- Cwcis sydd wir eu hangen
Cwcis sydd wir eu hangen
Mae rhai o’n cwcis yn hanfodol ac ni fydd rhannau o’r safle’n gweithio hebddynt. Mae hyn yn cynnwys cofnodi eich dewisiadau cadw cwcis.
28 Mai 2021
Mae teithwyr sy’n defnyddio rhwydwaith Cymru a’r Gororau dros benwythnos gŵyl y banc yn cael eu hannog i gynllunio ymlaen llaw.
Gyda rhagolygon o dywydd da ar draws y DU, mae disgwyl i’r rhwydwaith rheilffyrdd fod yn brysur wrth i bobl fynd i gyrchfannau twristaidd fel Ynys y Barri, Dinbych-y-pysgod ac arfordir Gogledd Cymru.
Mae yna nifer o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal hefyd sy’n agored i’r cyhoedd, gan gynnwys rasio ceffylau ar Gae Rasio Caer.
Dywedodd Leyton Powell, Cyfarwyddwr Diogelwch a Chynaliadwyedd TrC: “Gyda rhagolygon o dywydd braf ar gyfer penwythnos gŵyl y banc, rydyn ni’n rhagweld y bydd gwasanaethau’n brysur ar draws rhwydwaith Cymru a’r Gororau.
“Pan fo’n bosibl, rydyn ni’n darparu gwasanaethau ychwanegol i gyrchfannau poblogaidd fel Ynys y Barri, ond bydd capasiti wedi’i gyfyngu i gefnogi’r gwaith o gadw pellter cymdeithasol a bydd systemau ciwio ar waith mewn rhai gorsafoedd.
“Ein cyngor i bawb yw gwirio eich cynlluniau teithio cyn mynd, defnyddiwch ein hadnodd Gwiriwr Capasiti i weld pa wasanaethau sy’n debygol o fod yn brysur, prynwch docyn ymlaen llaw a dilynwch ein canllawiau Teithio’n Saffach. Mae’n rhaid gwisgo gorchudd wyneb ar drafnidiaeth gyhoeddus, oni bai eich bod wedi cael eich eithrio.
“Ni oddefir ymddygiad gwrthgymdeithasol, a bydd ein staff diogelwch a Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig yn patrolio ein rhwydwaith. I roi gwybod am ddigwyddiad i'r HTP, anfonwch neges destun i 61016.”
Mae’r gwaith gwella sydd ar y gweill dros benwythnos gŵyl y banc yn golygu na fydd trenau yn y naill gyfeiriad na’r llall rhwng Radur a Phontypridd yn Ne Cymru o ddydd Gwener i ddydd Llun, gyda bysiau yn rhedeg yn lle’r trenau.
Yng Ngogledd Cymru, does dim trenau chwaith rhwng Caer a Manceinion Piccadilly a Pharcffordd De Lerpwl rhwng hanner dydd ddydd Sadwrn a hanner dydd ddydd Llun. Bydd bysiau yn lle trenau.