English icon English
EM - MHSS-2

Parhau i olrhain cysylltiadau yng Nghymru hyd fis Mawrth 2022

Contact tracing in Wales extended until March 2022

Bydd gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu llwyddiannus Cymru, sydd wedi helpu i leihau lledaeniad coronafeirws yn parhau tan y flwyddyn nesaf, diolch i gyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru.

Bydd £32m ychwanegol yn cael ei fuddsoddi i ymestyn y gwasanaeth olrhain cysylltiadau hyd fis Mawrth 2022.

Mae’r ffigurau diweddaraf yn dangos, bron i flwyddyn ar ôl lansio’r gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu yng Nghymru, bod swyddogion olrhain cysylltiadau wedi cyrraedd 99.7% o’r achosion positif a oedd yn gymwys am gyswllt dilynol.

Gwnaethant gysylltu’n llwyddiannus â bron i 95% o’r cysylltiadau agos a oedd yn gymwys am gyswllt dilynol, gan roi cyngor iddynt, neu helpu i ddatrys eu hachosion.

Ac mae awdurdodau lleol hefyd wedi cymeradwyo mwy na 12,500 o daliadau cymorth hunanynysu i helpu pobl i aros gartref a lleihau’r risg y bydd coronafeirws yn lledaenu yn eu cymunedau lleol.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Eluned Morgan:

“Mae Profi, Olrhain, Diogelu wedi bod yn eithriadol o effeithiol o ran cefnogi pobl sydd wedi cael prawf positif a’u cysylltiadau wrth iddynt hunanynysu – a rhoi cyngor, arweiniad a chefnogaeth iddynt. Mae hyn yn hanfodol i atal y feirws rhag lledaenu yn ein cymunedau.

“Mae blwyddyn wedi pasio ers inni sefydlu Profi, Olrhain, Diogelu fel gwasanaeth newydd sbon – ar raddfa a chyflymder a ddisgrifiodd Archwilydd Cyffredinol Cymru fel ‘eithriadol’. Mae llawer iawn o waith caled wedi digwydd ar draws GIG Cymru, awdurdodau lleol, y sector gwirfoddol a sefydliadau partner er mwyn creu rhaglen effeithiol tu hwnt i’n galluogi ni i ddiogelu Cymru. Gall pawb sydd wedi bod yn rhan o’r gwasanaeth fod yn hynod o falch o’u hymdrechion.

“Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi bod yn rhan o’r gwaith hwn, gan gynnwys Iechyd Cyhoeddus Cymru ac Iechyd a Gofal Digidol Cymru. Yn arbennig, hoffwn ddiolch i swyddogion olrhain cysylltiadau a’r bobl sy’n darparu gwasanaethau Diogelu sydd wedi rhoi cefnogaeth mawr ei angen i bobl ar adeg anodd iawn yn eu bywydau.

“Maent wedi gwneud llawer iawn mwy nag y mae teitl eu swydd yn ei awgrymu – maent wedi adnabod pobl agored i niwed ac wedi sicrhau cefnogaeth ychwanegol ar eu cyfer, boed hynny yn rhywun i sgwrsio â nhw, pecyn bwyd, neu gyswllt â gwasanaethau iechyd meddwl hanfodol.

“Wrth inni geisio atal lledaeniad amrywiolynnau newydd sy’n peri pryder, mae swyddogion olrhain cysylltiadau profiadol yn allweddol i wneud hyn yn effeithiol ac rydym yn parhau i fuddsoddi yn y gwaith hwn.”

Mae ymchwil wedi awgrymu, pan oedd trosglwyddiad coronafeirws yn uchel cyn y cyfnod atal byr yn y gaeaf, bod ymdrechion Profi, Olrhain, Diogelu wedi lleihau cyfradd trosglwyddo R o oddeutu 1.7 i 1.3. Gan ddefnyddio’r rhif R diweddaraf a gwelliannau i waith monitro, gall yr effaith fod yn lleihad o oddeutu 1.3 i 0.8.

Mae swyddogion olrhain cysylltiadau a chynghorwyr sy’n gweithio i’r gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu yn awr yn gwneud gwaith olrhain cysylltiadau manylach i fynd i’r afael â’r amrywiolynnau sy’n peri pryder.

Maent hefyd yn:

  • Rheoli a rhoi sicrwydd i bron i 18,000 o deithwyr o wledydd ar y rhestr oren sy’n gorfod hunanynysu a chymryd profion;
  • Cymryd galwadau gan y cyhoedd am y rhaglen frechu, trefnu apwyntiadau a chysylltu ag unigolion sydd ddim yn dod i’w hapwyntiadau;
  • Gweithredu fel canolfan gyswllt ar gyfer Gwasanaeth Tystysgrifau Brechu Cymru;
  • Cysylltu â busnesau mawr a chyflogwyr lleol i’w hannog i dderbyn cynnig Llywodraeth Cymru o brofion llif unffordd (LFT) ar gyfer unigolion asymptomatig;
  • Cysylltu â busnesau lleol, gan gynnwys eiddo trwyddedig, lletygarwch a chartrefi gofal i sicrhau bod ganddynt y manylion cyswllt cywir ar eu cyfer a chanfod a oes arnynt angen unrhyw gymorth yn ymwneud â mesurau COVID-19, gofynion rheoleiddio a materion iechyd y cyhoedd eraill;
  • Cefnogi safleoedd profi cymunedol.

Nodiadau i olygyddion

To interview the Minister, or contact tracing staff, contact Rachel Bowyer on Friday 28 May on marieconcannon.rachelbowyer@gov.wales or Matthew Pritchard on Tuesday 1 June on matthew.pritchard@gov.wales