English icon English
GCRE-2

O’r glo gorau i brofion technolegol o safon uchel ar gyfer rheilffyrdd: "Canolfan fyd-eang newydd ar y trywydd iawn i drawsnewid cymoedd y gorllewin" – Vaughan Gething

From world-class coal to world-class rail tech testing: “New global centre on track to transform western valleys” – Vaughan Gething

Bydd cyfleuster profi rheilffyrdd newydd o safon uchel ar hen safle cloddio glo brig ym mhen cymoedd Dulais ac Abertawe yn trawsnewid yr ardal drwy greu swyddi newydd o ansawdd uchel, dywedodd Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi, heddiw.

Bydd y Ganolfan Ragoriaeth Rheilffyrdd Fyd-eang - canolfan profi trenau, seilwaith a thechnoleg rheilffyrdd - yn cael ei lleoli ar safle glo brig Nant Helen yn Onllwyn, sy'n cael ei redeg ar hyn o bryd gan Celtic Energy.

Bydd y ganolfan yn darparu gallu unigryw yn y DU ac Ewrop. Bydd yn arloesi yn niwydiant rheilffyrdd y DU ac yn rhyngwladol drwy brofi technolegau gwyrdd arloesol, a fydd yn sbardun ar gyfer arloesi carlam yn y diwydiant rheilffyrdd.

Mae Llywodraeth Cymru wedi datblygu'r syniad ar gyfer y ganolfan o'r cychwyn cyntaf ac wedi cysylltu ag arbenigwyr o bob rhan o'r diwydiant rheilffyrdd yn fyd-eang i ddod i'r pwynt hwn.  Mewn arwydd pellach o hyder Llywodraeth Cymru yn y prosiect mae'n buddsoddi £50 miliwn i gefnogi'r gwaith o ddarparu'r cyfleuster newydd.

Wrth siarad yn ystod ymweliad ag Onllwyn, dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething:

"Roedd yn wych ymweld â safle arfaethedig y Ganolfan Ragoriaeth Rheilffyrdd Fyd-eang newydd yma yn Onllwyn heddiw. Y diwydiant glo yw’r rheswm pam bod gennym gymunedau yma yng nghymoedd y de. Sefydlodd glowyr a'u teuluoedd yma o bob cwr o Gymru a gweddill y DU i weithio yn ein pyllau glo. Ystyriwyd mai'r glo a dynnwyd yma oedd y gorau, a helpodd i bweru'r chwyldro diwydiannol, ac yn ei dro helpu i adeiladu'r byd modern yr ydym yn byw ynddo heddiw.

"Gyda dyfodiad y Ganolfan Ragoriaeth Rheilffyrdd Fyd-eang newydd arfaethedig yn ystod y blynyddoedd nesaf, bydd ein cymunedau yn y cymoedd unwaith eto wrth wraidd diwydiant byd-eang newydd o’r safon uchaf. Bydd hyn yn helpu i greu'r genhedlaeth nesaf o swyddi o ansawdd uchel, gan ddenu buddsoddiad a chyfleoedd newydd i bobl leol, sbarduno technolegau newydd ac arloesi a'n helpu i wireddu ein huchelgais o Gymru wyrddach, lanach a chryfach.

"Mae ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddatblygu'r cyfleuster hwn yn glir. Rydym wedi sicrhau bod £50 miliwn ar gael i ddod â'r cyfleuster pwysig hwn i gymoedd Dulais ac Abertawe, fel rhan o gynlluniau ehangach i drawsnewid cymunedau ein cymoedd.

"Bydd y cyfleuster yn wirioneddol unigryw yn Ewrop. Bydd yn rhoi Cymru ar y map fel y wlad ar gyfer gweithgynhyrchwyr trenau yn y DU ac yn rhyngwladol, gweithredwyr rhwydweithiau, y diwydiant ehangach, y gadwyn gyflenwi a'r byd academaidd, i ymchwilio, profi a datblygu technolegau newydd arloesol sy'n sail i ddatgarboneiddio a datblygu y diwydiant rheilffyrdd byd-eang. Bydd hefyd yn brosiect fydd yn denu cyfleoedd newydd pellach – gan ddod â mwy o swyddi o safon a buddsoddiad i'n cymunedau.

Rydym yn croesawu'r diddordeb diweddar gan Lywodraeth y DU yn y prosiect Gwnaed yng Nghymru hwn, ac rydym wrth ein bodd eu bod bellach wedi gweld ei botensial."

Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot a Chyngor Sir Powys i ddatblygu cynigion ar gyfer y Ganolfafn. Sefydlwyd menter ar y cyd yn 2019 rhwng Llywodraeth Cymru a chynghorau Powys a Chastell-nedd Port Talbot i gefnogi'r gwaith o ddatblygu a chyflawni prosiectau. Mae'r cynigion yn deillio o gydweithio â phartneriaid ac chysylltu ac ymgynghori helaeth â rhanddeiliaid a chymunedau lleol.

Mae cytundeb opsiwn tir wedi'i gwblhau ar gyfer y safleoedd yn safle glo brig Nant Helen a golchfa lo Onllwyn, a fydd yn gweld Celtic Energy yn rhoi'r holl dir angenrheidiol ar gyfer y prosiect.

Mae cais cynllunio ffurfiol wedi'i gyflwyno, ac mae'n cael ei ystyried gan gynghorwyr lleol ar hyn o bryd.

Er mwyn bwrw ymlaen â'r prosiect, bydd cwmni newydd yn cael ei sefydlu wrth i'r prosiect drosglwyddo o fod dan arweiniad y Llywodraeth, gyda chefnogaeth diwydiant i fod yn brosiect o dan arweiniad y diwydiant, gyda chefnogaeth y llywodraeth. Celtic Energy yw'r partner masnachol cyntaf yn y prosiect.