English icon English

Rheolau treth newydd i helpu prynwyr tai

Homebuyers to benefit from new tax rules

Ni fydd pobl sy'n prynu cartrefi yng Nghymru am lai na £225,000 yn talu unrhyw dreth, o dan fesurau newydd sydd wedi’u cyhoeddi gan y Gweinidog Cyllid.

Mae'r trothwy ar gyfer talu Treth Trafodiadau Tir yn cael ei godi o £180,000 a bydd y newid yn dod i rym o 10 Hydref. Bydd cynnydd bychan hefyd yng nghyfradd y Dreth Trafodiadau Tir ar gyfer tai sy’n costio mwy na £345,000.

Bwriad y newid hwn yw sicrhau bod y trothwy ar gyfer talu treth yn adlewyrchu'r cynnydd ym mhrisiau tai dros y ddwy flynedd ddiwethaf.

Ni fydd pobl sy'n prynu tai sy’n costio llai na £225,000 yn talu unrhyw Dreth Trafodiadau Tir.

Bydd unrhyw un sy'n prynu tŷ sy'n costio llai na £345,000 yn gweld gostyngiad yn y dreth y maen nhw'n ei thalu, hyd at uchafswm o £1,575.

Bydd pobl sy'n prynu tai sy’n werth mwy na £345,000 yn gweld cynnydd o hyd at £550 – ond dim ond i tua 15% o drafodiadau eiddo yng Nghymru y mae hyn yn berthnasol.

Bydd pob elfen arall o'r Dreth Trafodiadau Tir yn aros yr un fath, sy'n golygu nad oes gostyngiadau treth i bobl sy'n prynu ail gartrefi yng Nghymru, yn wahanol i dreth dir y dreth stamp yn Lloegr.

Dywedodd Rebecca Evans, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol:

"Mae hwn yn newid sydd wedi ei deilwra i anghenion unigryw’r farchnad dai yng Nghymru ac mae'n cyfrannu at ein gweledigaeth ehangach o greu system drethi decach. Ni fydd 61% o brynwyr tai yn gorfod talu treth. Bydd y newidiadau hyn yn rhoi cymorth i’r bobl sydd ei angen, ac yn helpu ag effaith y cynnydd mewn cyfraddau llog.

"Rydym yn gwybod hefyd y bydd helpu pobl ar ben isaf y farchnad yn helpu’r rhai sy’n prynu am y tro cyntaf, yn enwedig. Rydym yn helpu pobl i brynu eu cartref cyntaf mewn nifer o ffyrdd gwahanol, gan gynnwys perchnogaeth ar y cyd a chynlluniau cymorth i brynu, ac rwy'n falch o allu ymestyn y gefnogaeth honno drwy'r newidiadau hyn i’r Dreth Trafodiadau Tir."

Mae'r newidiadau wedi’u cyflwyno yn sgil newidiadau i dreth tir y dreth stamp (sy’n cael ei thalu yn Lloegr a Gogledd Iwerddon) a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU yn y datganiad cyllidol yr wythnos ddiwethaf. Roedd Llywodraeth Cymru yn ystyried gwneud newidiadau yn ei Chyllideb yn ddiweddarach eleni, ond mae'n gwneud newidiadau nawr i roi eglurder i'r farchnad dai.