- Cwcis sydd wir eu hangen
Cwcis sydd wir eu hangen
Mae rhai o’n cwcis yn hanfodol ac ni fydd rhannau o’r safle’n gweithio hebddynt. Mae hyn yn cynnwys cofnodi eich dewisiadau cadw cwcis.
26 Medi 2022
Bydd y rhan fwyaf o wasanaethau Trafnidiaeth Cymru (TrC) ar draws rhwydwaith Cymru a’r Gororau yn cael eu hatal am ddau ddiwrnod ym mis Hydref oherwydd y gweithredu diwydiannol cenedlaethol parhaus.
Mae Undeb Cenedlaethol y Gweithwyr Rheilffyrdd, Morwrol a Thrafnidiaeth (RMT) wedi cyhoeddi y bydd dau ddiwrnod o weithredu diwydiannol yn digwydd ddydd Sadwrn 1 Hydref a dydd Sadwrn 8 Hydref, ar draws Network Rail a 15 o weithredwyr trenau.
Mae ASLEF hefyd wedi cyhoeddi y bydd ei aelodau ar streic ddydd Sadwrn 1 a dydd Mercher 5 Hydref ar draws 12 gweithredwr trenau, tra bo TSSA wedi cyhoeddi y bydd ar streic ar 1 Hydref yn Network Rail ac 11 o weithredwyr trenau.
Nid yw Trafnidiaeth Cymru yn ymwneud â’r gweithredu diwydiannol hwn, ond o ganlyniad i’r anghydfod rhwng yr undebau a Network Rail, ni fydd Trafnidiaeth Cymru yn gallu gweithredu nifer o wasanaethau rheilffordd ar seilwaith Network Rail ar 1 ac 8 Hydref, tra bydd rhai gwasanaethau’n llawer prysurach na'r arfer ar 5 Hydref.
Ceir rhagor o wybodaeth am y gweithredu diwydiannol ar wefan TrC yma .
Dydd Sadwrn 1 a dydd Sadwrn 8 Hydref – gwasanaeth rheilffordd cyfyngedig iawn, peidiwch â theithio ar y trên
Yr unig wasanaethau fydd yn gweithredu fydd ar Linellau Craidd y Cymoedd yn Ne Cymru a'r gwasanaeth gwennol rhwng Caerdydd a Chasnewydd, gydag un trên yn gweithredu bob awr i bob cyfeiriad, rhwng 07:30 a 18:30.
Ni fydd unrhyw wasanaethau TrC eraill ledled Cymru a’r Gororau yn gallu gweithredu.
Bydd gwasanaethau trên yn gweithredu rhwng Caerdydd Canolog a Rhymni, Treherbert, Aberdâr a Merthyr Tudful yn gwasanaethu bob awr i bob cyfeiriad rhwng 07:30 a 18:30.
Atgoffir cwsmeriaid y bydd capasiti trafnidiaeth ffordd yn gyfyngedig iawn rhwng Radur a Chaerdydd cyn 07:30 ac ar ôl 18:30, pan na fydd Trafnidiaeth Cymru yn gallu rhedeg trenau trwy Llandaf a Cathays.
Bydd amserlenni diwygiedig ar gyfer dydd Sadwrn 1 Hydref mewn cynllunwyr taith ar-lein o ddydd Mawrth 27 Medi.
Dydd Gwener 30 Medi a dydd Gwener 7 Hydref (y dyddiau cyn y streiciau)
Mae disgwyl hefyd y bydd tarfu ar y dyddiau cyn y gweithredu diwydiannol, a bydd gwasanaethau yn llawer prysurach nag arfer.
Cynghorir cwsmeriaid i deithio dim ond os oes gwir angen ar ddydd Gwener 30 Medi a 7 Hydref, ac i wirio cynllunwyr teithio ar-lein am unrhyw newidiadau byr rybudd i wasanaethau hwyr y nos o ganlyniad i streic y diwrnod canlynol.
Llinellau Craidd y Cymoedd - Dydd Sadwrn 1 Hydref a Dydd Sadwrn 8 Hydref
Bydd gwasanaethau cyntaf y dydd sy'n gadael Treherbert, Aberdâr a Merthyr Tudful i gyd yn cael eu hamseru felly byddant yn cyrraedd Radur ar ôl 07:00. Ni fydd unrhyw drenau yn rhedeg cyn 07:00 ar unrhyw lein ac eithrio rhwng Treherbert, Aberdâr, Merthyr Tudful – Radur.
Ni fydd unrhyw wasanaethau trafnidiaeth ffordd a gynlluniwyd ymlaen llaw ar waith cyn 18:30 ar Linellau Craidd y Cymoedd.
Mae gwasanaethau’n debygol o fod yn llawer prysurach nag arfer – yn enwedig gwasanaethau cynta'r dydd.
Holl wasanaethau eraill TrC – dydd Sul 2 a 9 Hydref
Ni fydd unrhyw drenau yn rhedeg cyn 07:00 ar y dyddiau hyn, ac mae’r trenau hynny sy’n rhedeg yn debygol o fod yn llawer prysurach nag arfer – yn enwedig gwasanaethau cyntaf y dydd. Mae disgwyl hefyd y bydd tarfu ar wasanaethau oherwydd bod trenau'n cael eu dadleoli o ganlyniad i’r streic y diwrnod cynt.
Yn benodol, disgwylir i wasanaethau i Gaerdydd fod yn brysurach nag arfer ar fore 2 Hydref oherwydd Hanner Marathon Caerdydd .
Anogir cwsmeriaid i wirio gwefan, ap neu gyfryngau cymdeithasol TrC cyn teithio, yn enwedig ar gyfer gwasanaethau cyntaf y dydd o’u gorsaf wreiddiol.
Mae disgwyl y bydd y gwasanaethau ar y diwrnodau hyn yn hynod o brysur ac anogir cwsmeriaid i deithio ar y dyddiadau eraill, sef dydd Llun 3 neu 10 Hydref.
Dydd Mercher 5 Hydref
Mae rhai o’n gwasanaethau’n debygol o fod yn hynod o brysur o ganlyniad i’r amserlen sydd wedi'i chwtogi'n sylweddol a roddwyd ar waith gan weithredwyr eraill. Mae hyn yn cynnwys:
- Gwasanaethau rhwng Caerfyrddin a Chasnewydd
- Gwasanaethau rhwng Amwythig a Wolverhampton
- Gwasanaethau rhwng Caerdydd a Cheltenham
- Gwasanaethau rhwng Caer a Chaergybi
- Gwasanaethau rhwng Caer a Maes Awyr Manceinion
- Gwasanaethau rhwng Crewe a Manceinion Piccadilly
Oherwydd bod gorsaf Birmingham New Street wedi cau, bydd gwasanaethau rhwng Gogledd Cymru a Birmingham International yn dod i ben yn Wolverhampton.
Cynghorir cwsmeriaid i deithio dim ond os oes angen ac anogir cwsmeriaid i deithio ar y dyddiadau eraill, sef dydd Mawrth 4 neu ddydd Iau 6 Hydref.
Bydd amserlenni diwygiedig ar gyfer dydd Mercher 5 Hydref mewn cynllunwyr teithio ar-lein o ddydd Iau 29 Medi.
Tocynnau cyfredol
Mae gan ddeiliaid tocynnau advance yr hawl i newid eu taith gan ddefnyddio'r polisi 'Archebu Gyda Hyder/Booking with Confidence ' a caiff y ffioedd newid siwrnai eu hepgor os gwneir cais cyn 18:00 y diwrnod cyn teithio. Gallwch ddal newid eich tocynnau ar ôl yr amser hwn, a hyd at amser ymadael, ond byddwch yn gorfod talu ffi o £10 i newid taith. Mae hyn yn berthnasol i bob tocyn a newidir.
Caniateir i gwsmeriaid sydd â thocynnau Unrhyw Amser, Allfrig neu Advance, hefyd tocynnau Ranger/Rover, ar gyfer un o’r cwmnïau trên (TOC) sydd ar streic – dyddiedig 1, 5 neu 8 Hydref - deithio naill ai ar y diwrnod cyn y dyddiad ar y tocyn neu hyd at 11 Hydref 2022.
Os oes gennych docyn dwyffordd ac nad oes modd i chi wneud rhan gyntaf o'ch taith oherwydd y streic, caniateir ad-daliad ar eich tocyn hyd yn oed os nad yw streic yn effeithio ar ail ran eich taith. Mae'r un peth yn wir os yw streic yn effeithio ar y daith ddychwelyd ond nid ar y rhan gyntaf o'r daith.
Fel arall, gall cwsmeriaid hawlio ad-daliad llawn ad-daliadau, heb unrhyw ffi weinyddol. Gall deiliaid tocyn tymor wneud cais am iawndal drwy system Ad-daliad am Oedi .