English icon English

Cyfarfod Trelái | Datganiad y Prif Weinidog

Ely Meeting | Statement from the First Minister

Dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford:

“Wythnos yma, mae dau deulu yn galaru am eu meibion ​​ac mae pobol Trelái wedi profi trawma ar y cyd.

“Mae fy nghydymdeimlad gyda theuluoedd a ffrindiau Harvey a Kyrees.

“Heddiw, cyfarfu cynrychiolwyr o'r gymuned leol ac asiantaethau cyhoeddus yn Nhrelái, gan gynnwys Gweithredu yng Nghaerau a Threlái, Llywodraeth Cymru a Chyngor Caerdydd.

“Rydym wedi cytuno i noddi menter ar y cyd ar lawr gwlad i greu cynllun cymunedol ar gyfer Trelái, er mwyn ymateb i anghenion hirdymor y preswylwyr. Bydd yn canolbwyntio ar gamau gweithredu a chanlyniadau i bobl Drelái.”