- Cwcis sydd wir eu hangen
Cwcis sydd wir eu hangen
Mae rhai o’n cwcis yn hanfodol ac ni fydd rhannau o’r safle’n gweithio hebddynt. Mae hyn yn cynnwys cofnodi eich dewisiadau cadw cwcis.
30 Mai 2023
Mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) yn atgoffa teithwyr ei bod hi'n bwysig gwirio am yr wybodaeth deithio ddiweddaraf yn sgil gweithredu diwydiannol yr wythnos hon.
Mae'r undeb gyrwyr trenau ASLEF wedi cyhoeddi y bydd 16 o Gwmnïau Gweithredu Trenau (Train Operating Companies [TOC]) ar streic ddydd Mercher 31 Mai a dydd Sadwrn 3 Mehefin, a bydd 14 o'r cwmnïau sy'n perthyn i Undeb Cenedlaethol y Gweithwyr Rheilffyrdd, Morwrol a Thrafnidiaeth (RMT) ar streic ddydd Gwener 2 Mehefin.
Dyw TrC ddim y rhan o’r gweithredu diwydiannol ond mae rhai o'i wasanaethau'n debygol o fod yn hynod o brysur o ganlyniad i'r amserlen a roddwyd ar waith gan weithredwyr eraill.
Dydd Mercher 31 Mai
Bydd gwasanaethau Trafnidiaeth Cymru yn rhedeg, ond bydd y llwybrau canlynol yn brysurach nag arfer:
- Caerfyrddin - Abertawe - Pen-y-bont ar Ogwr - Canol Caerdydd - Casnewydd - Cyffordd Twnnel Hafren
- Caerloyw - Cheltenham
- Gogledd Cymru - Caer - Crewe – Manceinion
- Hefyd, dim ond yn Stockport a Wilmslow bydd yr holl wasanaethau yn gosod i lawr/ codi teithwyr.
- Bydd gwasanaethau olaf fydd yn gadael Manceinion Piccadilly yn cael eu canslo oherwydd pryderon gorlenwi.
- Bydd gwasanaethau Western yn dod i ben/yn dechrau yn Wolverhampton oherwydd y cyhoeddwyd y bydd gwaith peirianneg munud olaf yn cael ei wneud.
Dydd Gwener 2 Mehefin
Bydd gwasanaethau Trafnidiaeth Cymru yn brysur oherwydd y bydd cwmnïau eraill gan gynnwys GWR, WRM, Avanti a Northern yn rhedeg eu gwasanaethau yn llai aml.
Yn gynnar yn y bore a chyda'r nos, bydd tarfu ar wasanaethau TrC sy'n rhedeg i mewn ac allan o Cheltenham, Caerloyw, Manceinion Piccadilly, Birmingham International a Lerpwl Lime Street cyn 07:00 ac ar ôl 19:00.
Dydd Sadwrn 3 Mehefin
Bydd gwasanaethau Trafnidiaeth Cymru yn rhedeg, ond bydd y llwybrau canlynol yn brysurach nag arfer:
- Caerfyrddin - Abertawe - Pen-y-bont ar Ogwr - Canol Caerdydd - Casnewydd - Cyffordd Twnnel Hafren
- Caerloyw - Cheltenham
- Hefyd, ni fydd gwasanaethau'n galw ym Manceinion drwy'r dydd ar gyngor BTP oherwydd pryderon gorlenwi.
- Bydd gwasanaethau'r Gororau yn dod i ben / yn dechrau yn Crewe
- Gwasanaethau Caer / Gogledd Cymru i ddod i ben/i ddechrau yng Nghei Banc Warrington
- Bydd gwasanaethau West Midlands yn dod i ben/yn dechrau yn yr Amwythig oherwydd bod gwaith peirianneg munud olaf wedi'i gyhoeddi.