English icon English

Ymateb Llywodraeth Cymru i ddata perfformiad diweddaraf GIG Cymru

Welsh Government response to latest NHS Wales performance data

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Rydym yn parhau i weld gwelliannau a nifer fawr o bobl yn cael triniaeth, gyda mwy na 358 mil o ymgynghoriadau wedi’u cynnal yn y mis diwethaf. Mae nifer y llwybrau gydag amseroedd aros o fwy na dwy flynedd wedi lleihau am y pedwerydd mis yn olynol, gan leihau 14% ers yr oedd ar ei uchaf ym mis Mawrth. Ym mis Gorffennaf, caewyd ychydig dros 87,000 o lwybrau cleifion, sy’n gynnydd sylweddol o gyfnod cynnar y pandemig a 10% yn uwch nag yn ystod yr un mis yn 2021.

Mae’r perfformiad yn erbyn y targedau ar gyfer gwasanaethau diagnostig a therapïau yn parhau i wella er y cynnydd cyffredinol yn y galw am y ddau wasanaeth.

Mewn gwasanaethau diagnostig, gwelwyd lleihad yn nifer y llwybrau cleifion gyda chyfnod aros o fwy nag 8 wythnos, ac ar gyfer therapïau gwelwyd lleihad yn y nifer sy’n aros yn hirach na phedair wythnos ar ddeg i ychydig dros 12,500.

Mae gwasanaethau a staff gofal argyfwng yn parhau i fod o dan bwysau ac nid yw perfformiad ar hyn o bryd ar y lefel rydyn ni, y byrddau iechyd na’r cyhoedd yn dymuno iddo fod. Fodd bynnag, mae’n galonogol gweld lleihad o 16% mewn derbyniadau argyfwng i’r ysbyty yng Nghymru o gymharu â mis Awst 2021. Mae ein buddsoddiad mewn gwasanaethau Gofal Argyfwng yr Un Diwrnod yn helpu i gefnogi’r lleihad hwn a gwella canlyniadau i gleifion. Gwelsom hefyd ychydig o welliant mewn perfformiad yn erbyn y targed pedair awr, a gwelwyd lleihad yn yr amser (canolrifol) a dreuliwyd ar gyfartaledd mewn adrannau argyfwng ym mis Awst.

Gwelwyd gwelliant hefyd yn yr amseroedd ymateb i alwadau oren (canolrifol) a oedd bron i 23 munud yn gyflymach nag ym mis Gorffennaf. Mae galwadau Oren yn cynnwys ymateb i drawiad ar y galon a strôc. Rydym yn parhau i roi blaenoriaeth i wella’r broses o gynllunio i ryddhau a chynyddu’r capasiti cymunedol cyn cyfnod y gaeaf. 

Nodiadau i olygyddion

Nid yw nifer y llwybrau cleifion yr un fath â nifer y cleifion unigol, oherwydd bydd rhai pobl ar fwy nag un llwybr.

Nid oes gennym ystadegau swyddogol am nifer y cleifion unigol sy’n aros i ddechrau triniaeth. Fodd bynnag, mae gwybodaeth reoli newydd yn awgrymu ym mis Gorffennaf 2022, pan roedd mwy na 743,000 o lwybrau cleifion agored, bod oddeutu 585,061 o gleifion unigol ar y rhestrau aros am driniaeth yng Nghymru.

Mae rhagor o fanylion ar flog prif ystadegydd Llywodraeth Cymru