English icon English

Darpariaeth bwyd am ddim yn ystod gwyliau i ddysgwyr cymwys yn ystod hanner tymor mis Mai

Free holiday food provision for eligible learners this may half term

Bydd darpariaeth prydau am ddim yn ystod gwyliau’r ysgol ar gael i blant o deuluoedd incwm isel yn ystod gwyliau haner tymor mis Mai.

Cadarnhaodd Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg hefyd bod myfyrwyr Addysg Bellach cymwys mewn colegau a chweched dosbarthiadau yn cael elwa ar y ddarpariaeth prydau ysgol am ddim yn ystod gwyliau mis Mai, ac mae disgwyl y bydd hynny yn help i tua 4000 o ddysgwyr.

Mae tua 115,000 o ddysgwyr yn gymwys i elwa ar y ddarpariaeth hon. Mae’n cael ei ariannu ar gyfer plant cymwys o oedran ysgol drwy’r Cytundeb Cydweithio rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru.

Yn 2020, Cymru oedd y wlad gyntaf yn y Deyrnas Unedig i sicrhau bod teuluoedd cymwys yn cael prydau ysgol am ddim yn ystod gwyliau ysgol. Bydd awdurdodau lleol unigol yn penderfynu sut i weinyddu'r ddarpariaeth prydau ysgol am ddim, naill ai drwy greu cinio neu drwy ddarparu talebau neu daliadau uniongyrchol i deuluoedd cymwys. Bydd system debyg yn ei lle i fyfyrwyr Addysg Bellach cymwys.

Dywedodd Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg: “Mae’n bwysig bod plant a phobl ifanc yn gallu mwynhau gwyliau’r ysgol a’n bod yn helpu i gymryd y baich oddi ar deuluoedd sy’n ei chael hi’n anodd oherwydd yr argyfwng costau byw.

"Rwy'n falch ein bod ni wedi gallu ymestyn y gefnogaeth hon ymhellach i ddysgwyr mewn ysgolion a cholegau. Rwy’ am annog teuluoedd i edrych i weld os oes modd iddyn nhw wneud cais am y cymorth hwn trwy eu Hawdurdod Lleol."

Dywedodd Aelod Dynodedig Plaid Cymru,Siân Gwenllian: "Bydd caniatáu i ddisgyblion ysgol cymwys gael prydau ysgol am ddim yn ystod hanner tymor mis Mai yn help mawr i lawer wrth i'r argyfwng costau byw barhau i frathu. Rwy'n falch ein bod, drwy weithio gyda'n gilydd, wedi sicrhau bod gan ddysgwyr gefnogaeth pan fydd drysau'r ysgol yn cau ar gyfer gwyliau mis Mai."