English icon English

Penodi Prif Weithredwr Dros Dro i Gorff Llais y Dinesydd ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Interim Chief Executive to the Citizen Voice Body for Health and Social Care (CVB) appointed

Mae prif weithredwr y bwrdd Cynghorau Iechyd Cymuned yng Nghymru, Alyson Thomas wedi’i phenodi yn Brif Weithredwr Dros Dro i’r Corff Llais y Dinesydd newydd ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

O fis Ebrill y flwyddyn nesaf ymlaen bydd Corff Llais y Dinesydd ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol, dan gadeiryddiaeth yr Athro Medwin Hughes, yn disodli Cynghorau Iechyd Cymuned wrth ddarparu llais i’r cyhoedd o ran cynnal gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Bydd Alyson, sydd wedi’i phenodi gan aelodau anweithredol Corff Llais y Dinesydd ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol, yn hanfodol wrth arwain y sefydliad newydd, gosod ei drywydd, a llunio sut y caiff ei redeg.

Mae gan Alyson brofiad helaeth o ddatblygu polisi, ac o ran galluogi lleisiau dinasyddion i gael eu clywed drwy ei hamser yn arwain y Cynghorau Iechyd Cymuned i Gymru.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eluned Morgan: “Rwy’n croesawu’r penodiad hwn ac yn edrych ymlaen at weithio gydag Alyson wrth iddi arwain y gwaith o sefydlu’r corff newydd pwysig hwn.

Bydd ei phrofiad o arwain y Cynghorau Iechyd Cymuned i Gymru yn hynod werthfawr wrth sicrhau bod lleisiau pobl Cymru yn cael eu clywed ar y materion iechyd a gofal cymdeithasol sydd bwysicaf iddynt.”

Wrth siarad am y penodiad, dywedodd yr Athro Hughes:

“Rwy’n falch o gyhoeddi penodiad Alyson ac rwy’n siŵr y bydd hi’n gwneud cyfraniad gwerthfawr wrth arwain Corff Llais y Dinesydd ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

Rwy’n edrych ymlaen at weithio gydag Alyson a’r Bwrdd wrth inni sefydlu’r corff newydd hwn a chynllunio ein trywydd ar gyfer y dyfodol.”

Mae Alyson wedi’i phenodi am gyfnod hyd at flwyddyn a bydd yn dechrau ei rôl ar unwaith.

Nodiadau i olygyddion