English icon English

Ymateb Llywodraeth Cymru i’r data diweddaraf ar berfformiad y GIG

Welsh Government response to the latest NHS performance data

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Mae pandemig COVID-19 wedi cael effaith sylweddol ar ein system iechyd a gofal cymdeithasol. Mae oedi gofal nad yw’n ofal brys a’r angen i gyflwyno mesurau rheoli ac atal heintiau wedi arwain at restrau aros mwy nag erioed am driniaeth. Mae’r gwasanaeth yn wynebu her enfawr wrth iddo adfer.

Rydym bellach yn dechrau gweld y galw gan gleifion yn dychwelyd i’r lefelau fel yr oeddent cyn y pandemig, neu’n pasio’r lefelau hynny hyd yn oed ar gyfer Gwasanaeth Ambiwlans Cymru a staff adrannau brys, ar adeg pan fo gofynion o ran gwisgo Cyfarpar Diogelu Personol (PPE) a gofynion rheoli heintiau yn dal i fod yn eu lle. Mae Byrddau Iechyd yn gweithio i roi ffyrdd newydd o weithio yn eu lle i sicrhau bod modd gweld cleifion mor ddiogel ac mor gyflym â phosibl. Rydym hefyd wedi sicrhau bod £25m ar gael i drawsnewid gofal brys a gofal mewn argyfwng.

Fis diwethaf, amlinellodd y Gweinidog Iechyd gynlluniau i helpu’r gwasanaeth i adfer, gyda chymorth cychwynnol o £100m. Fel y dywedodd y Gweinidog, bydd y broses hon yn para tymor y Senedd hon o leiaf, a bydd angen bod yn arloesol wrth ddarparu gofal. Byddwn yn parhau i weithio’n agos gyda byrddau iechyd a darparwyr gofal cymdeithasol i ddatblygu’r gwaith hwn.”