English icon English

Cymru yng Nghwpan y Byd FIFA: Gweinidog yr Economi yn datgelu prosiectau Llywodraeth Cymru i fynd â Chymru i'r Byd

Wales at the FIFA World Cup: Economy Minister unveils Welsh Government projects to take Wales to the World

"Gyda chynulleidfa fyd eang o bum biliwn o bobl, mae Cwpan y Byd FIFA yn cynnig llwyfan i fynd â Chymru i'r byd."

Dyna'r neges gan y Gweinidog Economi, Vaughan Gething, sydd heddiw wedi datgelu amryw o fentrau sy'n cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru, fydd yn hybu a dathlu Cymru yn y twrnament yn Qatar.

Bydd Cronfa Cefnogi Partneriaid Cwpan y Byd Llywodraeth Cymru yn gweld cyfanswm o £1.8 miliwn yn cael ei rannu ymhlith 19 prosiect.

Bydd y rhain yn helpu i rannu gwerthoedd a gwaith ein cenedl i sicrhau gwaddol cadarnhaol a pharhaol i Gymru a phêl-droed yng Nghymru.

Bydd hyn yn cynnwys rhannu ein diwylliant, ein celfyddydau a'n treftadaeth i ddod yn rhan annatod o'r dathliad byd-eang, cefnogi mentrau a fydd yn helpu i ddatblygu'r economi, codi proffil Cymru a'r Iaith Gymraeg, a hyrwyddo Cymru sy'n gyfrifol yn fyd-eang.

Mae'r prosiectau llwyddiannus a fydd yn derbyn arian yn cynnwys:

  • Gŵyl o greadigrwydd a diwylliant fydd yn uno cymunedau, dan arweiniad Cymdeithas Bêl-droed Cymru.
  • Cyngerdd yng Ngogledd America yn tynnu sylw at ddiwylliant Cymru o bob math, o gerddoriaeth, i farddoniaeth a pherfformio. Bydd yn cael ei ddarlledu cyn y gêm rhwng Cymru ac UDA.
  • Amgueddfa Bêl-droed newydd Cymru yn Wrecsam, a fydd yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau a gweithgareddau i ddogfennu profiadau ystod amrywiol o gefnogwyr a chwaraewyr.
  • Menter 'Ysbrydoli Cenhedlaeth' sy'n cyflwyno amrywiaeth ddwyieithog o ddigwyddiadau i'r clybiau Bechgyn a Merched ar draws Cymru.
  • Band y Barry Horns yn Qatar.
  • Hyrwyddo'r Gymraeg drwy sesiynau canu cymunedol.
  • Bydd Mentrau Iaith hefyd yn comisiynu murluniau gan artistiaid o Gymru, yn cynnal cystadlaethau dylunio hetiau bwced ac yn cynhyrchu crysau retro anferth i gefnogwyr eu harwyddo a'u hanfon i Qatar i'w harddangos yng ngwersyll hyfforddi Cymru yn Doha.

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething:

"Mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu ystod uchelgeisiol a chyffrous o weithgareddau i wneud yn fawr o'r cyfle unigryw a gynigir gan dîm pêl-droed dynion Cymru'n cymeryd rhan yng Nghwpan y Byd FIFA.

"Dyma'r cyfle mwyaf arwyddocaol o ran marchnata a diplomyddiaeth chwaraeon a gyflwynwyd erioed i Lywodraeth Cymru o ystyried proffil y digwyddiad.

"Byddwn yn hyrwyddo Cymru, gan rannu ein gwerthoedd o gynwysoldeb ac amrywiaeth, sicrhau diogelwch pobl Cymru yn y twrnamaint, a sicrhau etifeddiaeth bositif a pharhaol o'n cyfranogiad yn y twrnamaint.

"Mae'n hanfodol ein bod yn creu gwaddol o Gwpan y Byd sy'n ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o fechgyn a merched ac yn tynnu sylw at sut y gall cymeryd rhan mewn chwaraeon wella iechyd a lles ein cenedl.

"Rydym yn benderfynol o elwa ar y llwyddiant hanesyddol hwn a sicrhau buddion gwirioneddol i bobl yma yng Nghymru."