwarter y ffordd i mewn i bentref Llynpenmaen.

Wrth i chi adael y Bermo a mynd heibio Garej Birmingham ar y chwith, dilynwch y llwybr cul i fyny’r ffordd nes byddwch yn gweld arwydd glas ar gyfer Pont y Bermo yn pwyntio i’r dde. Does dim croesfan yma ac mae’r palmant ar un ochr o’r ffordd yn unig, felly croeswch yn ofalus. Mae’r llwybr yn arwain at lethr eithaf serth, sy’n mynd i lawr at Draphont y Bermo. Os byddwch yn amseru dechrau eich taith yn ofalus, efallai y byddwch chi’n rhannu’r bont ag un o’n trenau sy’n teithio i Bwllheli neu Fachynlleth.

Dilynwch y draphont ar draws yr aber. Os byddwch yn dewis beicio, cofiwch fod y llwybr ar gyfer cerddwyr hefyd, ac mae’r byrddau pren ar y bont yn eithaf simsan. Mae’r golygfeydd o ganol y bont yn wych. Pan fyddwch yn cyrraedd pen y draphont, dylech ddilyn y rheilffordd am tua milltir nes bydd y llwybr yn mynd â chi i gyfeiriad arwydd glas sy’n dweud Llwybr Mawddach. Dylech barhau i ddilyn y llwybr drwy ran goediog nes byddwch yn cyrraedd croesfan ffordd, gyda giât ar y ddwy ochr ac arwyddion ar gyfer y llwybr. Ewch yn syth yn eich blaen.

Erbyn y pwynt yma, mae’n anodd colli’r llwybr, cyn belled â’ch bod yn dal i ddilyn y llwybr, a fydd yn dilyn yr aber yn agos am ychydig dros 2 filltir. Bydd y llwybr yn dechrau mynd â chi ymhellach oddi wrth y dŵr a thrwy’r tir gwastad – ond mae’r olygfa’n dal i fod yn syfrdanol. Wrth fynd heibio Gwesty George III ar y dde, ewch heibio'r bont ar y chwith (peidiwch â’i chroesi), ewch yn eich blaen drwy'r maes parcio lle mae arwyddion yn dangos bod y llwybr yn parhau. Er mai cyflenwr llongau a thafarn oedd Gwesty George III yn wreiddiol (tua 1650), oedd rhandy'r gwesty yn arfer bod yn dŷ ar gyfer meistr yr orsaf, yn swyddfa docynnau ac yn ystafell aros ar gyfer gorsaf Llynpenmaen.

Dilynwch y llwybr hwn am ychydig dros filltir nes ei fod yn ymuno â ffordd. Byddwch yn sylwi ar gylchfan ar y chwith. Mae’r ffordd hon yn gallu bod yn brysur ac mae ceir yn gyrru’n gyflym arni felly byddwch yn ofalus. Does dim angen i chi ymuno â’r ffordd gan fod y palmant ar y dde wrth i chi gyrraedd y gyffordd yn cael ei rannu â beicwyr. Mae arwyddion ar gyfer y llwybr ar ddwy ochr y ffordd. Croeswch y ffordd ar y pwynt dynodedig a dilyn yr arwyddion glas am Fawddach. Mae’r llwybr nawr yn dilyn Afon Wnion, un o is-afonydd Afon Mawddach y gwnaethoch ddechrau arni. Cyn bo hir, byddwch yn cyrraedd tro yn y llwybr, ewch i’r dde, croesi’r bont dros Afon Wnion a dilyn y llwybr heibio’r cae rygbi ac i mewn i Ddolgellau.

Barmouth Bridge
Bont y Bermo

James Bennett, Swyddog Cyfathrebu TrC – Ffynnon Taf i Gaerffili a Phontypridd

Mae Llwybr Taf yn adnabyddus ledled De Cymru fel un o’n llwybrau teithio llesol gorau, gan gysylltu Caerdydd â’r cymoedd drwy ddilyn Afon Taf. Ond oeddech chi’n gwybod bod y rhan fwyaf o’r llwybr yn hen reilffordd?

Wrth i chi adael gorsaf Ffynnon Taf, trowch i’r chwith heibio depo newydd Metro De Cymru a byddwch yn cyrraedd llwybr gwreiddiol Rheilffordd Rhymni, sy’n cael ei adnabod yn lleol fel “Big Hill”. Mae’r allt hon – a oedd yn serth ar gyfer trenau ond sy’n gymharol wastad ar gyfer cerddwyr a beicwyr – yn croesi’r A470 ac yn mynd dros Ddyffryn Taf, lle mae golygfeydd trawiadol i fyny’r dyffryn. Yn y pen draw, mae Trychfa Penrhos, sef ceunant dwfn a gafodd ei gloddio gan y nafis yn ystod y cyfnod o ffrwydro adeiladwaith rheilffyrdd yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae’r Trychfa’n ganolbwynt ar gyfer nifer o reilffyrdd yr ardal, a oedd i gyd yn cysylltu yma yng Nghyffordd Penrhos.

Daliwch ati i gerdded ac yn y pen draw fe fyddwch chi’n cyrraedd nifer o bileri brics ar gyrion Caerffili. Ar un adeg, roedd y pileri’n ffurfio pont trosffordd er mwyn i Reilffordd y Barri – rheilffordd a gafodd ei hadeiladu i gysylltu'r pyllau glo â Dociau'r Barri – fynd dros Reilffordd Rhymni. Daeth yn un o dirnodau enwocaf rhwydwaith rheilffyrdd y cymoedd yn Ne Cymru, hyd yn oed ar ôl i’r bont gael ei thynnu i lawr wedi i’r rheilffordd gael ei chau yn 1926. O fan hyn, mae’n daith fer i ganol Caerffili, lle gallwch ymweld â’r castell byd-enwog.

Mae Llwybr Taf ei hun yn dechrau ar y llwybr hwn yn Nantgarw, yn croesi’r brif ffordd rhwng Ffynnon Taf a Chaerffili, ac yn mynd i gyfeiriad Pontypridd. Mae’r llwybr hwn yn hen gyswllt rheilffordd arall, sef Rheilffordd Pontypridd, Caerffili a Chasnewydd a gafodd ei hadeiladu i gysylltu’r cymoedd â Doc Alexandra yng Nghasnewydd. Doedd y rheilffordd ddim yn hygyrch iawn i deithwyr. Cafodd y gorsafoedd ar hyd y rheilffordd eu hadeiladu heb blatfformau, gyda’r teithwyr yn gorfod dringo ar y trenau o lefel y ddaear!

Ar hyd fan hyn, rydych chi’n teithio ymhell oddi wrth unrhyw beth arall ar ymyl bryn uwch ben Glan-bad nes cyrraedd Rhydyfelin, lle mae’r rheilffordd yn droellog yr holl ffordd i Bontypridd. Mae’r A470 wedi’i hadeiladu dros ran olaf y rheilffordd, felly gallwch ond cerdded ar hyd y rheilffordd cyn belled â Glyn-taf, ond mae Llwybr Taf yn parhau i mewn i Barc poblogaidd Ynysangharad yng nghanol tref Pontypridd, cartref Lido Genedlaethol Cymru – ychydig o amser i roi traed yn y dŵr cyn mynd yn ôl i lawr y dyffryn?

Image 3 Penrhos Jc
Cyffordd Penrhos (James Bennett)