Skip to main content

‘Clash at the Castle’ travel advice

01 Medi 2022

Mae ffans reslo sy’n teithio i Gaerdydd ar gyfer y digwyddiad hanesyddol ‘Clash at the Castle’ yn Stadiwm Principality yn cael eu hannog i gynllunio eu teithiau’n ofalus.

Bydd degau o filoedd o gefnogwyr brwd yn ymweld â phrifddinas Cymru ddydd Sadwrn 3 Medi ar gyfer y digwyddiad reslo mawr cyntaf yn y DU ers 30 mlynedd.  

Mae disgwyl y bydd y rheilffyrdd a’r ffyrdd o amgylch Caerdydd yn brysur iawn, felly mae ymwelwyr yn cael eu hannog i ddilyn y cyngor teithio diweddaraf gan TrC, ei bartneriaid yn y diwydiant rheilffyrdd a Traffig Cymru i sicrhau bod eu taith yn mynd mor llyfn â phosibl.  

Dywedodd Jan Chaudhry-Van der Velde, Rheolwr Gyfarwyddwr Trafnidiaeth Cymru:

“Rydyn ni’n edrych ymlaen at groesawu degau o filoedd o gefnogwyr WWE i Gaerdydd a byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gael pobl i mewn ac allan o Gaerdydd mor effeithlon â phosibl.  

“Byddwn yn defnyddio’r holl gerbydau trên sydd ar gael, yn cryfhau gwasanaethau o amgylch Caerdydd a’r ardaloedd cyfagos, ac yn cefnogi ein gwasanaethau rheilffyrdd gyda thrafnidiaeth ychwanegol ar y ffordd, lle bydd angen.  

“Mae gennym gynllun manwl i’w roi ar waith ar ôl y digwyddiad ac mae’n hanfodol bod pobl yn ymgyfarwyddo â’r system ciwio ymlaen llaw.  

“Mae ciwiau yn anochel pan fo cymaint o bobl yn dymuno teithio felly hoffem ddiolch i gwsmeriaid ymlaen llaw am eu hamynedd a’u cydweithrediad.” 

Bydd GWR yn rhedeg trenau ychwanegol i Gasnewydd a Bryste Temple Meads o 2247 ymlaen, ac i Abertawe o 2253 ymlaen. 

Dywedodd Richard Rowland, Cyfarwyddwr Gweithrediadau a Gwasanaethau Cwsmeriaid GWR:

“Rydyn ni’n gwneud popeth o fewn ein gallu i helpu cwsmeriaid gyrraedd gartref ar ôl y reslo ac rydyn ni’n falch o allu darparu’r gwasanaethau ychwanegol hyn. 

“Ond bydd gorsaf Caerdydd Canolog yn eithriadol o brysur ar ôl y WWE a byddem yn annog cwsmeriaid i wirio amseroedd teithio a chaniatáu digon o amser i giwio i ddal y trên yn ddiogel”. 

Anogir pobl sy’n teithio yng Nghaerdydd i ddefnyddio bysiau lleol, cynlluniau llogi beiciau a llwybrau cerdded ar gyfer teithiau byrrach i ganol y ddinas.  

Ar ôl y digwyddiad, cofiwch y bydd gorsaf Heol y Frenhines Caerdydd yn cau am 9.30pm.  

Mae’n syniad da i bob teithiwr sy’n teithio ddydd Sadwrn 3 Medi daro golwg ar y wybodaeth deithio ddiweddaraf ar gyfer eu teithiau ddwy-ffordd drwy fynd i wefan, ap a sianeli cyfryngau cymdeithasol TrC.  

Mae’n bosib y bydd prif lwybrau’r rhwydwaith ffyrdd i mewn i Gaerdydd ac ar y cyrion, fel yr M4, yr A48(M) a’r A4232, yn brysurach nag arfer oherwydd y digwyddiad, felly unwaith eto mae’n syniad da i gynllunio ymlaen llaw a chaniatáu digon o amser ar gyfer teithio. Gallwch weld y wybodaeth ddiweddaraf am draffig ar y rhwydwaith cefnffyrdd ar wefan Traffig Cymru ac ar sianeli cyfryngau cymdeithasol Traffig Cymru. 

Nodiadau i olygyddion


Mae arwyddion electronig ar y rhwydwaith cefnffyrdd wedi bod yn rhybuddio defnyddwyr y ffordd am y digwyddiad ers wythnos. 

Ewch i www.traffig.cymru yn Gymraeg neu www.traffic.wales yn Saesneg i gael y wybodaeth ddiweddaraf am deithio ar rwydwaith ffyrdd Cymru neu dilynwch Traffig Cymru ar Twitter @TraffigCymruD yn Gymraeg neu @TrafficWalesS yn Saesneg am y diweddaraf ar draws de Cymru. 

Llwytho i Lawr