Skip to main content

New TfW trains to be showcased at global event

21 Medi 2022

Mae dwy o drenau newydd sbon Trafnidiaeth Cymru (TrC) a fydd yn moderneiddio rhwydwaith Cymru a’r Gororau yn cael eu harddangos yn ffair fasnach diwydiant rheilffyrdd fwyaf y byd.

Bydd trenau FLIRT (Fast, Light, Intercity and Regional Train) tri-modd a CITYLINK, y ddau wedi’u hadeiladu gan y prif wneuthurwr Stadler, yn cael eu datgelu yr wythnos hon yn y ffair fasnach Innotrans yn Berlin, sy’n cael ei chynnal bob dwy flynedd.

Mae disgwyl i dros 150,000 o weithwyr proffesiynol yn y diwydiant rheilffyrdd fynychu Innotrans dros bedwar diwrnod yr wythnos hon (Medi 20-23) ar dir arddangos Mess Berlin.

Dywedodd Alexia Course, Prif Swyddog Masnachol TrC: “Rydyn ni’n hynod falch o weld ein trenau Stadler newydd yn cael eu dangos yn InnoTrans eleni ac rydyn ni’n edrych ymlaen at ddechrau eu cyflwyno i rwydwaith Cymru a’r Gororau dros y misoedd a’r blynyddoedd nesaf.

“Rydyn ni ar daith drawsnewidiol yn TrC ac mae’r trenau newydd hyn yn rhan allweddol o wella profiad y cwsmer, er mwyn i ni allu annog mwy o bobl i deithio’n gynaliadwy ar drafnidiaeth gyhoeddus. 

“Mae’r rhain yn drenau modern, gyda nodweddion o ansawdd uchel a fydd yn cynnig trafnidiaeth fwy hygyrch, dibynadwy a gwyrdd i’n cwsmeriaid.”   

Yn ogystal â chymwysterau amgylcheddol cryf y ddau drên, byddant hefyd yn gwella profiad y cwsmer yn sylweddol o ran lefelu, aerdymheru, socedi pŵer, wi-fi, sgriniau gwybodaeth i deithwyr, mannau parcio i feiciau a llefydd i’r rheini sydd â symudedd cyfyngedig.

Bydd y sŵn a’r dirgryndod yn cael eu cadw mor isel â phosibl, gyda’r trenau newydd yn dawelach na fflyd bresennol TrC.

Mae TrC wedi archebu 24 o’r trenau tri-modd (trydan, batri neu ddisel) FLIRT a 36 o dram-drenau CITYLINK, gyda 11 trên FLIRT diesel arall.

Dywedodd Ralf Warwel, cyfarwyddwr gwerthiant y DU ac Iwerddon: “Pleser gan Stadler yw darparu 71 o drenau o’r radd flaenaf i Trafnidiaeth Cymru.  Maen nhw’n enghraifft o’n technoleg werdd flaengar, maen nhw'n rhoi hwb i deithio cynaliadwy ac yn rhoi profiad teithio gwell i'n teithwyr.”

Bydd y trenau tri-modd o’r radd flaenaf yn cael eu pweru gan drydan i’r gogledd o Gaerdydd a diesel i’r de, gan ddarparu cysylltedd di-dor ar draws dinasoedd. Mae’r dechnoleg hefyd yn lleihau’r angen am estyniadau costus i drydaneiddio ac uwchraddio seilwaith.

Wedi’i addasu i gyd-fynd â’r rhwydwaith tramiau a rheilffyrdd sy’n gwasanaethu Metro De Cymru, gall trenau tram CITYLINK deithio ar draciau rheilffordd a thramiau a chael caban i yrrwyr ar bob pen.

Mae TrC yn buddsoddi dros £800m mewn trenau newydd ar gyfer rhwydwaith Cymru a’r Gororau, a bydd y cyntaf yn cael ei gyflwyno yn hydref 2022. Mae disgwyl i drenau FLIRT tri-modd a CITYLINK ymuno â’r gwasanaeth yn 2024.